Llyfr Iosuah.

PEN. I.

Yr Arglwydd yn gyrru Iosuahyn flaenor ar Israel i wlâd Canaan, ac yn addo ei gynnorthwyo ef. 10 Iosuah yn gorchymyn i'r bobl ymbaratoi i fyned tros yr Iorddonen, ac yn annog y Rubeniaid iw helpio hwynt.

1:1 AC wedi marwolaeth Moses gwaŝ yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Iosuah fab Nun gwenidog Moses, gan ddywedyd,
1:2 Moses fyng-wâs a fu farw: gan hynny cyfot yn awr dôs tros yr Iorddonen hon, ti â'r holl bobl hyn i'r wlâd yr hon yr ydwyfi yn [ei] rhoddi iddynt hwy meibion Israel.
1:3 Pôb man a'r a sango gwadn eich troed chwi ynddo a roddais i chwi: fel y lleferais wrth Moses.
1:4 O'r anialwch, a'r Libanus ymma, hyd yr afon fawr [sef] afon Euphrates, holl wlâd yr Hethiaid, hyd y môr mawr tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.
1:5 Ni saif neb o'th flaen di holl ddyddiau dy enioes: megis y bum gyd a Moses, y byddaf gyd a thithe: ni'th adawaf, ac ni'th wrthodaf.
1:6 Ymwrola ac ymegnia: canys ti a wnei i'r bobl hyn etifeddu y wlâd yr hon a dyngais wrth eu tadau ar [ei] rhoddi iddynt.
1:7 Yn unic ymwrola, ac ymegnia yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith yr hon a orchymynnodd Moses fyng-was i ti, na ogwydda oddi wrthi ar y llaw ddehau, nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnac yr elech.
1:8 Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr mefyria ynddo ddydd a nôs; fel y cedwech ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd scrifenedic ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
1:9 Oni orchymynnais it [gan ddywedyd?] ymwrola, ac ymegnia, nac arswyda, ac na russa: canys yr Arglwydd dy Dduw [fydd] gyd athi i ba le bynnac yr elech.
1:10 Yna Iosuah a orchymynnodd i lywodraeth-wŷr y bobl, gan ddywedyd,
1:11 Trammwywch drwy ganol y llu, a gorchymynnwch i'r bobl gan ddywedyd, parotowch i chwi lynniaeth: canys ym mhen y tri-diau y byddwch chwi yn myned tros yr Iorddonen hon i ddyfod i orescyn y wlâd yr hon y mae 'r Arglwydd eich Duw yn [ei] rhoddi i chwi i'w meddiannu.
1:12 Wrth y Rubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasses, y llefarodd Iosuah gan ddywedyd,
1:13 Cofiwch y gair a orchymynnodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi gan ddywedyd: yr Arglwydd eich Duw sydd dyn esmwythau arnoch, ac a roddodd i chwi y wlâd honn.
1:14 Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid a drigant yn y wlâd yr hon a roddodd Moses i chwi o'r tu ymma i'r Iorddonen: ac ewch chwithau trosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl [ydych] gedyrn, o nerth, a chynnorthwywch hwynt.
1:15 Nes rhoddi o'r Arglwydd lonyddwch i'ch brodyr fel i chwithau, a gorescyn o honynt hwy hefyd y wlâd yr hon y mae 'r Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlâd eich etifeddiaeth, a meddiannwch hi, yr hon a roddodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi o'r tu ymma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
1:16 Yna 'r atebasant Iosuah gan ddywedyd, gwnawn yr hyn oll a orchymynnaist i ni, awn hefyd at beth bynnac yr anfonech ni.
1:17 Fel y gwrandawsom ar Moses [ym] mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithe: yn unic bydded yr Arglwydd dy Dduw gyd a thi, megis y bu gyd a Moses.
1:18 Pwy bynnac a anufuddhao [air] dy enau, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchymynnech iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unic ymwrola ac ymegnia.

