1. Y ferch wen, fu'r ychwaneg
  2. Fel yr oedd un fil ar ddeg
  3. Gweryddon, a gâi raddoedd,
  4. Gwenfrewi deg, un fryd oedd.
  5. Gwenfrewi, gwn, a friwynt,
  6. Achos gŵr oedd i chas, gynt;
  7. Caradog, lawog o lid,
  8. Hyd i theml daeth i'w hymlid,
  9. A Charadog ni chredai,
  10. Min i gledd drwy i mwnwgl âi.
  11. Lladdodd Wen; lle 'dd oedd, unawr,
  12. Llyn tawdd a'i llyncawdd i'r llawr;
  13. Gwae'r ynfyd, er gwirionfun,
  14. Gwae o'i lladd, a'i golli i hun !
  15. Trwy i mwnwgl, taro meinwen,
  16. Treiglo'r arf trwy goler wen !
  17. Rhedeg o'r pen, rhoi deigr pur,
  18. Obry at wastad, briw tostur;
  19. Codi i phen, lle cad ffynnon;
  20. Ban y rhoes Beuno ar hon,
  21. Clymu o hwn cleimio i henaid
  22. Wrth y corff, o'i wyrth y caid;
  23. Nod o amgylch nid ymgudd,
  24. Nod yr arf yn edau rudd, --
  25. Cynnyrch nef, cyn oeri i chnawd,
  26. Am wirionder morwyndawd !
  27. Tra fu'r mab ar i aberth,
  28. A'i weddi'n Nuw iddi'n nerth
  29. Arwain afon o'r nefoedd
  30. A chwys gras, a chysegr oedd;
  31. Teilynged, pan goded Gwen,
  32. Tarddu ennaint Iorddonen;
  33. Llai o ferw yn llif Aeron
  34. Neu Euphratês no ffrwd hon;
  35. Gihon yn dwyn y gwin da,
  36. Phison, Tigris, on tagra;
  37. Awel Dibr neu wlad Ebryw,
  38. Aroglau nef i'r glyn yw;
  39. Ager gwin o'i gro a gaid,
  40. Fal gwynt o fêl y gyntaid;
  41. Main gwyarog mewn gweryd,
  42. Mwsg a bawm ym mysg y byd ;
  43. Man pêr ar bob maen purwyn,
  44. Main ag ôl gwaed mwnwgl gwyn;
  45. Beth ydyw'r ôl byth a drig ?
  46. Band i gwaed bendigedig ?
  47. Dagrau fel cawod egroes,
  48. Defni Crist, o fannau croes;
  49. Daioni corff dyn, o caid, --
  50. Derbyn deigr dŵr bendigaid;
  51. Dyfriw gwaed, fal dwfr a gwin,
  52. Dwyn iwch wyrthiau dan chwerthin;
  53. Crechwen gwraidd crychwyn groywddwfr,
  54. Coel iechyd ynt --- clochau dwfr;
  55. Aber brwd o'r berw briwdan,
  56. Os brwd gwlith yr Ysbryd Glân;
  57. Irder byd yw'r dŵr bedydd,
  58. A elwir ffons olew'r ffydd.
  59. Aed i'w nofio'r dyn afiach,
  60. Ef âi'r naill ai'n farw ai'n iach;
  61. A farno haint i farw'n hon,
  62. F'a i'r nef o'r un afon;
  63. O'i rhad a'i gwyrth, rhoed i gant
  64. Einioes echnos yn Sychnant;
  65. Iechyd o'i glefyd i glaf,
  66. Ag i hen-gleirch gwahan-glaf ;
  67. Ennaint o fwg Nant y Fagl
  68. I rai truain yw'r triagl;
  69. Rhag heiniau fil, rhag hun ferr,
  70. Rhag gwayw llewyg, rhag llawer,
  71. Gwared a gâi Gred i gyd,
  72. Gan gwynfan, gwan ag ynfyd.
  73. Gwyliwch gant, goleuwch gŵyr,
  74. Gwelais yno gael synnwyr;
  75. Y dall a wŷl, aed i'w llan,
  76. A dyn crupl, o dôi'n cropian;
  77. Doen yno â dyn annoeth,
  78. Oddiyno daw yn ddyn doeth;
  79. Aed i offrwm y diffrwyth,
  80. E ddeffry hon iddo i ffrwyth;
  81. Eithr, deufraich a thraed efrydd,
  82. A fai yn rhwym, fo âi'n rhydd;
  83. Blin a thrwm, heb law na throed,
  84. A ddaw adref ar ddeudroed;
  85. Bwrw dwyffon i'w hafon hi,
  86. Bwrw naid ger i bron, wedi;
  87. Byddair, help a ddyry hon,
  88. Mud a rydd ymadroddion;
  89. Arwyddion Duw ar ddyn dwyn
  90. Ef âi'r marw'n fyw er morwyn.
  91. Os help y feddyges hon,
  92. Y ddau iechyd a ddichon --
  93. Iechyd corff, uchod y caid,
  94. A chadw i'n iechyd enaid.
  95. Pob iarll âi, pawb o wŷr llys,
  96. Pob brenin, pob rhyw ynys;
  97. Edwart, daeth i dir at hon,
  98. A'r gweryd ar i goron;
  99. Rhoen ar wellt, yr hen a'r iau,
  100. Ag ar lawnt, eu garlantau;
  101. Mae goruthr am i gweryd,
  102. Maint oedd bwys minteioedd byd;
  103. Mae'r dyrfa mor awdurfawr,
  104. Mae olau'r llu'n malu'r llawr;
  105. Mae enaid rhydd, maint yw'r ôl
  106. Oes, baradwys ysbrydol;
  107. Mae olew nef ym mlaen nant,
  108. Yn lle Beuno'n llaw Bennant.
  109. Am un Abad, mae'n obaith,
  110. Y gwŷl Duw i glod a'i waith;
  111. Yng nghôr yn Iorc, neu 'Nghaer Non
  112. Y gorffenno gau'r Ffynnon !