Galar-nad y Prophwyd Ieremi

PENNOD I.

1:1 PA fodd y mae y ddinas aml [ei] phobl yn eistedd ei hunan? [pa fodd] y mae y luosog ym mhlith y cenhedloedd megis yn weddw? [pa fodd] y mae tywysoges y talaithau tann deyrn-ged?
1:2 Y mae hi yn ŵylo yn hidl liw nos, ac [y mae] ei dagrau ar ei gruddiau hi heb [neb] oi chariadau yn tysturio wrthi hi: ai holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, [ac] a aethant yn elynnion iddi.
1:3 Juda a fudodd ymmaith gan flinder, a chan amlder caethiwed; y mae hi yn aros ym mysc y cenhedloedd, ac heb gael gorphwystra: ei holl erlid-wŷr ai goddiweddasant hi mewn lloedd cyfyng.
1:4 Y mae ffyrdd Sion yn galaru o eisieu rhai yn dyfod i'r ŵyl arbennic: ei holl byrth hi [ydynt] anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hithe yn flin arni.
1:5 Ei gwrthwyneb-wŷr ydynt bennaf, y mae ei gelynnion yn ffynnu, am fod yr Arglwydd yn ei gofidio hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.
1:6 Holl harddwch merch Sion a ymadawodd â hi, y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlid-wŷr.
1:7 Y mae Jerusalem, yn nyddiau ei blinder, gwrthryfelgarwch yn cofio ei holl hyfrydch, y rhai oedd [eiddo hi] gynt pan syrthiodd phobl hi yn llaw y gelyn heb [neb] yn ei chynnorthwyo hi: y gelynnion a welsant [hyn,] ac a chwarddasant am [benn] ei Sabbothau.
1:8 Jerusalem a wnaeth bechod, am hynny y methodd hi, yr holl rai ai hanrhydeddent hi [o'r blaen] sy yn ei diystyru hi, o herwydd iddynt weled ei noethni hi: îe, y mae hi yn ucheneidio wedi ei throi yn ei hôl.
1:9 Y mae ei godreu hi yn aflan, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd, am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb [neb] yn ei tosturio wrthi hi: edrych Arglwydd ar fy mlinder, am falchio o'r gelyn.
1:10 Y gwrthwyneb-ŵr a estynnodd ei law ar ei holl dlysau hi, hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn iw chyssegr, i'r rhai y gorchymynasit ti, na ddelent i'th gynnulleidfa.
1:11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, ac yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu tlysau am fwyd i ddadebru yr enaid, edrych Arglwydd a gwêl; di mai dirmygus ydwyfi.
1:12 Onid gwaeth gennych chwi y fforddolion oll [er hynny?] gwelwch ac edrychwch a oes y fâth ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi? [ac] a'r hwn y mae yr Arglwydd yn fyng-ofidio yn nydd ei ddigter.
1:13 O'r uchelder yr anfonodd efe dân i'm hescyrn i, yr hwn ai lloscodd hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd fi yn [fy] ôl, efe a'm gwnaeth fi yn anrhaithiedic [ac] yn ofidus byth,
1:14 Rhwymwyd iau fyng-hamweddau ai law ef, hwy a ymblethasant,ac a ddaethant i fynu am fyng-wddf: efe a wnaeth i'm nerth syrthio, yr Arglwydd a'm rhoddodd mewn dwylo, [oddi tan ba rai] ni allaf gyfodi.
1:15 Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymmus [y rhai oeddynt] o'm mewn, efe a gyhoeddodd i'm herbyn amser terfynedic i ddifetha fyng-wŷr ieuaingc: [fel] gwin-wryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn [sef] merch Juda.
1:16 Am hyn yr ydwyf yn ŵylo, [ac] y mae fy llygaid yn diferu y dwfr, o herwydd pellhau oddi wrthif [pob] diddanwr yr hwn a ddadebre fy enaid, [a] bôd fy meibion yn anrhaithiedic, am i'r gelyn orchfygu.
