Llyfr y Prophwyd Aggeus

PENNOD. I

Dannod y mae efe nad adailadasent Deml yr Arglwydd

1:1 YN yr ail flwyddyn i'r brenhin Darius yn y chweched mîs, ar y dydd cyntaf o'r mis y daeth gair yr Arglwydd trwy law Aggeus y prophwyd at Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda, ac at Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, ni ddaeth [yr] amser, sef pryd adeiladu tŷ 'r Arglwydd.
1:3 Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Aggeus y prophwyd gan ddywedyd:
1:4 Ai amser [yw] i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedic: a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?
1:5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd: yr awran ystryiwch eich ffyrdd.
1:6 Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig, bwyttasoch, ond nid hyd ddigon: yfasoch, ac nid hyd fod yn ddiwall: gwisgasoch [bôb un] ac nid hyd glydwr iddo, a'r hwn a ymgyflogo sydd yn casclu cyflog i gô&d dylloc.
1:7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ystyriwch eich ffyrdd.
1:8 Derchefwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ, a mi a ymfodlonaf ynddo, ac i'm gogoneddir medd yr Arglwydd.
1:9 Edrychasoch am lawer, ac wele yn ychydig, dygasoch adref, a chwythais arno: am ba beth medd Arglwydd y lluoedd? am y tŷ mau fi'r hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.
1:10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd wlitho arnoch, a gwaharddwyd i'r ddaiar roddi ei ffrwyth.
1:11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaiar, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd, ac ar y gwîn, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaiar allan: ar ddŷn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.
1:12 Gwrandawodd Zorobabel mab Salathiel, a Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Aggeus y prophwyd, megis yr anfonodd eu Harglwydd Dduw hwynt ef: a'r bobl a ofnasant ger bron yr Arglwydd.
1:13 Yna Aggeus cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy gennadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd, [Yr wyf] fi gyd â chwi, medd yr Arglwydd.
1:14 Felly y cyffrôdd yr Arglwydd yspryd Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda, ac yspryd Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, ac yspryd holl weddill y bobl, fel yr aethant, ac y gweithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

PENN. II.

Aggeus sydd yn dangos y bydd mwy gogoniant yr ail Deml, na'r Deml gyntaf.

2:1 Y Pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis yn yr ail flwyddyn i Ddarius y brenin,
2:2 Yn y seithfed [mîs] yr unfed [dydd] ar hugain o'r mîs y daeth gair yr Arglwydd trwy law y prophwyd Aggeus, gan ddywedyd:
2:3 Dywet yn awr wrth Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda, ac wrth Iosua fab Iosedec yr arch-offeiriad, ac wrth weddill y bobl gan ddywedyd:
2:4 Pwy yn eich plith a adawyd yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid [yw] wrth hwnnw yn eich golwg, fel peth heb ddim?
2:5 Ac yr awr cymmer gyssur Zorobabel medd yr Arglwydd, ac Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, gymmer gyssur, a chymmered holl bobl y tîr, medd yr Arglwydd, a gweithiwch, canys yr [ydwyf] fi gyd â chwi, medd Arglwydd y lluoedd.
2:6 Fy Yspryd a siaf gyd â êchwi [yn ôl] y gair yr hwn a ammodais â chwi, pan eich dygais allan o'r Aipht: nac ofnwch.
2:7 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, unwaith etto, (bychan [yw] hynny) a mi a escydwaf y nefoedd, a'r ddaiar, a'r môr, a'r [tîr] sych.
2:8 Cynhyrfaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant y cenhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant medd Arglwydd y lluoedd.
2:9 Eiddo fi 'r arian, ac eiddo fi 'r aur, medd Arglwydd y lluoedd.
2:10 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf medd Arglwydd y lluoedd, ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnheddyf, medd Arglwydd y lluoedd.
2:11 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed [mîs] yn yr ail flwyddyn i Ddarius, y daeth gair yr Arglwydd at Aggeus y prophwyd gan ddywedyd,
2:12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith gan ddywedyd:
2:13 Os dwg un gîg sanctaidd yng-hwrr ei wisc, ac ai gwr â gyffwrdd a'r bara, neu a'r cawl, neu a'r gwîn, neu a'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fydd sanctaidd [hynny ?] a'r offeiriaid a attebasant, ac a ddywedasant, na [fydd.]
2:14 Ac Aggeus a ddywedodd, os un halogedic a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a halogir efe ? a'r offeiriaid a attebasasant ac a ddywedasant, halogir.
2:15 Yna 'r attebodd Aggeus, ac a ddywedodd, felly hefyd y bobl hyn, felly y genhedlaeth hon, ger fy mron medd yr Arglwydd: ac felly holl weithredoedd eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno sydd halogedic.
2:16 Ac yr awr hon meddyliwch atolwg o'r diwrnod hwn [allan,] a chynt, cyn gosod carrec ar garrec yn Nheml yr Arglwydd:
2:17 Cyn eu bôd hwynt, pan ddelid at dwrr o ugain [llestred] dêc fydde, pan ddelid at y gwin-wryf i dynnu dêc [llestred] a dau ugain o'r cafn, ugain a fydde yno.
2:18 Tarewais chwi â diflanniad, ac â mallder, ac â chenllysc yng-hyd ag oll weithredoedd eich dwylo, a chwithau ni [throesoch] attafi medd yr Arglwydd.
2:19 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwnnw, ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed [mis:] ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd Teml yr Arglwydd.
2:20 A yw 'r hâd yn yr yscubor? y winwydden hefyd, y ffigusbren, a'r pomgranad, a'r pren oliwydd ni ffrwythasant etto: o'r dydd hwn allan y bendithiaf [chwi.]
2:21 A gair yr Arglwydd a ddaeth ailwaith at Aggeus y pedwerydd [dydd] ar hugain o'r mîs gan ddywedyd? [sic]
2:22 Llefara wrth Zorobabel tywysog Iuda, gan ddywedyd: myfi a escydwaf y nefoedd, a'r ddaiar;
2:23 Ymchwelaf deyrn-gader teyrnasoedd, a dinistriaf gryfder brenhiniaethau y cenhedloedd, ymchwelaf hefyd y cerbyd ai lwyth, y meirch ai marchogion a syrthiant bôb un ar gleddyf ei gilydd.
2:24 Y diwrnod hwnnw i'th gymmeraf di fyng-wâs Zorobabel mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac i'th osodaf fel sêl, canys mi a'th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.

Terfyn llyfr Prophwydoliaeth Aggeus.