Llyfr Prophwyd Zacharias

PENNOD. I.

1 Y mae yn annog y bobl i droi at yr Arglwydd oddi wrth feiau eu henafiaid gan ddangos ymgoleddgar yw'r Arglwydd iddynt.

1 Yn yr wythfed mîs o'r ail flwyddyn i Ddarius, y daeth gair yr Arglwydd at Zacharias fâb Baracias fab Ido y prophwyd, gan ddywedyd:
2 Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau:
3 A dywet wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: dychwelwch attaf fi, medd Arglwydd y lluoedd: a mi a ddychwelaf attoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi cyntaf arnynt, gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, dychwelwch yn awr oddi wrth eich llwybrau drwg, a'ch gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr Arglwydd.
5 Pa le mae eich tadau? ac a fydd prophwydi fyw byth?
6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau, a'm deddfau y rhai a orchymynnais wrth fyng-weision y prophwydi oddiwes eich tadau? fel y dychwelasant, ac y dywedasant, megis yr amcanodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni: felly yn ôl ein llwybrau, a'n dycymygion ein hun y gwnaeth efe â ni.
7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mîs ar ddêc (hwnnw yw Sebat) o'r ail flwyddyn i Ddarius y daeth gair yr Arglwydd at Zacharias fab Baracias fab Ido y prophwyd gan ddywedyd,
8 Gwelais noswaith, ac wele ŵr yn marchogeth ar farch côch, ac efe yn sefyll rhwng y myr-wŷdd y rhai [oeddynt] mewn pant, ac oi ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynnion.
9 Yna y dywedais, beth [yw] y rhai hyn fy arglwydd? a dywedodd yr Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi: mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.
10 A'r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myr-wŷdd, a attebodd, ac a ddywedodd, dymma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i fyned trwy'r bŷd.
11 A hwyntau a attebasant Angel yr Arglwydd yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrr, ac a ddywedasant, rhodiasom yr holl ddaiar, ac wele yr holl fŷd yn eistedd, ac yn gorphywys.
12 Ac Angel yr Arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd y lluoedd, pa hŷd na thrugarhei wrth Ierusalem, a dinasoedd Iuda, [wrth] y rhai y digllonaist y deng-mhlynedd a thrugain hyn?
13 A'r Arglwydd a attebodd yr Angel a oedd yn ymddiddan â mi [â] geiriau daionus, [a] geiriau cyffurus.
14 A'r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthif: gwaedda, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, deliais eiddigedd mawr dros Ierusalem a thros Sion:
15 A digiais yn ddir-fawr wrth y cenhedloedd difraw, y rhai [pan] ddigiais ychydig, hwythau a gynnorthwyasant wneuthur niwed.
16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwelaf at Ierusalem mewn tirionder, fy nhŷ a adailedir ynddi medd Arglwydd y lluoedd: a llinin a estynnir ar Ierusalem.
17 Gwaedda etto gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, fy ninasoedd a wascerir drwy ddaioni, a'r Arglwydd a rydd gyssur i Sion etto, ac a ddewis Ierusalem trachefn.
18 A chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele bedwar corn.
19 A dywedais wrth yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, beth [yw] y rhai hyn? dywedodd yntef wrthif, y rhai hyn yw'r cyrn a wascarant Iuda, Israel, a Ierusalem.
20 A'r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.
21 Yna y dywedais, i wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, y rhai hyn [yw'r] cyrn a wascarasant Iuda, fel na chode un ei ben: a'r rhai hyn a ddaethant iw tarfu hwynt, ac i daflu allan gyrn y cenhedloedd, y rhai a godant eu cyrn ar wlâd Iuda, iw gwascaru hi.

PEN. II.

Adnewyddiad Ierusalem, ac Iuda.

1 DErchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais, ac wele ŵr, ac yn ei law linin mesur.
2 A dywedais, i ba le 'r ei di? Ac efe a ddywedodd wrthif, i fesuro Ierusalem, i weled beth [a sydd] ei llêd hi, a pheth [sydd] ei hŷd hi.
3 Ac wele angel yr Arglwydd a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan iw gyfarfod ef.
4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, rhêd, a llefara wrth y llangc hwn gan ddywedyd: Ierusalem a gyfanneddir [fel] maes drefi, rhac amled dŷn, ac anifail oi mewn.
5 Canys byddaf fy hun yn fur o dân amgylchadwy iddi, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant ynddi.
6 Ho ho ffoiwch o wlad y gogledd medd yr Arglwydd, canys gwascerais chwi i bedwar gwynt y nefoedd medd yr Arglwydd.
7 O Sion ymachub, yr hon ydwyt yn preswylio gyd â merch Babilon.
8 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ar ôl y gogoniant [hwn] i'm anfonodd at y cenhedloedd, y rhai a'ch yspeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygad.
9 Canys wele fi yn escwyd fy llaw arnynt, a byddant yn sclyfaeth iw gweision eu hun, neu iw deiliaid eu hun: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hanfonodd.
10 Cân a llawenycha merch Sion, canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf ynot, medd yr Arglwydd.
11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi y trigaf ynot, a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd am hanfonod attat.
12 A'r Arglwydd a etifedda Iuda, yn ei ran o'r tir sanctaidd, ac a ddewis Ierusalem etto.
13 Pob cnawd taw yng-ŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd oi sanctaidd-le.