PEN. II.

Rahab yn derbyn iw thy, y rhai a yrrase Iosuah i edrych ansodd y wlâd. 14 Eu haddewid hwythau i Rahab.

2:1 YNA Iosuah mab Nun a anfonase o Sittim ddau ŵr i chwilio yn ddirgel gan ddywedyd, ewch, edrychwch y wlâd, ac Iericho [hefyd:] a hwynt a aethant, ac a ddaethant i dŷ puttein-wraig, ai henw Rahab, ac a orphywysasant yno.
2:2 A mynegwyd i frenin Iericho gan ddywedyd: wele, gwŷr a ddaethant ymma heno o feibion Israel i chwilio y wlâd.
2:3 Yna brenin Iericho a anfonodd at Rahab gan ddywedyd: dŵg allan y gwŷr a ddaethant attat ti, y rhai a ddaethant i'th dŷ di, canys i chwilio 'r holl wlâd y daethant.
2:4 Ond y wraig a gymmerase y ddau ŵr ac ai cuddiase hwynt: am hynny hi a ddywedodd fel hyn: y gwŷr a ddaethant atafi, ond ni wyddwn i o ba le [y daethent] hwy.
2:5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, yna y gwŷr a aethant allan, ni wn i ba le 'r aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt, canys chwi ai goddiweddwch hwynt.
2:6 Ond hi a barase iddynt ddringo i nenn y tŷ: ac ai cuddiase hwynt mewn bolldeidiau llin y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nenn y tŷ.
2:7 A'r gwŷr a ganlynasant ar eu hol hwynt tua 'r Iorddonen hyd y rhydoedd: a'r porth a agorwyd hwyn-gyntaf ac yr aeth y rhai oeddynt yn erlid ar eu hol hwynt allan.
2:8 A chyn iddynt hwy gyscu: yna hi a ddringodd attynt hwy ar nenn y tŷ.
2:9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, mi a wn mai 'r Arglwydd a roddodd i chwi y wlâd;, o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni: canys holl drigolion y wlad a ddihoenasant rhac eich ofn.
2:10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr côch o'ch blaen chwi, pan aethoch allan o'r Aipht: a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid y rhai [oeddynt] tu hwnt i'r Iorddonen [sef] i Sehon, ac Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
2:11 Pan glywsom yna ein digalonnwyd fel na safodd mwyach gyssur yn neb rhac eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw sydd Dduw yn y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear oddi isod.
2:12 Yn awr gan hynny tyngwch attolwg wrthif i'r Arglwydd o herwydd i mi wneuthur trugaredd a chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd thŷ lwyth fy nhad inne, ac y rhoddwch i mi arwydd gwîr,
2:13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a'm mam, fy mrodyr, a'm chwiorydd, a'r hyn oll [sydd] ganddynt: ac y gwaredwch ein henioes rhac angau.
2:14 A'r gwŷr a ddywedasant wrthi: ein henioes [a roddwn] i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein ymadrodd hyn) pan roddo 'r Arglwydd i ni y wlâd hon, oni wnawn a chwi drugaredd a gwirionedd.
2:15 Yna hi ai gollyngodd hwynt i wared wrth raff drwy y ffenestr. canys ei thŷ hi [oedd] o fewn mûr y ddinas, ac yn y mûr yr oedd hi yn trigo.
2:16 A hi a ddywedodd wrthynt, ewch i'r mynydd rhac i'r erlidwŷr gyfarfod a chwi: ac ymguddiwch yno dri-diau nes dychwelyd o'r erlidwŷr, ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.
2:17 A'r gwŷr a ddywedasant wrthi: diniwed [fyddwn] ni oddi wrth dy lw ymma [drwy] yr hwn i'n tyngaist.
2:18 Wele pan ddelom ni i'r wlâd: rhwyma y llinin ymma o edyf gôch yn y ffenestr yr hon y gollyngaist ni drwyddi, cascl hefyd dy dâd, a'th fam, a'th frodyr, a holl dŷ-lwyth dy dad atat i'r tŷ ymma.
2:19 A phwy bynnac a'r a êl o ddryssau dy dŷ di allan, ei waed ef [fydd] ar ei benn ei hun, a ninnau yn ddiniwed: a phwy bynnac fyddo gyd a thi yn tŷ [bydded] ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw yn ei erbyn ef.
2:20 Ac os mynegi di ein ymadrodd hynn: yna y byddwn ddiniwed oddi wrth dy lw [drwy] yr hwn i'n tyngaist.
2:21 A hi a ddywedodd, yn ôl eich geiriau felly [y byddo] hynny: yna hi ai gollyngodd hwynt, a hwy a aethant ymmaith: a hi a rwymodd y llinin côch yn y ffenestr.
2:22 Yna hwynt a aethant, ac a ddaethant i'r mynydd, ac a arhosasant yno dri-diau, nes i'r erlidwŷr ddychwelyd: a'r erlidwŷr ai ceisiasant ar hyd yr holl ffordd, ond nis cawsant.
2:23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddiscynasant o'r mynydd, aethant hefyd trosodd, a daethant at Iosuah fab Nun: a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddase iddynt:
2:24 A dywedasant wrth Iosuah, yn ddiau 'r Arglwydd a roddodd yr holl wlâd yn ein dwylo ni: canys holl drigolion y wlad a ddihoenasant rhac ein hofn ni.

