Llyfr Ruth

PENNOD. I.

1 Elimelech ai wraig ai ddau fab yn myned i wlâd Moab, ac yn marw yno e fe ai ddau fab. 19 Naomi ei wraig ef, a Ruth gwraig vn o'r meibion yn dychwelyd i Beth-lehem.

1:1 Yn y dyddiau yr ydoedd y brawd-wŷr yn barnu, pan oedd newyn yn y wlâd: yna'r gŵr o Bethlehem Iuda i ymdeithio yng-wlâd Moab, efe ai wraig, ai ddau fab.
1:2 Ac enw y gŵr [oedd] Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab ef Mahlon, a Chilon Ephrateaid o Bethlehem Iuda: ac hwy a ddaethant i wlâd Moab, ac a fuant yno.
1:3 Yna Elimelech gŵr Naomi a fu farw: hithe a arhosodd hi ai dau fab.
1:4 A hwy a gymmerasant iddynt wragedd [o'r] Moabiesau, enw y naill [oedd] Orpha, ac enw y llall [oedd] Ruth: a thrigasant yno yng-hylch deng-mlynedd.
1:5 A Mahlon, a Chilon a fuant feirw hefyd ill dau: a'r wraig a drigodd [yn amddifad] oi dau fab, ac oi gŵr.
1:6 Yna hi a gyfododd ai merched yng-hyfraith, ac a ddychwelodd o wlâd Moab: canys clywse hi yng-wlâd Moab, ddarfod i'r Arglwydd ymweled ai bobl, gan roddi iddynt fara.
1:7 A hi a aeth o'r lle 'r hwn yr oedd hi ynddo, ai dwy waudd gyd a hi: a hwy a aethant i ffordd gan ddychwelyd i wlâd Iuda.
1:8 Yna Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, e'wch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd a chwi, fel y gwnaethoch a'r meirw, ac a minne.
1:9 Yr Arglwyd a ganniadhao i chwi gael llonydd bob un yn nhŷ ei gŵr: pan gussanodd hi hwynt, yna y derchafasant hwy eu llef, ac yr ŵylasant.
1:10 Ac a ddywedasant wrthi hi: diau y dychwelwn ni gyd a thi at dy bobl di.
1:11 A dywedodd Naomi, dychwelwch fy merched, i ba beth y deuwch gyd a mi? a [oes] gennifi feibion etto yn fyng-hroth* i fod yn wŷr i chwi?
1:12 Dychwelwch fy merched, ewch ymmaith, canys ydwyf ry hên i briodi gŵr: pe dywedwn y mae gennif obaith, a bod heno gyd a gŵr, ac ymddwyn meibion hefyd,
1:13 A ddisgwiliech chwi am danynt hwy hyd oni gynnyddent hwy? a ymarhosech chwi am danynt hwy heb ŵra? nage fy merched, canys [y mae] mwy o dristwch i mi o'ch plegit chwi, am i law 'r Arglwydd fyned i'm herbyn.
1:14 Yna y derchafasant eu llef, ac yr ŵylasant eilwaith: ac Orpha a gussanodd ei chwegr, ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1:15 A dywedodd [Naomi] wele dy chwaer yng-hyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithe ar ôl dy chwaer yng-hyfraith.
1:16 Ruth a ddywedodd, nac erfynnia arnafi ymado a thi, gan gilio oddi wrthit: canys pa le bynnac yr elech di, yr âf inne, ac ym mha le bynac y lletteuech di y lleteuaf inne, dy bobl di [fydd] fy mhobl i, a'th Dduw di, fy Nuw inne.
1:17 Lle y byddi di marw y byddaf inne farw, ac yno i'm cleddir inne: fel hyn y gwnelo'r Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego efe, os [dim onid] angeu a wna yscariaeth rhyngofi, a thithe.
1:18 Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyd a hi: yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.
1:19 Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem: yna'r holl ddinas a gyffrôdd oi herwydd hwynt, a dywedasant, ond hon [yw] Naomi?
1:20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, na elwch fi Naomi: gelwch fi Mara, canys yr Holl alluog a'm gwnaeth i yn chwerw iawn.
1:21 Myfi a euthum yn gyflawn, a'r Arglwydd a'm dûg i eilwaith yn wâg: pa ham y gelwch chwi fi Naomi? gan i'r Arglwydd fy narostwng, ac i'r Holl-alluog fy nrygu?
1:22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth (y Moabes) ei gwaudd gyd a hi a ddychwelodd o wlad Moab: a hwynt a ddaethant i Bethlehem yn nechreu cynhaiaf yr heiddiau.