PEN. III.

Prphwydoliaeth am Grist.

1 AC efe a ddangosodd i mi Iosuah 'r arch-offeiriad yn sefyll ger bron Angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheu-law ef iw wrthwynebu ef.
2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, cerydded yr Arglwydd dy di Satan; a'r Arglwydd yr hwn a ddewisodd Ierusalem a'th geryddo: onid pentewyn [yw] hwn wedi ei achub o'r tân?
3 A Iosuah ydoedd wedi ei wisco â dillad budron, ac yn sefyll yng-ŵydd yr Angel.
4 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, bwriwch ymmaith y dillad budron oddi am dano ef: wrtho yntef y dywedodd, wele, bwriais heibio dy anwiredd oddi wrthit, a gwiscaf di hefyd â newid ddillad.
5 A dywedais hefyd, rhoddant meitr têg ar ei ben ef: a rhoddasant meitr têg ar ei ben ef, ac ai gwiscasant â dillad, ac Angel yr Arglwydd oedd yn sefyll [yno.]
6 Ac Angel yr Arglwydd a destiolaethodd wrth Iosuah, gan ddywedyd:
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os rhodi di yn fy llwybrau, ac os cedwi fyng-hadwriaethau, tithe hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fyng-hynteddoedd, rhoddaf it hefyd le ym mysc y rhai hyn sydd yn sefyll [ymma].
8 Gwrando attolwg Iosuah 'r arch-offeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfeddol yw y rhai hyn: o herwydd wele gwnaf i'm gwas y blaguryn ddyfod.
9 Canys wele carrec a roddais ger bron Iosuah, ar un garrec [y bydd] saith o lygaid, wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd: a mi a symmudaf ymmaith anwiredd y t6ˆr hwn mewn un diwrnod.
10 Y dwthwn hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, y geilw un ar ei gymmydog i ddyfod tan y winwydden, a than y ffigus-bren.

PEN. IIII.

Gweledigaeth y canhwyll-bren aur ai deongliad.

1 A'R Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd fel y deffroir un oi gwsc.
2 Ac a ddywedodd wrthif, beth a weli? yna y dywedais: edrychais, ac wele ganhwyll-brenoll o aur, ai gaed ar ei ben, ai saith lusern arno, a saith o bibellau i'r lusernau arno, a saith o bibellau i'r lusernau y rhai oeddynt ar ei benn ef;
3 A dwy oliwydden wrtho, y naill o'r tu dehau, a'r llall o'r tu asswy i'r caead.
4 A mi a attebais, ac a ddywedais wrth yr Angel a oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, beth [yw] y rhai hyn fy Arglwydd?
5 A'r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a attebodd, ac a ddywedodd wrthif: oni wyddost beth [yw] y rhai ymma? Yna y dywedais, na wn fy Arglwydd.
6 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthif, gan ddywedyd: hyn [yw] gair yr Arglwydd at Zorobabel, gan ddywedyd: nid â lu, ac nid â nerth, ond a'm Hyspryd mau fi medd Arglwydd y lluoedd.
7 Pwy [wyt] ti y mynydd mawr? ger bron Zorobabel [y byddi] yn wastad: ac efe a ddŵg allan y maen pennaf [gan] weiddi, rhâd, rhâd iddo.
8 Daeth gair yr Arglwydd attaf trachefn, gan ddywedyd:
9 Dwylo Zorobabel a sylfaenasant y tỳ hwn, ai ddwylo ef ai gorphen, a chei ŵybod mai Arglwydd y lluoedd am hebryngodd attoch.
10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y [pethau] bychain? llawenychant pan welant y garrec alcam yn llaw Zorobabel, dymma saith llygaid yr Arglwydd, y rhai [ydynt] yn myned trwy 'r holl dîr.
11 A mi a attebais trachefn, ac a ddywedais wrtho ef, beth [yw] y ddwy oliwydden hyn, ar y tu dehau i'r canhwyll-bren, ac ar ei asswy?
12 Ac mi a attebais trachefn, ac a ddywedais wrtho ef, beth [yw] y ddau bingcin oliwydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan o honynt aur?
13 Ac efe a lefarodd wrthif gan ddywedyd, oni ŵyddost pa beth [yw] y rhai hyn? a dywedais, [na wn] fy Arglwydd.
14 Ac efe a ddywedodd, dymma y ddwy gaingc oliwydden y rhai ydynt yn sefyll ger bron Arglwydd yr holl dir.