PEN. III.

Dyfodiad Israel i gwrr yr Iorddonen. 13 Yr iorddonen yn ymrannu, ac yn gollwng Israel trwodd ar dir sych.

3:1 A Iosuah a gyfododd yn forau, a chychwnnasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletteuasant yno cynn iddynt fyned trosodd.
3:2 Ac ym mhen y tri-diau y llywiawdwŷr drananwyasant drwy ganol y llu.
3:3 Ac a orchymynnasant i'r bobl, gan ddywedyd, pan weloch chwi Arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw a'r Lefiadaid offeiriaid yn ei dwyn hi: yna cychwynwch chwi o'ch lle, ac ewch ar ei hol hi.
3:4 Etto bydded [ennyd] faith rhyngoch chwi a hithe yng-hylch dwy-fil o gufyddau wrth fesur: na nessewch atti fel y gwypoch y ffordd yr hon y rhodioch ynddi, canys ni thrammwyasoch y ffordd [hon] o'r blaen.
3:5 Ac Iosuah a ddywedodd wrth y bobl ymsancteiddiwch: canys y foru y gwna'r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysc chwi.
3:6 Iosuah hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd,cymmerwch Arch y cyfammod, ac ewch trosodd o flaen y bobl: felly hwynt a gymmerasant Arch y cyfammod ac a aethant o flaen y bobl.
3:7 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Iosuah, y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng-ŵydd holl Israel: fel y gwypant mai megis y bum gyd a Moses y byddaf gyd a thithe.
3:8 Am hynny gorchymyn di i'r offeiriaid y rhai ydynt yn dwyn Arch y cyfammod gan ddywedyd: pan ddeloch hyd gwrr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
3:9 Yna Iosuah a ddywedodd wrth feibion Israel: nessewch ymma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw.
3:10 Iosuah hefyd a ddywedodd, yn hyn y cewch ŵybod fod y Duw byw yn eich mysc chwi: a chan oresyn yr gorescyn efe y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Phereziaid, a'r Gergasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid o'ch blaen chwi.
3:11 Wele Arch cyfammod Arglwydd yr holl fyd yn myned o'ch blaen chwi trwy 'r Iorddonen.
3:12 Gan hynny cymmerwch yn awr ddeuddeng-ŵr o lwythau Israel: un gŵr o bôb llwyth.
3:13 A phan orphwyso gwadnau traed yr offeiriaid (y rhai ydynt yn dwyn Arch Arglwydd Iôr yr holl fyd) yn nyfroedd yr Iorddonen, [yna] dyfroedd yr Iorddonen a holltir, y dyfroedd y rhai ydynt yn descyn oddi uchod[a droant yn ôl:] ac a safant yn um pen-twr.
3:14 Pan gychwunodd y bobl oi pabellau i fyned tros yr Iorddonen: yna yr offeiriaid oeddynt yn dwyn Arch y cyfammod o flaen y bobl;
3:15 A phan ddaeth y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed (yr offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch) yng-hwrr y dyfroedd (a'r Iorddonen oed arferol o lenwi dros ei thorlannau ei gyd holl ddyddiau y cynhaiaf)
3:16 Yna y dyfroedd y rhai oeddynt yn descyn oddi uchod a safasant; cyfodasant yn un pentwrr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam yr hon [sydd] o ystlys Sarthan: a'r [dyfroedd] y rhai oeddynt yn descyn i fôr y rhôs [sef] i'r môr heli a ddarfuant, ac a dorrwyd ymmaith: felly y bobl a aethant trosodd ar gyfer Iericho.
3:17 A'r offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd a safasant mewn sychder yng-hanol yr Iorddonen yn daclus: a holl Israel oeddynt yn myned trosodd mewn sychder nes darfod i'r holl genedl dreiddio yr Iorddonen.