PEN. II.

1 Ruth yn loffa ym maes Booz, 8 ai garedigwydd yntef iddi hi.

2:1 Ac i ŵr Naomi ['r ydoedd] cyfathrachwr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, ai enw Booz.
2:2 Yna Ruth y Moabies a ddywedodd wrth Naomi, mi a âf yn awr i'r maes, ac a gasclaf dwysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafor yn ei olwg: hithe a ddywedodd wrthi hi, dos fy merch.
2:3 Ac hi aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medel-wŷr: a digwyddodd wrth ddamwain [fod] y rhan honno o'r maes yn eiddo Booz yr hwn [oedd] o dŷlwyth Elimelech.
2:4 Ac wele Booz a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medel-wŷr, yr Arglwydd [a fyddo] gyd a chwi: hwythau a ddywedasant wrtho ef, yr Arglwydd a'th fendithio.
2:5 Yna y dywedodd Booz wrth y llangc yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medel-wŷr: pwy pieu y llangces hon?
2:6 A'r llangc yr hwn oedd yn sefyll wrth y medel-wŷr a attebodd, ac a ddywedodd: llangces o Moab [ydyw] hi, yr hon a ddychwelodd gyd a Naomi o wlâd Moab:
2:7 A hi a ddywedodd, attolwg yr ydwyf gael lloffa, a chynnull dyrneidiau ar ôl y medel-wŷr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y boreu hyd yr awr hon: oddieithr eistedd o honi hi ychydig yn tŷ.
2:8 Yna y dywedodd Booz wrth Ruth, oni chlywi di fy merch? Na ddos ymmaith i gasclu i faes arall, ac na thrammwya oddi ymma: eithr aros yma gyd a'm llangcesau mau fi.
2:9 [Bydded] dy lygaid ar y maes yr hwn a fedant hwy, a dôs ar eu hôl hwynt, oni orchymynnais i'r llangciau na chyffyrddent a thi? pan sychedech, dos yna at y llestri, ac ŷf o honynt yr hyn a ollyngo y llangciau.
2:10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd i lawr: ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham y cefais ffafor yn dy olwg di, fel yr adwaenit fi, a minne yn alltudes?
2:11 A Booz a atebodd, ac a ddywedodd wrthi hi, gan fynegu y mynegwyd i mi 'r hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr: fel y gadewaist dy dâd a'th fam, a gwlâd dy anedigaeth, ac y daethost at bobl y rhai nis adwaenit o'r blaen.
2:12 Yr Arglwydd a dâlo am dy waith: a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel yr hwn y daethost i obeithio tann ei adenydd.
2:13 Yna hi a ddywedodd, caffwyf ffafor yn dy olwg di fy arglwydd, gan i ti fyng-hysuro i, a chan i ti lefaru wrth [fodd] calon dy wasanaeth-ferch, er nad ydwyf fel un o'th law-forwynion di.
2:14 A dywedodd Booz wrthi hi, yn amser bwyd tyret ymma, a bwytta o'r bara, a throcha dy dammed mewn finegr: a hi a eisteddodd wrth ystlys y medel-wŷr, ac efe a estynnodd iddi gras-ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
2:15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchymynodd Booz i'w weision, gan ddywedyd, lloffed hefyd rhwng yr yscubau, ac na feiwch arni hi.
2:16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi o'r yscubau: a gadewch [hwynt] fel y casclo hi, ac na cheryddwch hi.
2:17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a gasclase hi, ac yr oedd yng-hylch Epha o haidd.
2:18 A hi ai cymmerth, ac a aeth i'r ddinas, ai chwegr a ganfu 'r hyn a gasclase hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi 'r hyn a weddillase hi wedi cael digon.
2:19 Yna y dywedodd ei chwegr wrthi hi, pa Ie y lloffaist heddyw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a'th adnabu yn fendigedic: a hi a yspysodd iw chwegr yr hwn y gweithiase hi gyd ag ef, ac a ddywedodd, enw 'r gwr yr hwn y gweithiais gydag ef heddyw [yw] Booz.
2:20 Yna y dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, bendîgedic [fyddo] efe gan yr Arglwydd yr hwn ni phaid [a dangos] ei drugaredd tua'r rhai byw, a'r rhai meirw: dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, agos i ni [yw] 'r gŵr hwnnw, * o'n cyfathrach ni [y mae] efe.
2:21 A Ruth y Moabies a ddywedodd, efe a ddywedodd hefyd yn ddiau wrthif, gyd a'r llangciau y rhai [ydynt] gennif yr arhosi nes gorphen yr holl gynhaiaf yr hwn [sydd] i mi.
2:22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd: da [yw] fy merch i ti fyned gyd ai langcesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.
2:23 Felly hi a ddilynodd langcesau Booz i loffa, nes darfod cynhaiaf yr haidd, a chynhaiaf y gwenith: ond hi a drigodd gyd ai chwegr.

