Llyfr y Prophwyd Abdias.
PENNOD. I
Prophwydoliaeth yn erbyn Edom.
1:1 Gweledigaeth Abdias, fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn Edom: clywsom air oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd at y cenhedloedd [i ddywedyd:] codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
1:2 Wele, mi a'th roddais yn fychan ym mysc y cenhedloedd, a dibris iawn [wyt.]
1:3 Balchder dy galon a'th dwyllodd, ti yr hwn wyt yn trigo yn holldau y graig, [yn] uchelder ei drigfa y mae yn dywedydd yn ei galon, pwy a'm tynn fi i'r llawr?
1:4 Ped ymddyrchefyt megis yr eryr, a phe rhoit dy nŷth ym mhlith y sêr, mi a'th ddescynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd.
1:5 Ai lladron a ddaethant atat? neu yspeilwŷr nos? pa fodd i'th ostegwyd? oni ladrattasent hwynt eu digon? pe daethe cynhull-wŷr grawn-win attat, oni weddillasent rawn?
1:6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, [ac] y ceisiwyd ei guddfeudd ef?
1:7 Yr holl wŷr y rhai yr oedd ammod rhyngot â hwynt, a'th yrrasant hyd y terfyn, y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot â hwynt a'th dwyllasant, ac a'th orfuant, [bwyttawŷr] dy fara a roddasant archoll danat: nid [oes] ddeall ynddo.
1:8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw medd yr Arglwydd y doethion allan o Edom, a'r deall allan o fynydd Esau?
1:10 Dy gedyrn di o Theman a ofnant, am y torrir ymmaith bôb un o fynydd Esau gan y laddfa.
1:10 Am dy traha [ar] dy frawd Iacob, gwarth a'th orchuddia, a thi a dorrir ymmaith bŷth.
1:11 Y dydd y sefaist o'r tu arall, pan gaethgludodd estroniaid ei olud, a myned o ddieithraid i'w byrth ef, a bwrw coel-brennau am Ierusalem, tithe hefyd oeddit megis un o honynt.
1:12 Ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, pan ddieithriwyd ef, ac ni ddylesit lawenychu yn erbyn plant Iuda y dydd y difethwyd hwynt: ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
1:13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl y dinistriwyd hwynt, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu dinistr, ac ni ddylesit estyn [dy law] ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt.
1:14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croes-ffyrdd i dorri ymmaith ei rhai diangol ef, ac ni ddylesit ti fradychu y gweddill o honaw ef ddydd yr adfyd
1:15 Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd, fel y gwnaethost y gwneir i tithe: dy wobr a ddychwelir ar dy ben.
1:16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, [felly]'r holl genhedloedd a yfant yn oestad: yfant, a llyngcant, a byddant fel pe na buasent.
1:17 Ac ar fynydd Sion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd: a thŷ Iacob a orescyn eu hetifeddiathau hwynt.
1:18 Yna y bydd tŷ Iacob yn dân, a thŷ Ioseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difant hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a'i dywedodd.
1:19 Gorescynnant hefyd du dehau i fynydd Esau, a gwastadedd y Philistiaid, a gorescynnant feysydd Ephraim, a meusydd Samaria, a Beniamin a [orescyn] Gilead;
1:20 A chaeth-glud y llû hwn o blant Israel [a orescynnant] yr hyn [a fu eiddo] y Canaaneiaid, hyd Zarephath, a chaethion Ierusalem y rhai [yddynt] yn Sepharad a orescynnant ddinasoedd y dehau.
1:21 Dring gwaredwŷr hefyd fynydd Seion i farnu mynydd Esau, a'r frenhiniaeth fydd eiddo'r Arglwydd.
Diweddiad llyfr Abdias