PEN. V.

Gweledigaeth y llyfr hedegoc, a'r mesur Epha, ai deongliad.

1 YNa y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele lyfr yn hedeg.
2 A dywedodd wrthif, beth a weli di? a dywedais, mi a welaf lyfr yn hedeg, ai hŷd yn ugain cufydd, ai lêd yn ddêc cufydd.
3 Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma 'r felldith yr hon sydd yn myned allan ar wyneb yr holl fŷd, canys pawb a ledratto o'r [bobl] hyn, a fernir wrth hwn: a phawb o'r [bob;] hyn a oferdyngant, a fernir wrth hwn.
4 Dygaf hi allan medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw, ac hi a erys yng-hanol ei dŷ, ac a dreulia ei goed, ai gerric.
5 Yna yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a aeth allan, ac a ddywedodd wrthif, cyfot yn awr dy lygaid, ac edrych beth [yw] hynn sydd yn myned allan.
6 A mi a ddywedais, beth [yw] hynny? ac efe a ddywedodd, hwn yw 'r Epha y sydd yn myned allan: ac efe a ddywedodd dymma eu gwelediad yn yr holl ddaiar.
7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny, a dymma wraig yn eistedd yng-hanol yr Epha.
8 Ac efe a ddywedodd, anwiredd yw hon, ac efe ai taflodd hi i ganol yr Epha: a bwriodd y pwys plwm ar ei enau.
9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hescyll, (canys escill oedd ganddynt fel escill y Ciconia) a chyfodasant yr Epha rhwng y ddaiar a'r nefoedd.
10 Yna y dywedais wrth yr Angel yr hwn a oedd yn ymddiddan â mi, i ba le 'r aiff y rhai hyn a'r Epha?
11 Dywedodd yntef wrthif, i adeiladu iddi dŷ yng-wlad Sinnaar: a hi a ddarperir, ac a osodir yno ar ei stôl.

PEN. VI.

Gweledigaeth y pedwar cerbyd.

1 HEfyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd, a'r mynyddoedd [oeddynt] fynyddoedd o bres.
2 Yn y cerbyd cyntaf [yr oedd] meirch cochion, ac yn yr ail cerbyd meirch duon,
3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion, [a] gwineuon.
4 Yna 'r attebais, ac y dywedais wrth yr hwn a oedd yn ymddiddan â mi: beth [yw] y rhai hyn fy Arglwydd?
5 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd: dymma bedwar yspryd y nefoedd, yn dyfod allan o sefyll ger bron Arglwydd yr holl ddaiar.
6 Y r hon [yr oedd] meirch duon ynddi a aethant allan i dîr y gogledd; a'r gwynnion a aethant allan ar eu hôl hwythau, a'r brithion a aethant allan i'r deheu-dîr.
7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i rodio 'r bŷd, ac efe a ddywedodd, ewch, rhodiwch y byd: felly y rhodiasant y byd.
8 Efe a waeddodd, ac a lafarodd wrthif, gan ddywedyd: edrych y rhai a aethant i dîr y gogledd, a lonyddasant fy Yspryd yn nhîr y gogledd.
9 Yna y bu gair yr Arglwydd wrthif gan ddywedyd:
10 Cymmer gan y carcharorion a ddaethant o Babilon, gan Heldai, Tobiah, a Iedaia, a thyret y dydd hwnnw a dos i dŷ Iosiah fab Sophonia:
11 A chymmer arian, ac aur, a gwna goron, a gosod am ben Iosuah fab Iosedec yr arch-offeiriad;
12 A dywet wrtho gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd: wele y gŵr ai enw Blagurun: oi lê hefyd y blagura, ac yr adailada Deml yr Arglwydd:
13Teml yr Arglwydd a adailada efe, ac efe a ddŵg glod, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhin-faingc, bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhin-faingc, a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.
14 A'r goron fydd i Helem, ac i Tobia, ac i Iedaia, ac i Hen fab Zophonia: er coffadwriaeth yn Nheml yr Arglwydd.
15 Canys pelledigion a ddeuant, ac a adailadant yn Nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm anfonodd attoch, a [hynn] a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Dduw.