1:17 Sion a ledodd ei dwylo, heb [fod] a dosturie wrhti hi, yr Arglwydd a osododd ei elynnion yng-hylch Jacob, [ac] Jerusalem sydd ffiaidd yn eu mysôc hwynt.
1:18 Cyfiawn yw 'r Arglwydd, o blegit myfi a fum anufydd iw air ef, gwrandewch atolwg chwi bobloedd oll, a gwelwch fyng-ofid: fy morwynion, a'm gwŷr ieuaingc a aethant i gaethiwed.
1:19 Gelwais am fyng-hariadau, [ac] hwy a'm twyllasant fi, fy offeiriaid a'm henaf-gwŷr a fuant feirw yn y ddinas: tra fuant hwy yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.
1:20 Gwel di ô Arglwydd fod yn gyfyng arnaf, fy emyscaroedd a gyffroasant, fyng-halon a drôdd ynof; o herwydd fy mod yn rhy anufydd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, fel [y mae] marwolaeth gartref.
1:21 Clywsant fy mod i yn ucheneidio, [ac] nid [oes] a dosturio wrhtifi, fy holl elynnion [pan] glywsant fy nryg-fyd a lawenychasant, am i ti wneuthur [hynny: ond] ti a ddygi i benn y dydd a gyhoeddaist, pan fyddant hwy [yr ydwyf] innef.
1:22 Deued eu holl ddrygioni hwynt o'th flaen di, a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnef am fy holl gamweddau: o blegit [y mae] fy ucheneidiau yn aml, a'm calon yn ofidus.

PEN. II.

2:1 Pa fodd y tywyllodd yr Arglwydd ar ferch Sion yn ei sorriant? efe a fwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd, ac yn ei ddigter ni chofiodd leithic ei draed.
2:2 Yr Arglwydd a ddifethodd heb arbed holl anneddau Jacob, efe a ddifrododd yn ei ddigter amddeffynfeudd merch Juda; efe ai tynnodd [hwynt] i lawr, [ac] a ddifethodd y deyrnas ai thywysogion.
2:3 Mewn sorriant digllon y torrodd efe holl gyrn Israel, efe a dynnodd [ei] ddeheu-law yn [ei] hôl oddi wrth y gelyn: ac yn erbyn Jacob y cynneuodd megis fflam danllyd [yr hon] a ddifaodd o amgylch.
2:4 Efe a dynnodd ei fwa fel gelyn, gosododd ei ddeheu-law fel gwrth-wyneb-wr, ac a laddodd bob dim hyfryd i'r golwg ym mhabell merch Sion, fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.
2:5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn, efe a ddifethodd Israel, efe a ddifethodd ei holl balasau hi, efe a ddifwynodd ei hamddeffynfeudd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml i ferch Juda.
2:6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd, efe a lygrodd ei gymmanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Sion yr uchel ŵyl a'r Sabboth, ac yn llidiawgrwydd ei sorriant y dirmygodd y brenhin a'r offeiriad.
2:7 Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gyssegr, [ac] a roddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: [y gelynion] a roddasant lef yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel-ŵyl.
2:8 Yr Arglwydd a amcanodd ddifwyno mûr merch Sion, efe a estynnodd linin mesur, ac ni pheidiodd a difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhacfur, ac i'r mûr alaru, [y rhai] a gyd-fethasant.
2:9 Ei phyrth a soddasant i'r ddaiar, efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi, ei brenin, ai thywysogion [a gaeth-gluwyd] i fysg y cenhedloedd, heb gyfraith [y mae] ei phrophwydi hi, [at] heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd.
2:10 Henuriaid merch Sion a eisteddasant i lawr, a dawasant a sôn, a osodasant lwch ar eu pennau, [ac] a wiscasant sachliain: merched Jerusalem a ostyngasant eu pennau i lawr.
2:11 Fy llygaid i a ddarfuant gan wylofain, fy emyscaroedd a gyffroasant, fy afi a dywalltwyd ar y ddaiar, o herwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a'r rhai bychain yn heolydd y ddinas.
