IONAS

Llyfr y Prophwyd Ionas


PENNOD I

Ionas y ffoi tua Tharsis, rhag myned i bregethu i Ninife. 4 Temhestl yn gyfodi fel y gorfu ei fwrw ef i'r môr.

1:1 Gair yr Arglwydd a ddaeth at Ionas mab Amittai, gan ddywedyd:
1:2 Cyfod, dôs i Ninife y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a dderchafodd ger fy mron.
1:3 Ac Ionas a gyfododd i ffoi i Tharsis oddi ger bron yr Arglwydd, ac efe a aeth i wared i Ioppa, ac a gafodd long yn myned i Tharsis, ac a roddes ei phorth-log hi, ac a aeth i wared iddi hi, i fyned gyd â hwynt i wared i Tharsis oddi ger bron yr Arglwydd.
1:4 Yna'r Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr ryferthwy mawr, fel y tybygwyd y dryllie y llong:
1:5 Y mor-wŷr a ofnasant, ac a lefasant bôb un ar ei dduw, a bwriasant yr offer y rhai [oeddynt] yn y llong i'r môr er yscafnhau arnynt: ond Ionas a aethe i wared i gilfachau y llongc, ac a orweddase, ac a gyscase.
1:6 A meistr y llong a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho: beth [a ddarfu] it gyscadur? cyfot, galw ar dy Dduw: ond odid y Duw [hwnnw] a ystyr wrthym fel na'n coller.
1:7 A dywedasant bôb un wrth ei gyfaill, deuwch, a bwriwn goel-brennau, a mwynnwn wybod o achos pwy [y mae] y drwg hwn: a bwriasant goel-brennau, a'r coel-brenn a syrthiodd ar Ionas.
1:8 A dywedasant wrtho, attolwg dangos i ni er mwyn pwy [y mae] i ni y drwg hwn? beth [yw] dy waith? ac o bale y daethost? pa le [yw] dy wlâd? ac o ba bobl [yr wyt] ti?
1:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebraead ydwyfi; ac ofni 'r wyfi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sych-dîr.
1:10 A'r gwŷr a ofnasant [gan] ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, pa ham y gwnaethost hyn? (canys y dynion a ŵyddent iddo ffoi oddi ger bron yr Arglwydd, o herwydd efe a fynegase iddynt)
1:11 A dywedasant wrtho, beth a wnawn i ti ostego o'r môr oddi wrthym? canys gweithio 'r oedd y môr, a therfyscu.
1:12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, cymmerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi, canys gwn [ddyfod] y rhyferthwy mawr hwn arnoch er fy mwyn ni.
1:13 Er hynn y gwŷr a rwyfasant i ddychwelyd i dîr;, ond ni's gallent; am i'r môr weithio, a therfyscu yn eu herbyn hwynt.
1:14 Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, attolwg, Arglwydd na ddifether ni am enioes y gŵr hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti ô Arglwydd a wnaethost fel y gwelaist yn dda.
1:15 Yna y cymmerasant Ionas, ac bwriasant ef i'r môr a pheidiodd y môr ai gyffro.
1:16 A'r gwŷ r a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant, [ac] a addunedasant addunedau i'r Arglwydd.
1:17 A'r Arglwydd a ddarparase byscodyn mawr i lyngcu Ionas, ac Ionas a fu ym mol y pyscodyn dri diwrnod, a thair nôs.

PENNOD 2

1 Gweddi Ionas o fol y pyscodyn. 11 Yr Arglwydd yn y wared ef oddi yno.

2:1 Ac Ionas a weddiodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn,
2:2 A dywedodd, o'm hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm hattebodd: o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llêf.
2:3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr, y llanw a'm hamgylchynodd, dy donnau a'th gefn-foroedd a aethant drosof.
2:4 A minnef a ddywedais, bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid, er hynny chwanegaf edrych tu a'th Deml sanctaidd.
2:5 Y dyfroedd a amgylchynasant hyd fy enaid, y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; rhywmodd yr hesc am fy mhenn.
2:6 Discynnais i odrau y brynnau, y ddaiar [a aeth] o'm hamgylch ai throsolion yn dragywydd: a'm Harglwydd Dduw a dderchafodd fy enioes o'r ffos.
2:7 Pan ymosidiodd fy enaid ynof, coffeais yr Arglwydd, am gweddi a ddaeth attat i'th Deml sanctaidd.
2:8 Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd.
2:9 A minnef mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf fy adduned: iechydwriaeth [sydd] eiddo'r Arglwydd.
2:10 A dywedodd yr Arglwydd wrth y pyscodyn, ac efe a fwriodd Ionas ar y tîr sych.