PEN. IIII.

Yr Arglwydd yn peri gosodd deuddec o feiniyn en sefyll i arwyddoccau treiddiad meidion Israel trwy yr Iorddonen.

4:1 A Phan ddarfu i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen: (canys llefarase yr Arglwydd wrth Iosuah, gan ddywedyd,
4:2 Cymmerwch i chwi ddeuddeng-ŵr o'r bobl, un gŵr o bob llwyth;
4:3 A gorchymynnwch iddynt gan ddywedyd cymmerwch i chwi oddi ymma, o ganol yr Iorddonen, o'r fann y mae traed yr offeiriaid yn sefyll y rhai ydynt yn daclus, ddeuddec o gerric: a throsgluddwch hwynt gyd a chwi, a chysenwch hwynt yn y lle yr hwn y llettauwch ynddo heno.)
4:4 Yna Iosuah a alwodd am y deuddeng-wr y rhai a baratoase efe o feibion Israel: un gŵr o bob llwyth:
4:5 A dywedodd Iosuah wrthynt, ewch trosodd o flaen Arch yr Arglwydd eich Duw drwy ganol yr Iorddonen: a chodwch i chwi bob un ei garrec ar ei yscwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:
4:6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysc chwi: pan ofynno eich meibion chwi ryw amser gan ddywedyd, beth [y mae] y cerric hyn [yn ei arwyddoccau] i chwi?
4:7 Yna y dywedwch wrthynt, mai dyfroedd yr Iorddonen a holltwyd o flaen Arch cyfammod yr Arglwydd, [canys] tra fu hi yn myned trwy 'r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a holltwyd: a hynny y mae y cerric hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
4:8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchymynnase Iosuah, ac a gymmerasant ddeuddec carrec o ganol yr Iorddonen, fel y llefarase yr Arglwydd wrth Iosuah yn ol rhifedi llwythau meibion Israel: ac ai trosgludasant drosodd gyd a hwynt i'r llettŷ, ac ai cyfleuasant yno.
4:9 A Iosuah a osododd i fynu ddeuddec carrec yng-hanol yr Iorddonen yn y lle yr ['r oedd] traed yr offeiriaid ( rhai oeddynt yn dwyn Arch y cyfammod) yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
4:10 felly yr offeiriaid y rhai oedd yn dwyn yr Arch a safasant yng-hanol yr Iorddonen nes gorphen pob peth a'r a orchymynnase yr Arglwydd i Iosuah lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchymynnase Moses wrth Iosuah: yna y bobl a fryssiasant, ac a aethant trwodd.
4:11 A phan ddarfu i'r holl bobl fyned trwodd: yna Arch yr Arglwydd a aeth trwodd, a'r offeiriaid yng-ŵydd y bobl.
4:12 Meibion Reuben hefyd a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a dreiddiasant yn arfogion o flaen meibion Israel: fel y llefarase Moses wrthynt:
4:13 Yng-hylch deugain-mil yn arfogion i'r filwriaeth a aethant trwodd o flaen yr Arglwydd i ryfel i rossydd Iericho.
4:14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Iosuah yng-olwg holl Israel: a hwynt ai hofnasant ef fel yr ofnasent Moses holl ddyddiau ei enioes.
4:15 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Iosuah gan ddywedyd,
4:16 Gorchymyn di i'r offeiriaidy rhai ydynt yn dwyn Arch y destiolaeth, ddyfod o honynt i fynu o'r Iorddonen.
4:17 Am hynny Iosuah a orchymynodd i'r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fynu allan o'r Iorddonen.
4:18 A phan ddaeth yr offeiriaid (y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd) i fynu o ganol yr Iorddonen [er cynted] y sangodd gwadnau traed yr offeiriaid ar y sych-dir yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i'w lle, ac a aethant megis cynt dros ei holl dorlannau.
4:19 Felly y bobl a ddaethant i fynu o'r Iorddonen y decfed [dydd] o'r mis cyntaf: ac a werssyllasant yn Gilgal, yn y cwrr eithaf o du'r dwyrain i Iericho.
4:20 A'r deuddec carrec hynny y rhai a ddugasent o'r Iorddonen a sefydlodd Iosuah yn Gilgal,
4:21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel gan ddywedyd: pan ofynno eich meibion chwi ryw amser iw tadau gan ddywedyd, beth [yw] y cerric hyn?
4:22 Yna yr hyspysswch i'ch meibion gan ddywedyd: Israel a aeth drwy 'r Iorddonen hon ar dîr sych.
4:23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o'ch blaen chwi nes i chwi fyned trwodd: megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r môr coch yr hwn a sychodd efe o'n blaen ni, nes i ni fyned trwodd:
4:24 Fel y gwypo holl bobloedd y ddaiar mai llaw 'r Arglwydd sydd nerthol: fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw yr holl ddyddiau.

PEN. V.

Iosuah yn peri enwaedu y bobl, a chadw y Pasc. 12 y Manna yn darfod, ac angel Duw yn cyssuro Iosuah.