PEN. VII.

1 Am ympryd. 11 Bod cyndynrwydd y bobl yn peri eu cystudd hwynt.

1 Y Bedwaredd flwyddyn i'r brenhin Darius, y daeth gair yr Arglwydd at Zacharias, y pedwerydd [dydd] o'r nawfed mis [sef] o Cisleu.
2 Ac anfonodd [y bobl] Sarasar, a Rogom-melec, ai wŷr i dŷ Dduw i weddio ger bron yr Arglwydd,
3 Gan ddywedyd wrth yr offeiriaid y rhai [oeddynt] yn-nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd: a wylaf fi y pummed mis, gan ymnaillduo, fel y gwneuthym weithian gymmaint o flynyddoedd?
4 Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
5 Dywet wrth holl bobl y tîr, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru: pan oeddech yn ymprydio, ac yn galaru y pummed, a'r seithfed [mîs] y dêng mhlynedd a thrugain hyn, a ymprydiasoch chwi ympryd i mi?
6 A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwytta [i chwi] eich hunain, ac yn yfed [i chwi] eich hunain?
7 Oni [ddylech wrando] y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y prophwydi cyntaf, pan oedd Ierusalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'r dinasoedd oi hamgylch: a [phobl] yn cyfanneddu y deheu-dîr a'r dyffryn-dir?
8 A daeth gair yr Arglwydd at Zacharias, gan ddywedyd:
9 Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd: bernwch farn gywir, gwnewchfwynder, a thrugaredd bob un iw gilydd.
10 Ac na orthrymmwch y weddw, a'r amddifad, y dieithr, a'r anghenoc, ac na feddyliwch ddrwg bob un iw gilydd yn eich calonnau.
11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant yscwydd anhydyn, a thrwmhasant eu clustiau rhac clywed.
12 Gosodasant hefyd eu calonnau yn Adamant rhac clywed y gyfraith, a'r geiriau y rhai a anfonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd yn llaw y prophwydi cyntaf: am hynny y bu digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd.
13 A bu megis y galwodd efe, ac ni wrandawent: felly y galwent, ac ni's gwrandawn medd Arglwydd y lluoedd.
14 Onid chwalwn hwynt i blith yr holl genhedloedd, y rhai nid adwaenent, a'r tîr a anghyfaneddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a ele heibio, nac a ddele yn ei ôl: felly y gosodasant y wladddymmunol yn ddiffaethwch.

PEN. VIII.

Dychweliad y bobl i Ierusalem, Daioni Duw iddtynt. Gwir wasanaeth Duw. Galwedigaeth y cenhedloedd.

1 YNa y daeth gair Arglwydd y lluoedd [attaf] gan ddywedyd,
2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, eiddigeddais eiddigedd mawr dros Sion ac mewn llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwelaf at Sion, a thrigaf yng-hanol Ierusalem, ac Ierusalem a elwir, dinas y gwirionedd, a mynydd Arglwydd y lluoedd, mynydd sanctaidd.
4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hân wŷr, a hên wragedd a eisteddant etto yn heolydd Ierusalem, a'r gŵr ai ffon yn ei law o amlder dyddiau.
5 Heolydd y ddinas a lenwir o fechgin, a genethod, yn chware yn ei heolydd.
6 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os anhawdd yw [hyn] yn y dyddiau hynny yng-olwg gweddill y bobl hyn: ai anhawdd fydde hefyd yn fyng-olwg innef, medd Arglwydd y lluoedd?
7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn gwaredu fy mhobl o dîr codiad, ac o dîr machludiad haul.
8 A gwnaf iddynt ddyfod fel y presswyliant yng-hanol Ierusalem: a byddant yn bobl i mi, a byddaf iddynt hwythau yn Dduw, mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd cryfhaer eich dwylo chwi y rhai ydych yn clywed (yn y dyddiau hyn) y geiriau hyn o enau y prophwydi (y rhai [oeddynt] yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd) am adeiledu y Deml.
10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd tal [llafur] i ddŷn, na thâl i anifail, na heddwch i'r [un] a ele allan, nac a ddele i mewn gan y gorthrymmwr: o blegit gyrrais ddynion bob un ym mhen ei gymydog.
11 Ond bellach ni [byddaf] fi i weddill y bobl hyn, megis yn y dyddiau cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd.
12 Canys [bydd] hâd heddwch, y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaiar, a ddŷd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith, a pharaf i weddill y bobl hyn etifeddu yr holl bethau hyn.
13 A bydd mai megis y buoch chwi tŷ Iuda, a thŷ Israel yn felldith ym mysc y cenhedloedd: felly i'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith, nac ofnwch, cryfhaer eich dwylo.
14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, fel yr amcenais eich drygu chwi, pan i'm cyffrôdd eich tadau chwi fi, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid arbedais:
15 Felly y trois, [ac] yr amcenais y dyddiau hyn wneuthur llês i Ierusalem, ac i dŷ Iuda, nac ofnwch.
16 Hyn [yw'r] pethau a wnewch chwi, dywedwch y gwîr bawb wrth ei gymydog; a bernwch farn gwirionedd [a] thangneddyf yn eich pyrth.
17 Ac na fwriedwch ddrwg neb iw gilydd yn eich calonnau, ac na hoffwch lwon celwyddoc: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd y lluoedd.
18 A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
19 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: ympryd y pedwerydd [mis] ac ympryd y pummed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y decfed a fydd i dŷ Iuda, yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd, a heddwch.
20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, [bydd] etto y daw pobloedd, a phreswylwŷr dinasoedd lawer:
21 Ac aiff presswylwŷr y naill i'r llall, gan ddywedyd: awn i fyned i weddio ger bron yr Arglwydd, ac i ymgais ag Arglwydd y lluoedd, minne a ddeuaf hefyd.
22 Ie pobloedd lawer, a chenhedlaethau cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Ierusalem: ac i weddio ger bron yr Arglwydd.
23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, yn y dyddiau hynny [y bydd] i ddâc o ddynion o bob tafod-iaith y cenhedloedd, ymafelyd yn ymyl [dilledyn] un Iddew, gan ddywedyd: awn gyd â chwi, canys clywsom [fod] Duw gyd â chwi.