2:12 [Y rhai] a ddywedant wrth eu mammau, pa le [y cawn ni] ŷd a gwîn? gan lewygu fel un archolledic yn heolydd y ddinas, [a] chan farw ar freichiau eu mammau.
2:13 Pa destiolaeth a roddaf i ti, beth a gyffelybaf i ti ô ferch Jerusalem, beth a gystadlaf â thi fel i'th ddiddanwyf ô forwyn [sef] merch Sion? canys [y mae] dy ddinistr gymmeint a'r môr, pwy a'th iachâ di?
2:14 Y mae dy brophwydi yn gweled i ti gelwydd a diflasrwydd, ac ni ddadcuddiasant dy anwiredd fel y dychwelyd dy gaethiwed: eithr hwynt a welsant i ti brophwydoliaethau [am] oferedd a herwriaeth.
2:15 Y rhai oll a drammwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti, a chwibanent, ac a escydwent eu pennau ar ferch Jerusalem [gan ddywedyd:] ai dymma y ddinas yr hon y dywedpwyd [ei bod] yn berffeith-gwbl o degwch, [ac] yn llawenydd i'r holl wlad?
2:16 Dy holl elynnion a ledasant eu safnau arnat ti, a chwibanasant, a escyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant: llyngcwn [hi,] yn ddiau dymma y dydd yr hwn a ddisgwiliasom ni, ni ai cawsom, [ac ai] gwelsom.
2:17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychymygodd, ac a gyflawnodd ei air yr hwn a amcanodd efe er y dyddiau gynt, efe a ddifrododd, ac nid arbedodd, efe a wnaeth i'r gelyn lawenychu yn dy erbyn di, efe a dderchafodd gorn dy wrthwyneb-wŷr di.
2:18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, ô fûr merch Sion difera ddagrau ddydd a nôs fel afon: na orphywys di, ac na pheidied cannwyll dy lygad.
2:19 Cyfot, cyhoedda liw nôs, yn nechrau y wiliadwriaeth, tywallt dy galon fel dyfroedd ger bron yr Arglwydd: derchafa dy ddwylo atto ef, am enioes dy blant y rhai ydynt yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
2:20 Edrych Arglwydd, a gwêl, i bwy y gwnaethost fel hyn? a fwytu y gwragedd eu ffrwyth eu hun [sef] plant o rychwant o hŷd? a leddir yn dy gyssegr di yr offeiriad a'r prophwydi?
2:21 Ieuangc a hên ydynt yn gorwedd ar lawr [yn] yr heolydd: fy morwynion, a'm gwŷr ieuaingc a syrthiasant drwy y cleddyf: ti ai lleddaist [hwynt] yn nydd dy sorriant, lleddaist [hwynt] heb arbed.
2:22 Gelwaist am rai i'm dychrynnu fi o amgylch megis i uchel-ŵyl yn nydd sorriant yr Arglwydd: nid oedd [un] a ddiangodd, nac a adawyd yn fyw, y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais, ac a fegais i.

PEN. III.

3:1 MYfi [ydywf] y gŵr [yr hwn] a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.
3:2 I dywyllwch, ac nid i oleuni yr arweiniodd, ac y tywysodd efe fi.
3:3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trôdd efe, [ac] y mae efe yn troi ei law beunydd.
3:4 Efe a wnaeth fyng-nhawd, a'm croen yn hên, efe a ddrylliodd fy escyrn.
3:5 Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac [a'm] hamgylchodd â bustl ac â blinder.
3:6 Efe a'm gosododd mewn tywyllwch, fel y rhai ydynt wedi marw byth.
3:7 Efe a gaeodd o'm hamgylch fel nad elwyfi allan: efe a wnaeth fy lleffether i yn drom,
3:8 Ac er galw a gweiddi o honofi, efe a omeddodd fyng-weddi.
3:9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nâdd, ac a ŵyrodd fy llwybrau.