5:1 PAN glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid y rhai [oeddynt] o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua 'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai [oeddynt] wrth y môr del y sychase 'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel nes eu myned hwy trwodd: yna y digalonnwyd hwynt fel nad oedd gyssur mwyach ynddynt, rhac ofn meibion Israel.
5:2 Y pryd hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Iosuah, gwna i ti gyllill llymmion: dychwel [hefyd] ac enwaeda feibion Israel yr ail waith.
5:3 Yna Iosuah a wnaeth iddo gyllill llymmion: ac a enwaedodd ar feibion Israel ym mryn y blaen-grwyn.
5:4 Ac dymma yr achos yr hon [a wnaeth] i Iosuah enwaedu yr holl bobl [sef] y gyrfiaid y rhai a ddaethent o'r Aipht: [o herwydd] yr holl ryfel-wŷr a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd pan ddaethant allan o'r Aipht.
5:5 Canys yr holl bobl a'r a ddaethent allan oeddynt enwaededic, ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch ar y ffordd pan ddaaethent allan o'r Aipht nid enwaedasent.
5:6 Canys deugain mlynedd y rhodiase meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod holl genedl y rhyfel-wŷr y rhai a ddaethent o'r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngase yr Arglwydd wrthynt na ddangosid iddynt y wlâd yr hon a dyngase 'r Arglwydd wrth eu tadau y rhodde efe i ni, [sef] gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl.
5:7 felly Iosuah ai henwaedodd hwynt, sef y meibion [y rhai] a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededic oeddynt hwy am nad enwaedasid hwynt ar y ffordd.
5:8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl genedl: yna 'r arhosasant yn eu lle nes eu hiachau hwynt.
5:9 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah heddyw y tynnais ymmaith wradwydd yr Aipht oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal hyd y dydd heddyw.
5:10 Felly meibion Israel a werssyllasant yn Gilgal: a hwy a gynhaliasant y Pasc ar y pedwerydd dydd ar ddâc o'r mîs pryd nawn yn rhossydd Iericho.
5:11 A hwynt a fwytawsant drannoeth wedi 'r Pasc fara croiw, a chras-yd [wedi eu gwneuthur] o ŷd y wlad honno: o fewn corph y dydd hwnnw.
5:12 Yna y Manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlâd; ac ni bu Manna mwyach gan meibion Israel: eithr bwytawsant o gynnyrch gwlâd y Canaaneaid y flwyddyn honno.
5:13 A phan oedd Iosuah yn Iericho yna efe a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef ai gleddyf noeth yn ei law: ac Iosuah a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, ai gyd a ni ['r ydwyt] ti, ai gyd a'n gwrthwyneb-wŷr?
5:14 Dywedodd yntef nage, eithr tywysog llû 'r Arglwydd ydwyf, yn awr y deuthum: yna Iosuah a syrthiodd i lawr ar ei wyneb ac a addolodd, ac a ddywedodd hefyd wrtho ef, beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei wâs?
5:15 A thywysog llû yr Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, dattot dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle 'r hwn yr ydwyt ti yn sefyll arno sydd sanctaidd: ac Iosuah a wnaeth felly.

PENNOD VI.

Duw yn rhoddi Iericho yn llaw Iosuah. 22 yntef yn peri cadw yr addewid a wnelsid i Rahab. 26 Dialedd Duw ar yr hwn a adeilade Iericho trachefn.