PEN. IX.

Dinistr gelynion yr eglwys. 7 Dychweliad y cenhedloedd. 9 Dyfodiad Crist ar yr affyn.

1 BAich gair yr Arglwydd yn erbynt6ˆr Hadrac: a Damascus [fydd] ei orphwysfa ef: o blegit ar yr Arglwydd y bydd llygad dŷn, a llwythau Israel oll.
2 Felly Hemath hefyd a derfyna oi mewn ei hun: Tyrus, a Sidon hefyd, canys doeth odieth ydynt.
3 A Thyrus a adailada iddi ei hun gastell, ac a gynnull arian fel llwch, ac aur coeth fel tomm yr heolydd.
4 Wele 'r Arglwydd ai speilia, ac a deru ei nerth hi yn y môr, a hi a yssir â thân.
5 Ascalon a wêl, ac a ofna, a Azza a ymofidia yn ddirfawr, felly Accaron hefyd am ei chywilyddio oi gobaith, difethir hefyd y brenin allan o Azza, ac Ascalon nid erys.
6 Estron hefyd a drig yn Astod, a thorraf i lawr falchder y Philistiaid.
7 A mi a symmudaf ymmaith ei waed oddi wrth ei enau, ai ffiaidd-dra oddi rhwng ei ddannedd, ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Iuda, ac Accaron megis Iebusiad.
8 A gwerssyllaf wrth fy nhŷ rhac y llu, rhac a êl heibio, a rhac a ddatrô, fel nad elo gorthrymmwr arnynt mwyach: canys weithian gwelais am llygaid.
9 Bydd lawen iawn ti ferch Sion, a chrechwenna ha ferch Ierusalem, wele dy Frenin yn dyfod attat yn gyfiawn, ac achubudd yw efe, [y mae] efe yn dlawd, ac yn marchogeth ar assyn, ac ar lwdn assyn.
10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Ephraim, a'r march oddi wrth Ierusalem, a'r bwa rhyfel a dorrir, ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd, ai lywodraeth [fydd] o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y tir.
11 A thithe yng-waed dy ammod [a waredir:] gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.
12 Troiwch i'r cestyll chwi garcharorion gobaithiol; heddyw 'r ydwyf yn dangos y talaf it yn ddau ddyblyg:
13 Canys annelais Iuda i'm yn fwa, llenwais Ephraim, a'th feibion di Sion a gyfodais yn erbyn dy feibion dithe Groec, ac y'th osodais fel cleddyf cawr.
14 Yr Arglwydd a welir trostynt, ai saethau ef a ânt allan fel mellt, a'r Arglwydd Dduw a gân ag udcorn, ac a gerdd yn rhyferth-wynt y dehau.
15 Arglwydd y lluoedd ai hamddeffyn hwynt, fel y bwyttânt, ac y gostyngant gerric y dafl, yfant [a] therfyscant megis [mewn] gwin, a llanwyd hwynt fel mail, ac fel conglau 'r allor.
16 A'r Arglwydd eu Duw ai gwared hwynt y dydd hwnnw fel mintai oi bobl: canys fel meini coron y byddant wedi eu derchafu ar ei dîr ef.
17 Canys pa feint [yw] ei lâs ef, a pha faint ei degwch ef? yr ŷd a lawenycha ei wŷr ieuaingc ef, a'r gwin ei weryfon.