3:10 Y mae efe yn fyng-hynllwyn [fel] arth, [neu] lew mewn lloches.
3:11 Efe a rwystrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd, yn anrhaithiedic y gosododd efe fi.
3:12 Efe a dynnodd ei fŵa, ac a'm gosododd fel nôd i saethu atto.
3:13 Efe a saethodd i saethau trwy fy arennau mau fi.
3:14 Gwatworgerdd ydywyf i'm holl bobl, at cân hwynt ar hŷd y dydd.
3:15 Efe a'm llanwodd â chwerwder, [ac] a'm meddwodd i a'r wermod.
3:16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llŵch.
3:17 Fy enaid a ymadawodd â heddwch, ac a anghofiodd ddaioni.
3:18 A mi a ddywedais, darfu a'm fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.
3:19 Cofia di fy mlinder a'm gofid, y wermod, a'r bustl.
3:20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ymddarostwng ynofi.
3:21 Hyn yr ydwyf yn ei ystyried, am hynny y gobeithiaf.
3:22 Trugaredd yr Arglwydd [yw] na ddarfu am danom ni: o herwydd ni ddarfu ei drugaredd ef.
3:23 Bob bore [y daw dy drugaredd] o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.
3:24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid: am hynny y gobeithiaf ynddo ef.
3:25 Daionus [yw] yr Arglwydd i'r rhai a obeithiant ynddo ef: ac i'r enaid ai ceisio ef.
3:26 Da [yw] gobeithio, ac aros yn iechydwriaeth yr Arglwydd.
3:27 Da [yw] i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuengtid.
3:28 [Hwnnw] a eistedd ei hunan, ac a daw â son: am iddo ddioddef [iau yr Arglwydd] arno ef.
3:29 Efe a ddyry ei wyneb yn y llwch [i edrych] a oes obaith.
3:30 Efe a ddyry [ei] gern i'r hwn ai tarawo, [ac] efe a lenwir â gwradwydd.
3:31 O blegit nid yn dragywydd y gwrthid yr Arglwydd:
3:32 Canys er iddo gystuddio, efe a dosturia eil-waith yn ôl amlder ei drugaredd.
3:33 Nid oi fodd y blina efe, nac y cystuddia efe ddynion,
3:34 Gan fathru holl garcharorion y ddaiar tann ei draed,
3:35 [A] chan ŵyro barn gŵr o flaen y Goruchaf.
3:36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled [yn dda] wneuthur cam â gŵr yn ei fatter.
3:37 Pwy a ddywed y bydd peth heb i'r Arglwydd ei ordeinio?
3:38 Onid o enau y Goruchaf y daw niwed a daioni?
3:39 Pa ham yr ymofidia dŷn byw? [ymofidied] gŵr am ei bechod.
3:40 Ceisiwn a chwiliwn am ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd.
3:41 Derchafwn ein calonnau a'n dwylo at Dduw [yr hwn sydd] yn y nefoedd.
3:42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom annufydd, tithe nid arbedaist.
3:43 Gorchguddiaist [ni] â sorriant, ac erlidiaist ni: lleddaist [ni] heb arbed.
3:44 Ymguddiaist mewn cwmwl fel na ddeue [ein] gweddi [attat.]
3:45 Gosodaist ni ddiystyr, ac yn ffiaidd ym mysc y bobl.
3:46 Ein gelynnion a ledasant eu safnau arnom ni.
3:47 Dychryn a magl, amrhaith a dinistr a daeth arnom ni.
3:48 Fy llygad a ddiferasant ffrydau o ddwfr, o herwydd dinistr merch fy mhobl.
3:49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorphwystra;
3:50 Hyd onid edrycho, ac [onid] ystyrio yr Arglwydd o'r nefoedd.
3:51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid o herwydd holl ferched fy ninas.
3:52 Fyng-elynnion gan hela a'm heliasant yn ddi-achos fel aderyn.
3:53 Rhwymasant fy enioes yng-harchar: a bwriasant gerrig arnaf fi.
