Llyfr cyntaf Moses yr hwn a elwir Genesis

PENNOD I.

Creadwriaeth y nêf, a'r ddaiar, 2 Y goleuni a'r tywyllwch, 8 Y ffurfafen, 16 Y pysc, yr adar, a'r anifeiliaid, 26 A dyn, 29 Llynniaeth dyn ac anifail.

1:1 Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a'r ddaiar.
1:2 Y ddaiar oedd afluniaidd a gwâg, a thywyllwch [ydoedd] ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.
1:3 Yna Duw a ddywedodd, bydded goleuni, a goleuni a fû.
1:4 Yna Duw a w elodd y goleuni, mai dâ [oedd,] a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.
1:5 A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn nôs: a'r hwyr a fû, a'r borau a fû, y dydd cyntaf.
1:6 Duw hefyd a ddywedodd bydded ffurfafen yng-hanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a dyfroedd.
1:7 Yna Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi tann y ffurfafen, a'r dyfroedd y rhai [oeddynt] oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
1:8 A'r ffurfafen a alwodd Duw yn nefoedd: felly yr hwyr a fû, a'r borau a fû, 'r ail ddydd.
1:9 Duw hefyd a ddywedodd, cascler y dyfroedd oddi tann y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sych-dîr: ac felly y bû.
1:10 A'r sych-dîr a alwodd Duw yn ddaiar, chascliad y dyfroedd, a alwodd efe yn foroedd: a Duw a welodd mai dâ oedd.
1:11 A Duw a ddywedodd, egîned y ddaiar egin, [sef] llyssiau yn hadu hâd a phrennau ffrwyth-lawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai [y mae] eu hâd ynddynt at y ddaiar: ac felly y bû.
1:12 A'r ddaiar a ddûg egin [sef] llyssiau yn hadu hâd wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth y rhai [y mae] eu hâd ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.
1:13 Felly yr hwyr a fu, a'r borau a fu, y trydydd dydd.
1:14 Duw hefyd a ddywedodd, bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nôs: a byddant yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
1:15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar: ac felly y bu.
1:16 Oblegit Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion, y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu y nôs: a'r sêr [hefyd.]
1:17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar:
1:18 Ac i lywodraethu y dydd a'r nôs, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd Duw mai dâ oedd.
1:19 Felly yr hwyr a fu, a'r borau a fu, y pedwerydd dydd.
1:20 Duw hefyd a ddywedodd, heigied y dyfroedd ymlusciaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaiar, at wyneb ffurfafen y nefoedd.
1:21 A Duw a greawdd y mor-feirch mawrion, a phôb ymlusciad byw y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phôb ehediad ascellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.
1:22 Yna Duw ai bendigodd hwynt, gan ddywedyd: ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwwch y dyfroedd yn y môroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.
1:23 A'r hwyr a fû, ar' borau a fu, y pumed dydd.
1:24 Duw hefyd a ddywedodd, dyged y ddaiar [bôb] peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, â'r ymlusciad, a bwyst-fil y ddaiar wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
1:25 Felly y gwnaeth Duw fwyst-fil y ddaiar, wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.
1:26 Duw hefyd a ddywedodd, gwnawn ddŷn ar ein delw ni, wrth ein llûn ein hunain, ac arglwyddiaethant ar bŷsc y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaiar, ac ar bôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar.
1:27 Felly Duw a greawdd y dŷn ar ei lûn ei hun, ar lûn Duw y creawdd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creawdd efe hwynt.
1:28 Duw hefyd ai bendigodd hwynt, a Duw ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwwch y ddaiar, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar bysc y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar bôb bwyst-fil yr hwn a symmudo ar y ddaiar.
1:29 A Duw a ddywedodd wele, mi a roddais i chwi bôb llysieun yn hadu hâd yr hwn [sydd] ar wyneb yr holl ddaiar: a phôb prenn yr hwn [y mae] ynddo ffrwyth prenn yn hadu hâd, a fydd yn fwyd i chwi.
1:30 Hefyd i bôb bwyst-fil y ddaiar, ac i bôb ehediad y nefoedd, ac i bôb [peth] yn symmudo ar y ddaiar yr hwn [y mae] einioes ynddo, [y bydd] pob llysieun gwyrdd yn fwyd: ac felly y bû.
1:31 A gwelodd Duw yr hyn oll a'r a wnaethe, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fû, ar borau a fu, y chweched dydd.

PEN. II.

Duw yn peidio odi wrth ei waith ar y seithfed dydd yr hwn a gyssegrir. 15 Duw yn gosod dyn yn yr ardd. 22 Creadwriaeth gwraig 24 ordinhad priodas.