PEN. III.

Cyngor Naomi i Ruth yng-hylch Booz.

3:1 Yna Naomi ei chwegr hi a ddywedodd wrthi hi, fy merch oni cheisiafi lonyddwch i ti 'r hwn fyddo da i ti?
3:2 Ac yn awr ein cyfathrach-wr ni [yw] Booz yr hwn y bûosti gyd ai lancesi? wele efe yn nithio yn llawr dyrnu 'r haidd y nos hon .
3:3 Ymolch gan hyny, ac *ymîra, a gosot dy ddillad am danat, a dos i wared i'r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i'r gŵr nes iddo orphen bwytta, ac yfed.
3:4 A phan gysco efe, yna gwybydd y fan yr hon y gorweddo efe ynddi, yna dôs, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd: ac efe a fynega i ti 'r hyn a wnelech.
3:5 A hi a ddywedodd wrthi, gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
3:6 Felly hi a aeth i wared i'r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnase ei chwegr iddi.
3:7 Pan fwytaodd Booz, a [phan] yfodd fel y lawenhaodd ei galon, yna efe a aeth i gyscu i gwrr yr yscafn: hithe a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei droed ef, ac a orweddodd.
3:8 Ac yng-hanol y nôs y gŵr a ddychlamodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.
3:9 Yna efe a ddywedodd, pwy [ydwyt] ti? a hi a ddywedodd myfi [yw] Ruth dy lawforwyn, lleda gan hynny dy aden tros dy lawforwyn, canys fyng-hyfathrachwr i [ydwyt] ti.
3:10 Ac efe a ddywedodd, bendigedic [fyddech] fy merch gan yr Arglwydd, gwnaethost yn well dy drugaredd diwethaf na'r gyntaf: gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuaingc, na thlawd na chyfoaethog.
3:11 Ac yn awr fy merch nac ofna, yr hyn oll a ddywedaist a wnaf it: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol [ydwyt] ti.
3:12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrach-wr: etto er hynny y mae cyfathrach-wr nês na myfi.
3:13 Aros hêno; a'r boreu os efe a ymgyfathracha a thi, da yw, ymgyfathrached, ond os efe ni fyn ymgyfathrachu a thi, yna myfi a ymgyfathrachaf a thi [fel] mai byw 'r Arglwydd: cwsc hyd y boreu.
3:14 A hi a orweddodd with ei draed ef hyd y boreu, a hi a gyfododd cyn yr adwaene neb ei gilydd: canys efe a ddywedodd, na chaffer gwybod ddyfod y wraig i'r yscubor.
3:15 Ac efe a ddywedodd, moes dy fantell yr hon [sydd] am danat, ac ymafl ynddi, a hi a ymaflodd ynddi: ac efe a fesurodd chwech [mesur] o haidd, ac ai gosododd arni, a hi aeth i'r ddinas.
3:16 Pan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, pwy [ydwyt] ti fy merch? a hi a fynegodd iddi 'r hyn oll a wnaethe y gŵr iddi hi.
3:17 A hi a ddywedodd y chwech [mesur] hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthif, ni ddeui yn wag at dy chwegr.
3:18 Yna y dywedodd hithe, aros fy merch oni ŵypech pa fodd y digwyddo y peth [hyn:] canys ni orphywys y gŵr nes gorphen y peth hyn heddyw.