3:54 Y dyfroedd a lifasant tros fy mhen, dywedais darfu am danaf.
3:55 Gelwais ar dy enw di ô Arglwydd o'r pwll isaf.
3:56 Ti a glywaist fy llef: na chae di dy glust rhac fy uchenaid a'm gwaedd.
3:57 Ti a ddaethost yn nês y dydd y gelwais arnat, [ac] a ddywedaist, nac ofna.
3:58 Ti ô Arglwydd a ddadleuaist gyd a'm henaid, [ac] a waredaist fy enioes.
3:59 Ti ô Arglwydd a welaist fyng-ham: barna di fy matter.
3:60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, ai holl amcanion i'm herbyn i.
3:61 Clywaist eu gwaradwydd hwynt ô Arglwydd, a'r hyn oll a ddychymygasent i'm herbyn.
3:62 Geiriau fyng-wrthwyneb-wŷr, ai myfyrdod ydynt i'm herbyn ar hŷd y dydd.
3:63 Edrych ar eu heisteddiad ai cyfodiad, myfi ydwyf eu cân hwynt.
3:64 Tâl iddynt ô Arglwydd, yn ôl gweithredoedd eu dwylo.
3:65 Dot iddynt ddallineb calon, [dot] dy felldith iddynt.
3:66 Erlit ti hwynt â digofaint, a difetha hwynt oddi tann nefoedd ô Arglwydd.

PEN. IIII.

4:1 Pa fodd y rhydodd yr aur? y newidiodd yr aur coeth da? [ac] y taflwyd cerrig y cyssegr ym mhen pob heol.
4:2 Anrhydeddus [oedd] feibion Sion, a chystal ag aur pur: pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel stenau pridd [o] waith dwylo y crochenydd.
4:3 Y dreigiau a dynnasant allan eu bronnau, ac a roddasant sugn iw cenawon: [ond] merch fy mhobl [a aeth] yn greulon, fel yr estrisiaid yn yr anialwch.
4:4 Tafod [pob] plentyn sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnasant fara, [ond] nid [oedd neb] a dorre iddynt.
4:5 Y rhai a fwytaent [gynt] yn foethus a ddifethwyd yn awr yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn scarlat a gofleidiasant y dom.
4:6 Pwy yw anwiredd merch fy mhobl i na phechod Sodoma yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymmwth, ac heb gader nid yn gwerssyllu iw herbyn.
4:7Glânach oedd ei Nazareaid hi na'r eira, gwynnach na'r llaeth; gwridogach oeddynt o gorph na'r cwrel, ai trwssiad [oedd] o saphyr.
4:8 [Yn awr] duach yw 'r olwg arnynt na'r gloun, nid adweinir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷnodd wrth eu hescyrn, ac a wywodd fel prenn.
4:9 Gwell yw y rhai a lladdwyd (sic!) â chleddyf na'r rhai a laddwyd â newyn: o blegit y rhai hyn a ddihoenasant wedi eu lladd o eisieu cnwd y maes.
4:10 Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: [y rhai] oeddynt yn ymborth iddynt hwy yn adfyd merch fy mhobl i.
4:11 Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddigter, a dywalltodd lidiawgrwydd ei sorriant, ac a gynneuodd dân yn Sion yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.
4:12 Ni choelie brenhinoedd y ddaiar, na holl drigolion y bŷd y deue y gwrthwyneb-wr a'r gelyn i mewn i byrth Jerusalem,
4:13 Am bechodau ei phrophwydi, [ac] anwiredd ei hoffeiriaid y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn oi mewn hi.
4:14 Gwibiasant [fel] deillion yn yr heolydd, [ac] ymddifwynasant gan waed, fel na ellyd cyffwrdd ai dillad hwynt.
4:15 Gwaedde [pawb] arnynt, ciliwch ô aflan, ciliwch, ciliwch na chyffyrddwch [â ni:] felly y ciliasant, ac yr aethant ymmaith, yna y dywedwyd ym mysc y cenhedloedd, ni thrigant hwy [ymma] mwyach.