2:1 FELLY y gorphenwyd y nefoedd a'r ddaiar, ai holl lu hwynt.
2:2 Ac ar y seithfed dydd y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethe efe, ac a orphywysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethe efe.
2:3 A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegit ynddo y gorphywysase oddi wrth ei holl waith, yr hwn a grease Duw i'w wneuthur.
2:4 Dymma genhedlaethau y nefoedd a'r ddaiar, pan greuwyd hwynt yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaiar, a nefoedd,
2:5 Aphôb planhigin y maes cyn ei fod yn y ddaiar, a phôb llysieun y maes cyn tarddu allan: o blegit ni pharase yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaiar, ac nid [ydoedd] dŷn i lafurio y ddaiar.
2:6 Onid tarth a escynodd o'r ddaiar, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaiar.
2:7 A'r Arglwydd Dduw a luniase y dŷn o bridd y ddaiar, ac a anadlase yn ei ffroenau ef anadl enioes, felly yr aeth y dŷn yn enaid byw.
2:8 Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannod ardd yn Eden, o' du y dwyrain, ac a osododd yno y dŷn, yr hwn a luniase efe.
2:9 A gwnaeth yr Arglwydd Dduw, i bôb prenn dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i brenn y bywyd yng-hanol yr ardd, ac i brenn gwybodaeth dâ a drwg, dyfu allan o'r ddaiar.
2:10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
2:11 Henw y gyntaf [yw] Pison: yr hon sydd yn amgylchu holl wlâd Hafila lle [y mae] yr aur.
2:12 Ac aur y wlâd honno sydd dda: yno [y mae] Bdeliwm a'r maen Onix.
2:13 A henw yr ail afon [yw] Gihon, honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiop.
2:14 Ac enw y drydedd afon [yw] Hidecel, honno sydd yn myned o du y dwyrain i Assyria: a'r bedwaredd afon yw Euphrates.
2:15 A'r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dŷn ac ai gosododd ef yng-ardd Eden, iw llafurio, ac iw chadw hi.
2:16 A'r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i'r dŷn, gan ddywedyd: o holl prennau yr ardd gan fwytta y bwyttei.
2:17 Ond o brenn gwybodaeth dâ a drŵg, na fwytta o honaw: o blegit yn y dydd y bwyteich ti o honaw, gan farw y byddi farw.
2:18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedase, nit dâ fod y dŷn ei hunan, gwnaf iddo ymgeledd cymmwys iddo.
2:19 A'r Arglwydd Dduw a luniodd o'r ddaiar holl fwyst-filod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac ai dygodd y dyn i weled pa henw a rodde efe iddynt hwy: a pha fodd bynnac yr henwodd y dŷn bôb peth byw, hynny [fu] ei henw ef.
2:20 A dŷ a henwodd henwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar [holl] ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwyst-filod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.
2:21 A'r Arglwydd Dduw am hynny a wnaeth i drym-gwsc syrthio ar y dŷ, fel y cyscodd, ac efe a gymmerodd un oi assennau ef, ac a gaeodd gîg yn ei lle hi.
2:22 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth yr assen yr hon a gymmerase efe o'r dŷn yn wraig, ac ai dug at y dŷn.
2:23 A'r dŷn a ddywedodd, hon weithian [sydd] ascwrn o'm hescyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, o blegit o ŵr y cymmerwyd hi.
2:24 O herwydd hyn yr ymedu gŵr ai dâd, ac ai fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
2:25 Ac yr oedd&ynt ill dau yn noethion, Adda ai wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

PEN. III.

1 Y sarph yn hudo y wraig. 6 hithe yn denu ei gwr i bechu. 8 y gwr a'r wraig yn ymguddio rhag Duw. 14 Cospedigaeth ar bob vn o'r tri. 15 Addewid o Grist. 19 Bod dyn yn bridd. 22 Bwriad dyn allan o baradwys.