6:1 Ac Iericho oedd yn gaeedic, ac yn argaeedic rhac ofn meibion Israel: nid oedd [neb] yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.
________________________________________________________________ 6:2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, gwêl rhoddais yn dy law di Iericho ai brenhin: [a] chedyru y llu.
6:3 Gan hynny amgylchwch y ddinas [chwi] ryfel-wŷr oll, gan amgylchynu y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.
6:4 A dyged saith o offeiriaid saith o udcyrn o gyrn hyrddod o flaen yr Arch, a'r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith: a lleisied yr offeiriaid a'r udcyrn.
6:5 A phan gânir yn hirllaes a chorn yr hwrdd, [a] phan glywoch chwithau sain yr udcorn bloeddied yr holl bobl a bloedd uchel: yna y syrth mûr y ddinas tani hi, ac eled y bobl i fynu bawb ar ei gyfer.
6:6 A Iosuah mab Nun a alwodd ar yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, dygwch Arch y cyfammod: a dyged saith o offeiriaid saith o udcyrn o gyrn hyrddod o flaen Arch yr Arglwydd.
6:7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog eled o flaen Arch yr Arglwydd.
6:8 A phan ddywedodd Iosuah wrth y bobl, yna y saith offeiriad a ddugasant saith udcorn o gyrn hyrddod, ac a gerddasant o flaen [Arch] yr Arglwydd, ac a leisiasant mewn udcyrn: ac Arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hol hwynt.
6:9 A'r rhai arfogion oeddynt yn myned o flaen yr offeiriaid y rhai oeddynt yn lleisio mewn udcyrn: yna y fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr Arch dann gerdded, a thann yn leisio mewn udcyrn.
6:10 Ac Iosuah a orchymynnase i'r bobl gan ddywedyd, nawaeddwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, gwaeddwch, a bloeddiwch.
6:11 Felly Arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan [ei] hamgylchynu un waith: yna y daethant i'r gwerssyll, ac y lletteuasant yn y gwersyll.
6:12 Ac Iosuah a gyfododd yn forau: a'r offeiriaid a ddugasant Arch yr Arglwydd.
6:13 A'r saith offeiriad oeddynt yn dwyn saith o udcyrn o gyrn hyrddod o flaen Arch yr Arglwydd yn myned dann gerdded, ac yn lleisio mewn udcyrn: a'r rhai arfogion oeddyn yn myned oi blaen hwynt a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ol Arch yr Arglwydd dann gerdded, a lleisio mewn udcyrn.
6:14 Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd, a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant [dros] chwe diwrnod.
