Llyfr y prophwyd Nahum

PENNOD I.


Dinistr Assyria, ac ymwared Israel.

1:1 BAICH Ninife, llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
1:2 Duw [sydd] eiddigus, a'r Arglwydd sydd yn dial; ac yn berchen llid: dïalwr [yw] 'r Arglwydd ar ei wrthwyneb-wŷr, a dal [dig] y mae efe iw elynion.
1:3 Yr Arglwydd [sydd] hwyrfrydig i ddîg, a mawr ei rymm, ac ni ddïeuoga ['r anedifeiriol,] yr Arglwydd [sydd] ai lwybr yn y corwynt, ac yn y rhyferthwy, a'r cwmwl [yw] llwch ei draed ef.
1:4 Efe a gerydda y môr, ac ai sŷch; yr holl ffrydau a ddiespydda efe: llescaodd Basan, a Charmel, a llescaodd blodeun Libanus.
1:5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r brynnau a ymollygant, a'r ddaiar a lysc rhag ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ac a drigant ynddo.
1:6 Pwy a saif o flaen ei lid ? a phwy a gyfyd yng-hynddaredd ei ddigofaint ? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a dynn efe i lawr.
1:7 Daionus [yw] 'r Arglwydd, yn noddfa yn erbyn blinder; ac a edwyn y rhai a ymddyriedant ynddo.
1:8 A hedlif y gwnaiff efe drangc [ar] ei lle hi, a thywyllwch hefyd a erlid ei elynnion ef.
1:9 Beth a ddychymmygwch yn erbyn yr Arglwydd ? efe a wna drangc, ni chyfyd blinder ddwy-waith.
1:10 Canys tra'r ymddyryso y drain, a thra meddwo y gwledd-wŷr, yssir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
1:11 O honot y daeth allan a ddychymmyga ddrwg yn erbyn yhyyr Arglwydd: [sef] cynghorwr drygionus.
1:12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, pe byddent heddychol, ac felly morr aml, etto torrir hwynt felly fel yr ele efe heibio: er dy flino ni'th flinaf mwyach.
1:13 Canys yr awran torraf ei iaû ef oddi arnat, a datodaf dy rwymau.
1:14 Yr Arglwydd hefyd a orchymynnodd o'th blegid na hauer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduw y gerfiedic a'r dawdd ddelw, gosodaf dy fedd [yno,] am it fyned yn wael.
1:15 Wele ar y mynyddoedd draed yr efangylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, ô Iuda dy ŵyliau, tâl dy addunedau, nid aiff y drygionus trwot mwy, cwbl dorrwyd ef ymmaith.

PENNOD II.

Gosodir ymma allan oruwchafiaeth y Caldeaid yn erbyn yr Assyriaid.

2:1 DAeth y chwalwr i fynu o flaen dy wyneb, cadw y castell, edrych ar y ffordd, nertha dy lwyni, cadarnhâ dy nerth yn fawr.
2:2 Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchawgrwydd Iacob, fel ardderchawgrwydd Israel: canys y diespydd-wŷr ai diespyddasant hwynt, ac a lygrasant eu canghennau.
2:3 Tarian ei [fil-wŷr] dewrion a liwiwyd yn gôch, ei wŷr o ryfel a wiscwyd ag yscarlat; [ei] gerbydau [fyddant] yn fflamm dân y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynnidwŷdd a wenwynwyd.
2:4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, ac a ymredant yn y priffyrdd: a [byddant] iw gweled fel fflammau, ac fel mellt y saethant.
2:5 Efe a gfia ei [weision] gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, paratoiwyd y gorchudd.
2:6 Pyrth y dwfr a agorwyd, a'r Deml a ymddatododd.
2:7 Huzab a gaeth-gludwyd, a gwnaed iddi dringo, ai morwynion yn ei harfon, megis â llais colomennod yn curo ar eu dwyfronnau.
2:8 A Ninife a fu er ys-dyddiau fel llynn o ddwfr: onid hwynt a ffoant, [dyweder wrthynt,] sefwch, sefwch, ac ni bydd a edrycho.
2:9 Ysclyfaethwch arian, ysclyfaethwch aur, ac nid oes diwedd ar y da parod, [a'r] gogoniant o bob dodrefn dymunol.
2:10 Gwâg, a gorwâg, ac anrheithiedic yw hi, a'r galon yn toddi, a diffrwythdra gliniau, a llescedd ar bob lwyni, ai hwynebau oll a gasclant barddu.
2:11 Pa le [y mae] trigfa y llew ? a'r borfa yr hon [sydd] i genawon y llew ? lle y rhodia y llew ieuangc a'r hên ? yno y trigodd y llew, ac nid [oedd] tarddudd.
2:12 Y llew a ysclyfaethodd ddigon iw genawon, ac a dagodd ei lewesod, ac a lanwodd ag ysclyfaeth ei ffau, ai loches ag yspail.
2:13 Wele fi attat medd Arglwydd y lluoedd, ac mi a loscaf ei cherbydau yn fŵg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuaingc: a thorraf ymaith o'r tîr dy ysclyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genadau.