3:1 A'R sarph oedd gyfrwysach na holl fwyst-filod y maes, y rhai a wnaethe yr Arglwydd Dduw, a hi a ddywedodd wrth y wraig, ai diau ddywedyd o Dduw na chaech chwi fwytta o holl brennau 'r ardd?
3:2 A'r wraig a ddywedodd wrth y sarph, o ffrwyth prennau 'r ardd y cawn ni fwytta:
3:3 Ond am ffrwyth y prenn yr hwn [sydd] yng-hanol yr ardd, Duw a dywedodd, na fwyttewch o honaw ac na chyffyrddwch ag ef, rhac eich marw.
3:4 Yna yr sarph a ddywedodd wrth y wraig: ni byddwch feirw ddim.
3:5 Ond gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch chwi, o honaw ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau yn gwybod dâ a drwg.
3:6 Phan welodd y wraig mai dâ oedd [ffrwyth] y prenn yn fwyd, ac mai têg mewn golwg ydoedd, ai fod efe yn brenn dymunol i beri deall, hi a gymmerth oi ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i'w gēr hefyd gyd a hi, ac efe a fwyttaodd.
3:7 Yna eu llygaid hwynt ill dau a agorwyd, a gwybuant mae noethion [oeddynt] hwy, a gwnïasant ddail y ffigus-bren, a gwnaethant arffedogau iddynt .
3:8 Pan glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd ag awel y dydd, yna yr ymguddiodd Adda ai wraig, o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysc prennau 'r ardd.
3:9 A'r Arglwydd Dduw a alwodd ar y dŷn, ac a ddywedodd wrtho, pa le [yr ydwyt] ti?
3:10 Yntef a ddywedodd, dy lais a glywais yn yr ardd, ac mi a ofnais, oblegit noeth [oeddwn]: am hynny yr ymguddiais.
3:11 Yna y dywedodd [Duw:] pwy a fynegodd i ti mai noeth [oeddyt] ti? ai o'r prenn yr hwn y y gorchymynnaswn i ti na fwytteit o honaw, y bwyteaist?
3:12 Ac Adda a ddywedodd: y wraig yr hon a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o'r prenn, a mi a fwytteais.
3:14 (sic!) Yr Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, pa ham y gwnaethost ti hyn? a'r wraig a ddywedodd: y sarph a'm twyllodd, a bwytta a wneuthum.
3:14 Yna'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph: am wneuthur o honot hyn, melldigediccach [wyt] ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwyst-filod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttei holl ddyddiau dy enioes.
3:15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy hâd ti a'i hâd hithe: efe a yssiga dy benn di, a thithe a yssigi ei sodl ef.
3:16 Wrth y wraig y dywedodd, gan amlhau yr amlhaf dy boenau di, a'th feichiogi, mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad [fydd] at dy ŵr, ac efe a feistrola arnat ti,
3:17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o'r prenn am yr hwn y gorchymynnaswn i ti gan ddywedyd, na fwytta o honaw: melldigedic [fydd] y ddaiar o'th achos di, a thrwy lafur y bwyttei o honi holl ddyddiau dy enioes.
3:18 Drain hefyd ac ysgall a ddŵg hi i ti: a llyssiau y maes, a fwyttei di.
3:19 Trwy chwŷs dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaiar; o blegit o honi y'th gymmerwyt, canys pridd [wyt] ti, ac i'r pridd y dychweli.
3:20 A'r dŷn a alwodd henw ei wraig Efa: o blegit hi oedd fam pob [dŷn] byw.
3:21 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda, ac iw wraig ef beisiau crwyn, ac ai gwiscodd am danynt.
3:22 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, wele y dŷn sydd megis un o honom ni i wybod dâ a drwg, weithian gan hynny, [edrychwn] rhac iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o brenn y bywyd, a bwytta, a byw yn dragywyddol :
3:23 Am hynny yr Arglwydd Dduw ai hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaiar, yr hon y cymmerasyd ef o honi.
3:24 Felly efe a yrrodd allan y dŷn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden y Cerubiaid, a llafn cleddyf yscwydedic, i gadw ffordd prenn y bywyd.

PEN. IIII.

1 Genedigaeth Cain ac Abel. 3 Ai hoffrwm 8 Lladdiad Abel. 11 Cospedigaeth Cain. 13 Ai annobaith. 17 Hiliogaeth Cain. 23 Cyssur Lamech. 25 Ganedigaeth Seth, ac adnewyddiad gwir grefydd.