PEN. X.

Cyngor i'r bobl weddio ar Dduw: ac addewid o ymgeledd iddynt.

1 ERchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar-law: [a'r] Arglwydd a bair ddisclair [gwmylau,] ac a ddŷd iwch gawod-law, [ac] i bob un las-wellt yn y maes.
2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welant gelwydd, ac a ddywedant freuddwydion oferedd, rhoddant goeg gyssur: am hynny y symmudasant fel defaid, cystuddiwyd hwynt am nad [oedd] bugail.
3 Wrth y bugeiliaid yr ynynnodd fy llid, ac ymwelaf a'r bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwel ai braidd tŷ Iuda, ac ai gesyd fel ei glod-fawr farch yn y rhyfel.
4 Y gongl a ddaw allan oddi wrtho ef, yr hoel oddi wrtho ef, y bwa rhyfel oddi wrtho ef, [a] phob gorthrymmwr ar unwaith oddi wrtho ef.
5 A byddant fel cawri yn sathru [eu gelynion] yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am [fod] yr Arglwydd gyd â hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.
6 Nerthaf dŷ Iuda, a gwaredaf dŷ Ioseph, a pharaf iddynt ddychwelyd, canys trugarheais wrthynt, a byddant fel pe na's gadawswn hwynt: o herwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac ai gwrandawaf hwynt.
7 Bydd Ephraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win: ai meibion a gânt weled, ac a lawenychant, a bydd eu calon hwynt hyfryd yn yr Arglwydd.
8 Chwibianaf arnynt, a chasclaf hwynt, canys gwaredaf hwynt, ac amlhânt fel yr amlhasant.
9 Hauaf hwynt ym mysc y bobloedd, ac o bell i'm coffânt, a byddant fyw hefyd gyd ai plant, a dychwelant.
10 A pharaf iddynt o dîr yr Aipht, a chasclaf hwynt o Assyria, ac arweiniaf hwynt i dîr Gilead a Libanus, ac ni cheir [lle] iddynt.
11 Ac efe a drammwya dros fôr blinder, a theru y tonnau yn y môr: a holl dAdyfnderoedd yr afon a fyddant ddiespydd: yno y descynnir balchder Assur, a theyrn-wialen yr Aipht a gilia.
12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.

PEN. XI.

1 Dinistr y Deml. 4 y Tad yn gorchymyn, ei ddefaid i Grist ein bugail ni. 7 Gweledigaeth yn erbyn Ierusalem, ac Iuda.

1 LIbanus agor dy ddorau, ac yssed y tân dy cedr-wŷdd.
2 Y ffynnidwydd udwch, canys cwympodd y cedr-wydd, difwynwyd y rhai ardderchoc, udwch dderw Basan, canys syrthiodd y goedwic gaeedic.
3 [Clywir] llêf udfa y bugeiliaid, am ddifwyno eu hardderchawgrwydd, llef rhuad y llewod ieuaingc, am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; portha ddefaid y lladdfa.
5 Y rhai a ddarfu iw perchennogion eu lladd, ac ni phechent, ai gwerth-wŷr a ddywedant, bendigedic [yw] 'r Arglwydd am fyng-hyfoethogi, ai bugeiliaid nid arbedasant hwynt.
6 Am hynny nid arbedaf mwyach drigolion y wlâd medd yr Arglwydd, ond wele fi yn rhoddi y dŷnion, bob un i law ei gymmydog: ac i law ei frenin <first n upside down>; a phan darawant y tîr, nid achubaf oi llaw hwy.
7 Canys mi a borthaf ddefaid y lladdfa, trueiniaid y praidd: a chymmerais i'm ddwy ffon, un a elwais Hyfrydwch, ac un [arall] a elwais Rhwymau, felly mi a borthais y praidd.
8 A thorrais ymmaith dri bugail mewn un mis, a'm henaid ai fieiddiodd hwynt, ai henaid hwytheu a alarodd arna finne.
9 Dywedais hefyd, ni phorthaf chwi, a fyddo farw, bydded farw: ac a fetho, methed, a'r gweddill a yssant bob un gnawd ei llall.
10 A chymmerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fyng-hyfammod yr hwn a ammodaswn a'r holl bobl.
11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi, ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, (y rhai oeddynt yn ystyr o honof) mai gair yr Arglwydd [oedd] hyn.
12 A dywedais wrthynt, os gwelwch yn dda dygwch fyng-hyflog, ac onid ê, peidiwch: a'm cyflog a bwysasant yn ddêc ar hugain o arian.
13 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, bwrw i'r crochenydd yr ardderchog brîs i'm prissiwyd ganddyn: a chymmerais y dêc ar hugain o arian, a bwriais hwynt i dŷ 'r Arglwydd, i'r crochenudd.
14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, [sef] Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Iuda ac Israel.
15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, cymmer etto it offer bugail ffôl.
16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tîr [yr hwn] ni ofwya y rhai cuddiedic, ni chais y rhai ieuaingc, ni feddiginiaetha y rhai briwedic, a fyddo safadwy ni faetha, ond bwyttu gîg yr un brâs, ac efe a ddryllia eu hewinedd hwynt.
17 Gwae 'r eilun bugail yn gadael y praidd, y cleddyf [fydd] ar ei fraich, ac ar ei lygad deheu: ei fraich gan wywo a wywa, ai lygad deheu gan dywyllu a dywylla.