PENNOD 3

Ail hebryngiad Ionas i Ninife. 5 Ac edifeirchwy Ninifeaid

3:1 A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail-waith at Ionas gan ddywedyd:
3:2 Cyfot dôs i Ninife y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthit.
3:3 Ac Ionas a gyfododd ac a aeth i Ninife, yn ôl gair yr Arglwydd, a Ninife ydoedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.
3:4 Ac Ionas a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, deugain niwrnod [fyddant] etto, yna Ninife a gwympir.
3:5 A gwŷr Ninife a gredasant i Dduw, a chyhoeddasant ympryd, a gwiscasant sach-liain o'r mwyaf hyd y lleiaf o honynt.
3:6 A'r gair a ddaeth at frenin Ninife, ac efe a gyfododd oi frenhin-faingc, ac a ddioscodd oddi am dano ei frenhin-wisc, ac a roddes am dano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.
3:7 Yna cyhoeddwyd, ac y dywedwyd yn Ninife drwy orchymyn y brenin ai bendefigion, gan ddywedyd: dŷn, ac anifail, eidion, a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr.
3:8 Gwisced dyn, ac anifail sach-len, a galwed ar Dduw yn lew, a datroed pob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y camwedd yr hwn [sydd] yn eu dwylo hwynt.
3:9 Pwy a ŵyr a drŷ Duw, ac edifarhau, a datroi o angerdd ei ddig fel na difether ni?
3:10 A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, sef troi o honynt oi ffyrdd drygionus, ac edifarhaodd Duw o'r drwg a ddywedase y gwnae efe iddynt, ac ni's gwnaeth.

PENNOD 4

Dîg Ionas am esmwthdra Duw iw greaduriaid.

4:1 A bu ddrwg iawn gan Ionas [hyn,] ac efe a ddigiodd ynddo ein hun.
4:2 Ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: attolwg it Arglwydd, oni ddywedais hyn pan oeddwn yn fyng-wlâd? am hynny 'r achubais flaen i ffoi i Tharsis, am y gwyddwn dy fod ti yn Dduw grâslawn, a thrugarog, araf i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.
4:3 Am hynny fy Arglwydd cymmer fy enaid bellach oddi wrthif: canys gwell i'm farw na byw.
4:4 A'r Arglwydd a ddywedodd, ai da yw'r gwaith, ymddigio o honot?
4:5 Ac Ionas a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cyscod, hyd oni wele beth a fydde yn y ddinas.
4:6 A'r Arglwydd Dduw a ddarparodd Cicaion, ac a wnaeth iddo dyfû tros Ionas i fod yn gyscod uwch ei ben ef, iw waredu oi ofid: a bu Ionas lawen iawn am y Cicaion.
4:7 A'r Arglwydd a baratôdd brŷf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a darawodd y Cicaion, ac yntef a wywodd.
4:8 A phan gododd haul, darfu i Dduw ddarparu poeth-wynt y dwyrain: a'r haul a darawodd ar ben Ionas fel y llewygodd, ac y deisyfiodd farw oi enioes, ac a ddywedodd, gwell i'm angeu nag enioes.
4:9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Ionas, ai [gwaith] da yw ymddigio o honot am y Cicaion? ac efe a ddywedodd: da oedd ymddigio o honof hyd angeu.
4:10 A'r Arglwydd a ddywedodd, ti a dosturi am y Cicaion yr hwn ni lafuriaist wrtho, ac ni's meithrinaist: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu.
4:11 Ac oni thosturiwn i wrth Ninife y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi mwy nâ deuddec mŷrdd o ddynion y rhai ni ŵyddant [ragor] rhwng eu llaw ddehau ai llaw asswy? ac anifeiliaid lawer?

Terfyn llyfr Ionas.