4:1 WEdi hyn, Adda a adnabu Efa ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Gain; ac a ddywedodd: cefais ŷr gan yr Arglwydd.
4:2 A hi a escorodd eil-waith ar ei frawd ef Abel, ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar.
4:3 A bu wedi talm o ddyddiau, i Gain ddwyn o ffrwyth y ddaiar offrwm i'r Arglwydd.
4:4 Ac Abel yntef a ddûg o flaen-ffrwyth ei ddefaid, ac oi braster hwynt: a'r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
4:5 Ond nid edrychodd efe ar Gain, nac ar ei offrwm ef, am hynny y dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wyneb-pryd ef.
4:6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, pa ham y llidiaist? a pha ham y syrthiodd dy wyneb-pryd?
4:7 Os yn ddâ y gwnei, oni chei oruchafieth? ac oni wnei yn ddâ, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd [y mae] ei ddymuniad ef, a thi a feistroli arno ef.
4:8 Yna Cain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac ai lladdodd ef.
4:9 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Gain, mae Abel dy frawd di? yntef a ddywedodd, ni's gwnn, ai ceidwad fy mrawd [ydwyf] fi?
4:10 A dywedodd [Duw,] beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o'r ddaiar.
4:11 Ac yr awrhon melldigedic wyt ti o'r ddaiar, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.
4:12 Pan lafuriech y ddaiar, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth it, gwibiad, a chyrwydrad fyddi ar y ddaiar.
4:13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd mwy [yw] fy anwiredd nac y maddeuir ef.
4:14 Wele gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac oth ŵydd di i'm cuddir: gwibiad hefyd a chyrwydrad fyddaf ar y ddaiar [a] phwy bynnac a'm caffo a'm lladd.
4:15 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, am hynny y dielir yn saith ddyblyg [ar] bwy bynnac a laddo Gain, a'r Arglwydd a osododd nôd ar Gain, rhac i neb a'r ai caffe ei ladd.
4:16 Yna Cain aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhîr Nod, o'r tu dwyrain i Eden.
4:17 Cain hefyd a adnabu ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar Henoch, yna 'r ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd henw y ddinas yn ol henw ei fâb ef Henoch.
4:18 Ac i Henoch y ganwyd Irad, ac Irad a genhedlodd Mehuiael, ac Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.
4:19 A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wragedd: henw y gyntaf [oedd] Ada, a henw 'r ail Sila.
4:20 Ac Ada a escorodd ar Iabel, hwn ydoedd dâd [pob] preswylydd pabell, a [pherchen] anifail.
4:21 A henw ei frawd ef oedd Iubal, ac efe oedd dâd pob teimlydd telyn ac organ.
4:22 Sila hithe a escorodd ar Thubalcain, gweithydd pob celfydd-waith prês a haiarn: a chwaer Tubalcain [ydoedd] Noema.
4:23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, gwragedd Lamech clywch fy llais, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i'm harcholl, a llangc i'm clais.
4:24 Os Cain a dd&ielir seith-waith yna Lamech saith ddeng-waith, a seith-waith.
4:25 Ac Adda a adnabu ei wraig trachefn, a hi a escorodd ar fab, ac hi a alwodd ei enw ef Seth: o herwydd Duw [eb hi] a osododd i mi hâd arall, yn lle Abel, am ladd o Gain ef.
4:26 I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mâb, ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y decreuwyd galw ar enw 'r Arglwydd.

PEN. V.

Hanes Adda. 6 Ai hiliogaeih (sic!) hyd ddwfr diluw.

5:1 DYmma lyfr cenhedlaethau Adda, yn y dydd y creawdd Duw ddŷn, a'r lûn Duw y gwnaeth efe ef.
5:2 Yn wryw, ac yn fanyw y creawdd efe hwynt, ac ai bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt dŷn ar y dydd y creuwyd hwynt.
5:3 Ac Adda a fu fyw ddeng-mhlynedd ar hugain a chant ac a genhedlodd [fâb] ar ei lun, ai ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
5:4 A dyddiau Adda wedi iddo genhedlu Seth oeddynt wythgan mlhynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5:5 Felly holl ddyddiau Adda y rhai y bu efe fyw, oeddynt naw can mlhynedd a deng-mlhynedd ar hugain, ac efe a fu farw.
5:6 Seth hefyd a fu fyw bum-mlhynedd a chan mhlynedd, ac a genhedlodd Enos.
5:7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedloed (sic!) feibion a merched.
5:8 Felly holl ddyddiau Seth oeddynt ddeu-ddeng mhlynedd a naw-can mhlynedd, ac efe a fu farw.
5:9 Ac Enos a fu fyw, ddeng mlhynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
5:10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlhynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:11 Felly holl ddyddiau Enos oeddynt bum mlhynedd a naw-can mlhynedd, ac efe a fu farw.
5:12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
5:13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlhynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:14 Felly holl ddyddiau Cenan oeddynt ddeng mlhynedd, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.
5:15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlhynedd, a thrugain mlhynedd, ac a genhedlodd Iered.
5:16 A Mahalaleel a fu fyw, wedi iddo genhedlu Iered, ddeng mlhynedd ar hugain, ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
5:17 Felly holl ddyddiau Mahalaleel oeddynt, bymtheng mlhynedd, a phedwar ugain ac wyth gan mlhynedd; ac efe a fu farw.
5:18 A Iered a fu fyw ddwy flynedd a thrûgain, a chan mlhynedd, ac a genhedlodd Henoc.
5:19 Yna Iered a fu fyw wedi iddo genhedlu Henoch wyth-gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
5:20 Felly holl ddyddiau Iered oeddynt ddwy flynedd, a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.
5:21 Henoc hefyd a fu fyw bum mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Methuselah.
5:22 A Henoc, a rodiodd gyd a Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dry-chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion, a merched,
5:23 Felly holl ddyddiau Henoc oeddynt bum mlhynedd a thrugain, a thrychant o flynyddoedd.
5:24 Ie rhodiodd Henoc gyd a Duw, ac ni [welwyd] efe: canys Duw ai cymmerase ef.
5:25 Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain, a chant, ac a genhedlodd Lamec.
5:26 A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamec, dwy flynedd a phedwar ugain, a saith gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:27 Felly holl ddyddiau Methuselah oeddynt, naw mlynedd a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.
5:28 Lamec hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlhynedd, ac a genhedlodd fâb;
5:29 Ac a alwoddei (sic!) enw ef Noah, gan ddywedyd hwn a'n cyssura ni, am ein gwaith, a llafur ein dwylo, o herwydd y ddaiar yr hon a felldigodd yr Arglwydd.
5:30 Yna Lamec a fu fyw wedi iddo genhedlu Noah, bymtheng mlhynedd, a phedwar ugain, a phum-can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
5:31 Felly holl ddyddiau Lamec oeddynt, ddwy flynedd, ar bymthec, a thrugain, a saith gan mlhynedd, ac efe a fu farw.
5:32 A Noah ydoedd fab pum can mlwydd pan genhedlodd Noah, Sem, Cham, a Iapheth.