PEN. IIII.

Booz yn priodi Ruth. 13 Hithe yn beichiogi ar Obed. 18 Achau Dafydd o dâd i dâd.

4:1 Yna Booz a aeth i fyny i'r porth, ac a eisteddodd yno, ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio [am] yr hwn y dywedase Booz, ac efe a dywedodd, * ho hwn a hwn, tyret yn nes, eistedd ymma: ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
4:2 Yna efe a gymmerth ddeng-wr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, eisteddwch ymma, a hwynt a eisteddasant.
4:3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr: rhan o'r maes yr hon [oedd] eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi yr hon a ddychwelodd o wlâd Moab.
4:4 Am hynny y dywedais y mynegwn it gan ddywedyd, pryn ger bron y trigolion a cher bron henuriaid fy mhobl, os rhyddhei rhyddhâ [ef] ac oni ryddhei di mynega i mi, fel y gwypwyf: Canys nid oes onid ti iw ryddhau, a minne [sydd] ar dy ôl di: ac efe a ddywedodd myfi ai rhyddhaf.
4:5 Yna y dywedodd Booz, y diwrnod y prynech di 'r maes o law Naomi: ti ai pryni hefyd gan Ruth y Moabites gwraig y marw, i gyfodi enw yr marw ar ei etifeddiaeth ef.
4:6 A'r cyfathrachwr a ddywedodd, ni allaf [ei] ryddhau i mi rhac colli fy etifeddiaeth: rhyddha di it dy hun fy rhann i, canys ni allafi [ei] ryddhau.
4:7 (A hyn [oedd ddefod] gynt yn Israel, am ryddhâd, ac am gyfnewid i siccrhau pob peth, gŵr a ddiosce ei escid, ac ai rhodde iw gymydog: a hyn [oedd] destiolaeth yn Israel.)
4:8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Booz, pryn it dy hun: ac efe a ddioscodd ei escid.
4:9 A dywedodd Booz wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, tystion [ydych] chwi heddyw i mi brynu 'r hyn oll [oedd] eiddo Elimelech, a'r hyn oll [oedd] eiedo (sic !) Chilon, a Mahlon, o law Naomi.
4:10 Ruth hefyd y Moabites gwraig Mahlon a brynais im yn wraig i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymmaith enw y marw oddi wrth ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre ef: tystion [ydych] chwi heddyw.
4:11 A'r holl bobl y rhai [oeddynt] yn y porth a'r henuriaid a ddywedasant, [yr ydym] yn dystion: yr Arglwydd a roddo 'r wraig yr hon sydd yn dyfod i'th dŷ di, fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adailadasant ill dwy dŷ Israel, fel y gwnelech di rymmustra yn Ephrata, ac y gosodech enw yn Bethlehem:
4:12 Bydded hefyd dy dŷ di, fel tŷ Phares (* yr hwn a ymddug Thamar i Iuda:) o'r hâd yr hwn a ddyru 'r Arglwydd it o'r llangces hon.
4:13 Felly Booz a gymmerodd Ruth, a hi a fu iddo yn wraig, ac efe a aeth i mewn ati hi: a'r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.
4:14 A'r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, bendigedic [fyddo] yr Arglwydd yr hwn ni rwystrodd it gyfathrach-wr heddyw: fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
4:15 Ac efe fydd i't yn adnewyddu [dy[ enioes, ac i ymgeleddu dy ben-wynnedd: canys dy waudd yr hon a'th gâr di a blantodd iddo ef, a hon [sydd] well i ti na saith o feibion.
4:16 A Naomi a gymmerth y plentyn, ac ai gosododd ef yn ei monwes, ac a fu fammaeth iddo.
4:17 A'r chymydogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd ganwyd mab i Naomi: ac a alwasant ei enw ef Obed, hwn [oedd] tâd Isai, dâd Dafydd.
4:18 Dymma genhedlaethau Pharez: Pharez a genhedlodd Hezron.
4:19 A Hezron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab.
4:20 Ac Aminadab a genhedlodd Naasson, a Naasson a genhedlodd Salmah.
4:21 A Salmon a genhedlodd Booz, a Booz, a genhedlodd Obed.
4:22 Ac Obed a genhedlodd Isai, a Isai a genhedlodd Dafydd.