4:16 Sorriant yr Arglwydd a'u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy, ni pharchent hwy yr offeiriaid, [ac] ni thosturient wrth yr henaf-gwŷr.
4:17 Ein llygaid a ballasant tra yr oeddem ni yn disgwil am ein cynnorthwy ofer: disgwil yr oeddem ni yn unic wrth genhedlaeth yr hon nid achube.
4:18 Hwynt a ddisgwiliasant ein cerddediad fel na allem fyned ar hŷd ein heolydd, y mae ein diwedd ni yn agos: ein dyddiau ni a gyflawnwyd, diau ddyfod ein diwedd ni.
4:19 Yscafnach yw ein erlid-wŷr nag eryrod yr awyr, y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, ac yn ein cynllwyn ni yn yr anialwch.
4:20 Anadl ein ffroenau [sef] eneiniog yr Arglwydd a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt: [am] yr hwn y dywedasem, tann ei gyscod ef y byddwn ni byw ym mysc y cenhedloedd.
4:21 Bydd lawen a hyfryd merch Edom yr hon wyt yn trigo yn nhir Hus: daw cwppan heibio i tithe hefyd, ti a feddwi ac a ymnoethi.
4:22 Gorphennwyd dy gospedigaeth di merch Sion ni chaeth-gludir di mwy: efe a ymwel a'th anwiredd di merch Edom, efe a ddadcuddia dy bechodau.

PEN V.

5:1 Cofia ô Arglwydd beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwradwydd.
5:2 Ein etifeddiaeth ni a roddwyd i estroniaid: a'n tai i ddieithriaid.
5:3 Ymddifaid ydym heb dadau, a'n mammau [ydynt] megis gweddwon.
5:4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian: ein coed sy yn dyfod mewn cynewid.
5:5 Yr ydys yn ein herlid ni yn dôst: blinasom [ac] nid oes gorphwystra i ni.
5:6 Gwasanaethasom yr Aiphtiaid [gynt, a'r] Assyriaid yn nawr i gael digon o fara.
5:7 Ein tadau a bechasant, y rhai nid ydynt yn nawr: [a] ninnau sy yn dwyn eu cosp hwynt.
5:8 Gweision sy yn llywodraethu arnom ni, heb[ fod] a'n gwaredo [ni] oi llaw hwynt.
5:9 [Mewn enbydrwydd] am ein henioes y dygasom ein bara i mewn o herwydd cleddyf [yr hwn sydd yn] yr anialwch.
5:10 Ein croen a dduodd fel ffwrn gan newyn tôst.
5:11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Sion: [a]'r morwynion yn ninasoedd Juda.
5:12 Crogasant dywysogion ai dwylo, ni pherchid wynebau yr henaf-gwŷr.
5:13 Hwynt a gymmerasant y gwyr ieuaingc i falu: a'r llangciau a lewygasant tann [y beichiau] y coed.
5:14 Yr henaf-gwŷr a beidiasant a'r porth: [a'r] gwŷr ieuaingc ai cerdd.
5:15 Darfu llawenydd ein calon: a'n dawns a drôdd yn alar.
5:16 Syrthiodd y goron oddi am ein penn ni: gwae ni yn awr bechu o honom.
5:17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus, am hyn y tywyllodd ein llygaid,
5:18 O herwydd mynydd Sion yr hwn a anrheithiwyd: ac y mae y llwynogod [yn unuc] yn rhodio ynddo.
5:19 Ti Arglwydd a barhei byth; a'th orsedd-faingc yn oes oesoedd.
5:20 Pa ham yr anghofi dy nyni byth: [ac] y gadewi di ni dros hir ddyddiau?
5:21 Dychwel nyni ô Arglwydd attat ti, ac ni a ddychwelwn: adnewydda di ein dyddiau megis cynt.
5:22 Eithr yr ydwyt ti yn hytrach yn llwyr wrthod ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.