PEN. VI.

Achos dwfr diluw. 8 Hanes Noah. 14 Gwnevthuriad yr Arch.

6:1 YNa y bû pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaiar, a geni merched iddynt,
6:2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg [oeddynt] hwy, a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
6:3 Yna y dywedodd yr Arglwydd nid ymrysona fy yspryd i a dŷn yn dragywydd, oblegit mai cnawd yw efe: ai ddyddiau fyddant ugain mlhynedd, a chant.
6:4 Cawri oedd ar y ddaiar y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta [o'r rhai hynny] iddynt: dymma y cedyrn y rhai [a fuant] wŷr enwoc gynt.
6:5 A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dŷn ar y ddaiar, â [bod] holl fwriad meddyl-fryd ei galon yn unic yn ddrygionus bôb amser.
6:6 Yna yr edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hanaw efe ddyn ar y ddaiar, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
6:7 A'r Arglwydd a ddywedodd deleaf ddŷn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaiar, o ddŷn, hyd anifail, hyd yr ymlusciad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennif eu gwneuthur hwynt.
6:8 &oara; Ond Noah a gafodd ffafor yng-olwg yr Arglwydd.
6:9 Dymma genhedlaethau Noah, Noah [oedd] ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd a Duw y rhodiodd Noah.
6:10 A Noah a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cam ac Iapheth.
6:11 A'r ddaiar a lygreasyd ger bron Duw; llanwasyd y ddaiar hefyd a thrawsedd.
6:12 Yna yr edrychodd Duw ar y ddaiar, ac wele hi a lygreasyd, canys pôb cnawd a lygrease ei lwybr ar y ddaiar.
6:13 A Duw a ddywedodd wrth Noah, diwedd pôb cnawd a ddaeth ger fy mron: o blegit llanwyd y ddaiar a thrawsedd oi herwydd hwy: ac wele myfi ai difethaf hwynt gyd ar ddaiar.
6:14 Gwna di it Arch o goed Gopher, yn gellau y gwnei 'r Arch, a phŷga hi oddi fewn, ac oddi allan a phŷg.
6:15 Fel hyn y gwnei di hi, tri chant cufydd [fydd] hŷd yr Arch, dec cufydd a deûgain ei llêd, a dec cufydd ar hugain ei huchter.
6:16 Gwna Fenestr i'r Arch, a gorphenn [hi] yn gufydd oddi arnodd: a gosot ddrws yr Arch yn ei hystlys: o dri [uchder] y gwnei di hi.
6:17 O herwydd wele fi yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddifetha pob cnawd, yr hwn [y mae] anadl enioes ynddo, oddi tann y nefoedd: yr hyn oll [sydd] ar y ddaiar a drenga.
6:18 Ond a thi y cadarnhaf fyng-hyfammod; o blegit i'r Arch yr ei di, a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyd a thi.
6:19 Ac o bôb [peth] byw, o bôb cnawd, y dygi ddau o bôb [rhyw] i'r arch iw cadw [hwynt] yn fyw gyd a thi; gwryw a banyw fyddant.
6:20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifailiaid wrth eu rhywogaeth, o bôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth, dau o bôb [rhywogaeth] a ddeuant attat i'w cadw yn fyw.
6:21 A chymmer di it o bôb bwyd yr hwn a fwytteir, a chascl attat; a bydded yn ymborth iti, ac iddynt hwythau.
6:22 Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynase Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

PEN. VII.