PEN. XII.

Am ddinistr, ac ail adailadaeth Ierusalem,

1 BAich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaiar, ac yn ffurfio yspryd dŷn ynddo.
2 Wele fi yn gosod Ierusalem yn phiol gwsc i'r bobloedd oll o amgylch: ac efe hefyd a fydd gyd ag Iuda wrth warche ar Ierusalem.
3 A bydd y dwthwn hwnnw i'm osod Ierusalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb ai cyfodo yn ddiau a rwygir, er casclu atto holl genhedloedd y ddaiar.
4 Y diwrnod hwnnw medd yr Arglwydd, y tarawaf bob march â syndra, ai farchog ag ynfydrwydd, ac agoraf fy llygaid ar dŷ Iuda, a tharawaf holl feirch y bobl â dallineb.
5 A thywysogion Iuda a ddywedant yn eu calonnau, nerth i mi [fydd] presswylwŷr Ierusalem, trwy Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6 Y dydd hwnnw y gosodaf bennaethiaid Iuda fel marworyn tân yn y coed, ac fel pentewyn tân yn y gwellt, ac ysant ar y llaw ddeheu, ac ar yr aswy yr holl bobloedd: ac Ierusalem a erys rhac llaw yn ei lle ei hun yn Ierusalem.
7 Yr Arglwydd a geidw bebyll Iuda [fel] yn y dechreu, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Ddafydd, a gogoniant presswylwŷr Ierusalem ar Iuda.
8 Y dydd hwnnw 'r amddeffyn yr Arglwydd bresswylwŷr Ierusalem, a bydd y llescaf o honynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Ddafydd [fydd] fel [tŷ] Dduw, [ac] fel Angel yr Arglwydd oi blaen hwynt.
9 Y dydd hwnnw bydd i'm geisio difetha 'r holl genhedloedd y sy yn dyfod yn erbyn Ierusalem.
10 A thywalltaf ar dŷ Ddafydd, ac ar bresswylwŷr Ierusalem y spryd rhâd, a thosturiaeth, ac edrychant arnaf yr hwn a wanasant, galarant hefyd am dano, fel un yn galaru am [ei] unigenedic, ac ymofidiant am dano ef, megis un yn gofidio am [ei] gyn-fab.
11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Ierusalem, megis galar Adadrimmon yn nyffryn Megidon.
12 A'r wlâd a alara, pob teulu wrtho ei hun, ai gwaregedd wrthynt eu hunain, teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, ai gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain;
13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain, teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, ai gwragedd wrthynt eu hunain.
14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun: ai gwragedd wrthynt eu hunain.

PEN. XIII.

Prophwydo y mae am Grist, ffynnon y grâs: ac am ddinistr y gau dduwiau, a'r gau brophwydi.