6:15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn forau ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unic y dwthwn hwnnw 'r amgylchasant y ddinas seith-waith.
6:16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hudcyrn y seithfed waith, yna Iosuah a ddywedodd wrth y bobl: gwaeddwch canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
6:17 A'r ddinas fydd yn ddiofryd-beth, hi a'r hyn oll [sydd] ynddi i'r Arglwydd: yn unic Rahab y buttein-wraig fydd byw, hi a chwbl ac y [sydd] gyd a hi yn tŷ, canys hi a guddiodd y cennadau y rhai a anfonasom ni.
6:18 Er hynny ymgedwch chwi oddi wrth y diofryd-beth rhac eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth os cymmerwch o'r diofryd-beth: felly y gosodech wersyll Israel yn ddiofryd-beth, ac y diswynech ef.
6:19 Ond yr holl arian, a'r aur, a'r llestri prês, ar haiarn, fyddant gyssegredic i'r Arglwydd: deled [y rhai hynny] i mewn i dryssor yr Arglwydd.
6:20 Yna y gwaeddodd y bobl, ac y lleisiasant mewn udcyrn: a phan glybu y bobl lef yr udcyrn, yna y bobl a waeddasant a llef uchel; a'r mûr a syrthiodd i lawr oddi tanodd, felly y bobl a aethant i fynu i'r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.
6:21 A hwynt a ddifrodasant yr hyn oll [oedd] yn y ddinas yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen, ac yn henafgwr: yn eidion ac yn ddafad, ac yn assyn a mîn y cleddyf.
6:22 Ac Iosuah a ddywedodd wrth y ddau ŵr y rhai a fuasent yn edrych ansodd y wlad, ewch i dŷ y buttein-wraig: a dygwch allan oddi yno y wraig a'r hyn oll [sydd] iddi, fel y tyngasoch wrthi.
6:23 Felly y llangciau y rhai fuasent yn edrych ansodd [y wlad] a ddaethant i mewn, ac a ddugasant allan Rahab, ai thad, ai mam, ai brodyr, a chwbl a'r a fedde hi, dugasant allan hefyd ei holl dylwyth hi: a chyfleuasant hwynt o'r tu allan i wersyll Israel.
6:24 A lloscasant y ddinas a thân, a'r hyn oll [oedd] ynddi: yn unic yr arian, a'r aur, a'r llestri prês, a'r haiarn a roddasant hwy yn nhryssor=dŷ yr Arglwydd.
6:25 Felly y cadwodd Iosuah yn fyw Rahab y buttein-wraig, a thylwyth ei thad, a'r hyn oll [oedd] genddi, a hi a drigodd ym mysc Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cennadau y rhai a anfonasai Iosuah i chwilio Iericho.
6:26 A Iosuah a dyngodd y pryd hynny, gan ddywedyd: melldigedic ger bron yr Arglwydd [fyddo] 'r gŵr a gyfyd, ac a adeilada y ddinas hon sef Iericho: yn ei gyntaf-anedic y seilia efe hi, ac yn ei [fab] ieuangaf y sefylla efe ei phyrth hi.
6:27 Felly yr Arglwydd oedd gyd a Iosuah: fel y bu ei glod ef drwy'r holl ddaiar.