1 Mynediad Noah ai eiddo i'r arch. 17 y diluw yn dyfod, ac yn difetha y rhan arall o'r byd.

7:1 YNa y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, dôs di, a'th holl dŷ i'r Arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn yn yr oes hon, ger fy mron i.
7:2 O bôb anifail glân y cymmeri gyd a thi bôb yn saith, y gwryw ai fanyw, a dau o'r anifailiaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a'i fanyw:
7:3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bôb yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw hâd yn fyw ar wyneb yr holl ddaiar.
7:4 o blegit wedi saith niwrnod etto, mi a lawiaf ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs: ac mi a ddeleaf oddi ar wyneb y ddaiar bôb peth byw a'r a wneuthum i.
7:5 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd iddo.
7:6 Noah hefyd [ydoedd] fâb chwe chan mlwydd, pan fu y diluw ddyfroedd ar y ddaiar.
7:7 Yna y daeth Noah, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef i'r Arch, rhac y dwfr diluw.
7:8 O'r anifeiliaid glân, ac o'r anifeiliaid y rhai nid [oeddynt] lân, o'r ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusce ar y ddaiar,
7:9 Y daethant at Noah i'r Arch bôb yn ddau, yn wryw, ac yn fanyw, fel y gorchymynnase Duw i Noah.
7:10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaiar.
7:11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o'r mîs, ar y dydd hwnnw y rwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
7:12 Ar glaw fu ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos.
7:13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Iapheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd a hwynt, i'r Arch.
7:14 Hwynt, a phôb bwyst-fil wrth ei rywogaeth, a phôb anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar wrth ei rywogaeth, a phôb ehediad wrth ei rywogaeth, [sef] pôb rhyw aderyn.
7:15 A daethant at Noah i'r Arch bôb yn ddau, o bôb cnawd yr hwn [yr oedd] ynddo anadl enioes.
7:16 A'r rhai a ddaethant, yn wryw, a banyw y daethant o bôb cnawd, fel y gorchymynnase Duw iddo, yna 'r Arglwydd a gaeodd arno ef.
7:17 A'r diluw fu ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, a'r dyfroedd a amlhausant, fel y dygasant yr Arch, ac y codwyd oddi ar y ddaiar.
7:18 A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a amlhausant yn ddirfawr ar y ddaiar, a'r Arch a rodiodd ar hyd wyneb y dyfroedd.
7:19 A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorchguddiwyd yr holl fynyddoedd uchel y rhai oeddynt tann yr holl nefoedd.
7:20 Pymthec cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd, tuac i fynu:wedi gorchguddio y mynyddoedd.
7:21 Yna y bu farw pôb cnawd yr hwn a ymlusce ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwyst-filod, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar, a phôb dŷn [hefyd.]
7:22 Yr hyn oll [yr oedd] ffûn anadl enioes yn ei ffroenau: o'r hyn oll [ydoedd] ar y sych-dir, a fuant feirw.
7:23 Ac efe a ddeleodd bôb sylwedd byw a'r a [oedd] ar wyneb y ddaiar, yn ddŷn, yn anifail, yn ymlusciaid, ac yn ehediaid o'r nefoedd; ie, delewyd hwynt o'r ddaiar: a Noah a'r rhai [oedynt (sic!)] gyd ag ef yn yr Arch yn unic a adawyd yn fyw.
7:24 A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaiar, ddeng nhiwrnod a deugain, a chant.

PEN. VIII.

Y dyfroedd yn treio. 7 Noah yn anfon y gig-fran ar golommen. 16 Mynediad Noah allan o'r Arch, 20 ai aberth.

8:1 YNa Duw a gofiodd Noah, a phôb bwyst-fil a phôb anifail y rhai [oeddynt] gyd ag ef yn yr Arch: a gwnaeth Duw i wynt dramwyo ar y ddaiar, a'r dyfroedd a lonyddasant.
8:2 Caewyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd: a lluddiwyd y gwlaw o'r nefoedd.
8:3 A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaiar, gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen deng nhiwrnod a deugain a chant y dyfroedd a dreiasent.
8:4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail dydd ar bymthec o'r mîs, y gorphywysodd yr Arch ar fynyddoedd Ararat.
8:5 A'r dyfroedd fuant yn myned, ac yn treio, hyd y decfed mîs, yn y decfed [mîs] ar y [dydd] cyntaf o'r mîs, y gwelwyd pennau y mynyddoedd
8:6 Ac ym mhen deugain nhiwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr Arch a wnaethe efe
8:7 Ac efe a anfonodd allan gig-frân, a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd: hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaiar.
8:8 Yna'r anfonodd efe golommen oddi wrtho, i weled a yscafnhause y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaiar.
8:9 Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed, am hynny y hi a ddychwelodd atto ef i'r Arch, am [fod] y dyfroedd ar wyneb yr, holl-dîr: ac efe a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd hi, ac ai derbynniodd hi atto i'r Arch.
8:10 Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, yna yr anfonodd efe eil-waith y golommen o'r Arch.
8:11 A'r golommen a ddaeth atto ef ar bryd nawn, ac wele ddeilen oliwydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah yscafnhau y dyfroedd oddi ar y tir.
8:12 Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen; ac ni ddychwelodd hi ail-waith atto ef mwy.
8:13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y [mîs cyntaf, ar y [dydd] cyntaf o'r mîs, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tîr: A Noah a symmudodd gaead yr Arch, ac a edrychodd, ac wele wyneb y ddaiar a sychase.
8:14 Ac yn yr ail mîs, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mîs, y ddaiar a sychase.
8:15 Yna y llefarodd Duw wrth Noah gan ddywedyd:
8:16 Dos allan o'r Arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd a thi.
8:17 Pôb bwst-fil yr hwn [sydd] gyd a thi, o bôb cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, a ddygi allan gyd a thi: heigiant hwythau yn y ddaiar, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaiar.
8:18 Yna Noah a aeth allan, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion, gyd ag ef.
8:19 Pôb bwyst-fil, pôb pryfd, a phôb ehediad, pôb ymlusciad ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r Arch.
8:20 A Noah a adeiladodd allor i'r Arglwydd, ac a gymmerodd o bôb anifail glân, ac o bôb ehediad glân, ac a offrymmodd boeth offrymmau ar yr allor.
8:21 Yna 'r aroglodd yr Arglwydd arogl esmwyth, a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dŷn: er [bôd] brŷd calon dŷn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy ladd pôb [peth] byw, fel y gwneuthum.
8:22 Pryd hâu, a chynhaiaf, ac oerni, a gwrês, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs, ni pheidiant mwy holl ddyddiau y ddaiar.