PENNOD III.

Cwymp Ninife.

3:1 GWAE ddinas y gwaed! celwydd ei gyd, a llawn o yspail [yw:] heb ymado â thrais.
3:2 [Bydd] sŵn y ffrywyll, a sŵn cynnwrf olwyn, a'r march yn prangcio, a'r cerbyd yn neidio.
3:3 Y marchog yn codi ei gleddyf fflamllyd, ai ddisclaer waiw-ffon; llawer yn glwyfus, a lluosogrwydd o gelanedd heb ddiwedd ar y cyrph, a thrippiant wrth eu cyrph hwynt.
3:4 O herwydd aml butteindra y buttein dêg, meistres swynion [serch,] yr hon a werth genhedlaethau trwy ei phutteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.
3:5 Wele fi i'th erbyn medd Arglwydd y lluoedd, a datcuddiaf dy odrau hyd dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy frynci, a theyrnasoedd dy warth.
3:6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, gwradwyddaf di hefyd, a gosodaf di fel tomm.
3:7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthit, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninife, pwy a dosturia wrthi ? o ba le y ceisiaf ddiddanwyr it ?
3:8 Ai gwell ydwyt nâ No dylwythoc, yr hon a drîg rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn glawdd, ai magwyr o'r môr.
3:9 Ethiopia oedd gadernid, a'r Aipht ac [eraill] heb ddiwedd: Put a Lubim oeddynt yn gynhorthwy i ti.
3:10 Er hynny hi aeth yn gaeth-glud i garchar, ai phlant a ddrylliwyd wrth gelfi ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goel-brennau, ai holl bennaethiaid a rwymwyd mewn gefynnau.
3:11 Tithe hefyd a feddwi; byddi guddiedic, ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
3:12 Dy holl gestyll a fyddant fel ffigus-wŷd, yng-hyd ai blaen-ffrwyth, os syflir hwynt syrthiant yn safn y bwyttawr.
3:13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy blith, pyrth dy dîr a agorir i'th elynnion, tân a ysodd dy farrau.
3:14 Tynn it ddwfr gwarche, cadarnhâ dy gestyll, dos i'r domm, sathr y clai, cryfhâ dy odyn briddfaen.
3:15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyrr i lawr, ysa efe dydi fel pryf y rhŵd, [er] it ymchwanegu fel pryf y rhŵd, [ac] ymchwanegu fel y celiog rhedyn.
3:16 Amlheuaist dy farchnad-wŷr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhŵd, ac ehedodd.
3:17 Dy dywysogion [ydynt] fel y celiogod rhedyn, a'th lywodraeth-wŷr fel Locust y locustisid y rhai a heidiant yn y caeau ar amser oerfeloc: a phan godo yr haul ehedant ymmaith, ac ni adwaenir eu man lle y buant.
3:18 Dy fugeiliaid brenin Assur a heppiant, a'th bendefigion a orweddant, gwascerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni [bydd] cascludd.
3:19 Ni thynnir dy wely yng-hyd, clwyfus yw dy archoll, pawb a glywo sôn am danat a gurant eu dwylaw arnat: o herwydd ar bwy nid aeth dy ddrygioni bob amser?

Terfyn llyfr Nahum.