PEN. IX.

Duw yn bendithio Noah; 3 yn caniatâu bwyta cig. 4 Ac yn gwahardd gwaed. 9 Duw yn addo na ddifethir y byd nwy trwy ddwfr. 12 Yr enfys yn wystl o hynny. 21 Meddwdod Noah. 22 Cam yn amherchi ei dâd. 25 ei dâd yn ei felldigo yntef 29 oedran a marwolaeth Noah.

9:1 Duw hefyd a fendithiodd Noah, ai feibion: ac a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch a lluosogwch a llenwch y ddaiar,
9:2 Eich ofn hefyd, 'ach arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaiar, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a sathr y ddaiar, ac ar holl byscod y môr: yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
9:3 Pôb ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lyssieun y rhoddais i chwi bôb dim.
9:4 Er hynny na fwytewch gîg yng-hyd ai enioes [sef] ei waed.
9:5 Canis yn ddiau gwaed eich enioes chwithau hefyd a ofynnaf fi, o law pôb bwyst-fil y gofynnaf ef, ac o law dŷn, o law pôb brawd iddo, y gofynaf enioes dŷn.
9:6 A dywallto waed dŷn, trwy ddŷn y tywelldir ei waed yntef, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddŷn.
9:7 Ond ffrwythwch, ac amlhewch, heigiwch ar y ddaiar, a lluosogwch ynddi.
9:8 Duw a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd ag ef: gan ddywedyd,
9:9 Wele myfi hefyd yn cadarnhau fyng-hyfammod a chwi, ac a'ch hâd chwi ar eich ol chwi.
9:10 Ac a phôb peth byw 'r hwn [sydd] gyd a chwi, a'r ehediaid, a'r anifeiliaid, ac a phôb bwyst-fil y tîr gŷd a chwi, o'r rhai oll ydynt yn myned allan o'r Arch: drwy holl fwyst-filod y ddaiar.
9:11 Ac mi a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi, fel ni thorrir ymmmaith (sic!) bôb cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac na bydd diluw mwy i ddifetha y ddaiar.
9:12 A Duw a ddywedodd, dymma arwydd y cyfammod yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw yr hwn [sydd] gyd a chwi, tros oesoedd tragywyddol:
9:13 Fy mŵa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngofi a'r ddaiar.
9:14 A bydd pan godwyf gwmwl ar y ddaiar, ac ymddangos o'r bŵa yn y cwmwl.
9:15 Y cofiaf fyng-hyfammod yr hwn [sydd] rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw o bôb cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pôb cnawd.
9:16 A'r bŵa a fydd yn y cwmwl, ac mi a edrychaf arno ef i gofio y cyfammod tragywyddol, rhwng Duw a phôb peth byw, o bôb cnawd yr hwn [sydd] ar y ddaiar.
9:17 A Duw a ddywedodd wrth Noah, dymma arwydd y cyfammod yr hwn a gadarnheais rhyngofi, a phôb cnawd; yr hwn sydd ar y ddaiar.
9:18 A meibion Noah y rhai a ddaethant allan o'r Arch oeddynt Sem, Cam, ac Iapheth: a Cham hwnnw [oedd] dâd Canaan.
9:19 Y tri hyn [oeddynt] feibion Noah: ac o'r rhai hyn yr eppiliodd yr holl ddaiar.
9:20 A Noah a ddechreuodd [fod] yn llafurwr, ac a blannodd win-llan.
9:21 Ac a yfodd o'r gwîn, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng-hanol ei babell.
9:22 Yna Cam tâd Canaan a welodd noethni ei dâd, ac a fynegodd i'w ddau frodyr allan.
9:23 Yna y cymmerodd Sem, ac Iapheth, ddilledyn ac ai gosodasant ar eu hyscwyddau ill dau, ac a gerddasant yn-wysc eu cefn, ac a orchguddiasant noethni eu tâd: ai hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
9:24 Yna y ddeffroawdd Noah oi wîn, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
9:25 Ac efe a ddywedodd, melldigêdic [fyddo] Canaan, gwâs gweision iw frodyr fydd.
9:26 Ac efe a ddywedodd, bendigêdir yw Arglwydd Dduw Sem, a Chanaan fydd wâs iddynt.
9:27 Duw a helaetha ar Iapheth, ac efe a bresswylia ym mhebyll Sem: a Chanaan fydda wâs iddynt hwy.
9:28 A Noah a fu fyw wedi y diluw, dry-chan mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain.
9:29 Felly holl ddyddiau Noah oeddynt, naw can mlhynedd a deng mlhynedd a deugain ac efe a fu farw.

PEN. X.

Cynnydd rhywogaeth dyn allan o Noah ai feibion. 10 Dechreuad dinasoedd, gwledydd, a chenhedlaethau wedi dwfr diluw.

10:1 AC dymma genhedlaethau meibion Noah, Sem, Cam, ac Iapheth, ganwyd hefyd meibion i'r rhai hyn wedi 'r diluw.
10:2 Meibion Iapheth [oeddynt] Gomer, a Magoc, a Madai, a Iafan, a Thubal, a Mesech a Thiras.
10:3 Meibion Gomer hefyd: Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
10:4 A meibion Iafan, Elisa, a Tharsis, Cittim a Dodanim.
10:5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd pawb wrth ei iaith ei hun trwy eu teuluodd, yn eu cenhedloedd.
10:6 A meibion Cam [oeddynt] Cus, a Mizraim a Phut, a Chanaan.
10:7 A meibion Cus: Seba, a Hafilah a Sabthah, a Raamah, a Sabtecah: a meibion Raamah [oeddynt] Saba, a Dedan.
10:8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrodd (sic!), efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaiar.
10:9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, fel Nimrod, gadarn o helwriaeth ger bron yr Arglwydd.
10:10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Acad, a Chalneh, yng-wlad Sinar.
10:11 O'r wlâd honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninife, a dinas Rehoboth, a Chalah,
10:12 A Resen, rhwng Ninife a Chalah; honno [sydd] ddinas fawr.
10:13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nephtuim,
10:14 Pathrusim hefyd, a Chasluhim, a'r Capthoriaid, y rhai y daeth y Philistiaid allan o honynt.
10:15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafanedic, a Heth,
10:16 A'r Iebusiad a'r Amoriad, a'r Girgasiad
10:17 A'r Hefiad a'r Arciad a'r Siniad.
10:18 A'r Arfadiad a'r Semariad a'r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwascarodd teuluoedd, y Canaaneaid.
10:19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon ffordd yr elych i Gerar, hyd Azah: a ffordd yr elych i Sodoma, a Gomorra, ac Adama, a Seboiim hyd Lesa.
10:20 Dymma feibion Cam, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hiaithoedd yn eu gwledydd [ac] yn eu cenhedloedd.
10:21 I Sem hefyd y ganwyd plant, yntef oedd dâd holl feibion Heber [a] brawd Iapheth yr hwn oedd hynaf.
10:22 Meibion Sem [oeddynt,] Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
10:23 A meibion Aram, Us, a Hul, a Gether, a Mas.
10:24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah, a genhedlodd Heber.
10:25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion, henw un [oedd] Peleg: o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaiar, ac henw ei frawd Iactan.
10:26 A Iactan a genhedlodd Almadad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Ierah.
10:27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.
10:28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba.
10:29 Ophir hefyd, a Hafilah, ac Iobab, yr holl rai hyn [oeddynnt] feibion Iactan.
10:30 Ai presswylfa, oedd o Mesa ffordd yr elych i Sapher mynydd y dwyrain.
10:31 Dymma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
10:32 Dymma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau yn ol eu cenhedloedd, ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaiar wedi y diluw.

PEN. XI.

Adailadaeth twr Babel. 7 Cymmysciad yr ieithoedd. 10 Hiliogaeth Sem, hyd Abraham. Abram.

11:1 A'r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o un ymadrodd.
11:2 Ac wrth fudo ohonynt o'r dwyrain, y cawsant wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigâsant.
11:3 Ac a ddywedasant bôb un wrth ei gilydd, deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly 'r ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.