1 Y Dydd hwnnw y bydd ffynnon agored i dŷ Ddafydd, ac i breswyl-wŷr Ierusalem i [olchi] pachod, ac aflendid.
2 A bydd y dwthwn hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, i'm dorri enwau 'r eilynnod allan o'r tir, ac ni's coffeir mwyach: a gyrraf hefyd [gau] brophwydi, ac yspryd aflendid allan o'r wlâd.
3 A bydd os prophwyda un mwyach, y dywed ei dâd ai fam ai cenhedlasant ef wrtho, ni chei fyw, canys dywedaist gelwydd yn enw 'r Arglwydd: ai dad ai fam ai cenhedlasant ef, ai gwanant ef, pan fyddo yn prophwydo.
4 A bydd y dydd hwnnw i'r prophwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, pan brophwydo, ac ni wiscant grŷs rhawn er twyllo:
5 Ond efe a ddywed, nid prophwyd [ydwyf] fi, llafur-wr y ddaiar ydwyfi, canys dŷn a'm dyscodd [felly] o'm ieuengtid.
6 Os dywed [un] wrtho, beth [a wna] y gweliau hyn rhwng dy ddwylo? yna efe a ddywed, [dymma y gweliau,] drwy y rhai i'm clwyfwyd yn nhŷ fyng-haredigion.
7 Deffro gleddyf yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wascerir, a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.
8 A bydd yn yr holl dîr medd yr Arglwydd y diwreiddir, ac y difethir dwy ran ynddo a'r drydedd a adewir ynddo.
9 A dygaf drydedd i'r tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: efe a eilw ar fy enw, a minne ai gwrandawaf: dywedaf, pobl i mi [yw] efe, ac yntef a ddywed, yr Arglwydd sydd Dduw i mi.

PEN. XIIII.

Dinistr ar yr eglwys, yr Arglwydd yn taro gyd â hi. Ac yn darparu iddi ogoniant rhagorol.

1 WEle ddydd yn dyfod i'r Arglwydd, pan rennir dy yspail ynnot ti.
2 A chasclaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Ierusalem, a'r ddinas a orescynnir, y tai a fethrir, a'r gwragedd a dreisir, a hanner y ddinas a aiff mewn caethiwed, a'r rhan arall o'r bobl ni's direthir o'r ddinas.
3 A'r Arglwydd a aiff allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gâd.
4 Ai draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr oliwydd, yr hwn [sydd] ar gyfer Ierusalem, o du 'r dwyrain: a mynydd yr oliwydd a hyllt ar draws ei hanner, tua 'r dwyrain, a thua'r gorllewyn yn geunant mawr odieth: a hanner y mynydd a symmud tua'r gogledd, ai hanner tua 'r dehau.
5 Yna y ffoiwch i geumamt fy mynyddoedd mau fi, canys ceunant fy mynyddoedd a gyredd hyd Azal, a ffoiwch fel y ffoasoch rhac y ddaiargryn yn nyddiau Uzziah brenin Iuda: a daw 'r Arglwydd fy Nuw, [a'r] holl sainct gyd â thi.
6 A'r dydd hwnnw y daw i benn, na byddo goleuad gwerth-fawr, onid thywyllwch.
7 A bydd un diwrnod, hwnnw a adweinir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nôs, onid bydd goleuni yn amser cyfnos.
8 A bydd y dwthwn hwnnw y daw allan o Ierusalem ddyfroedd enioes: eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, ai hanner tua 'r môr eithaf, tros hâf, a gaiaf y bydd [hyn.]
9 A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl dîr: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd ai henw yn un.
10 Troir yr holl dir megis yn wastad, o Gibea hyd Rimmon, o'r tu deheu i Ierusalem, hi a dderchefir, ac a erys yn ei lle, o borth Beniamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y conglau, ac o dŵr Hananeel hyd win-wrŷf y brenin.
11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach: onid Ierusalem a eistedd yn ddienbyd.
12 A hyn fydd y blâ a'r hwn y teru 'r Arglwydd yr holl bobloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ierusalem: eu cnawd a dderfydd er eu bod yn sefyll ar eu traed, ai llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, ai tafod a dderfydd yn eu safn.
13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysc yr Arglwydd yn eu plith hwynt, a phob un a ddeil law ei gymydog, ac a dderchaf ei law ar law ei gymydog.
14 A Iuda hefyd a ryfela yn erbyn Ierusalem, a chesclir golud yr holl genhedloedd o amgylch, sef aur ac arian, a gwiscoedd yn lliaws mawr.
15 Ac felly y bydd pla [ar] y march, y mûl, y camel, yr assyn, a phob anifail yr hwn a fyddo yn y gwerssylloedd hynny fel y blâ hon.
16 A bydd i bob un a adawer o'r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Ierusalem fyned i fynû o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, [sef] Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll.
17 A phwy bynnac nid êl i fynu o deuluoedd y bŷd i Ierusalem i addoli y Brenin Arglwydd y lluoedd ni bydd glaw arnynt.
18 Ac os teulu 'r Aipht nid aiff i fynu, ac ni ddaw, y [bydd glaw] arnynt: [hyn] fydd y blâ, a'r hon y teru 'r Arglwydd y cenhedloedd, y rhai nid escynnant i gadw gŵyl y pebyll.
19 Hyn a fydd cosp yr Aipht, a chosp yr holl genhedlaethau y rhai nid elont i fynu i gadw gŵyl y pebyll.
20 Y dydd hwnnw y bydd [yn scrifennedic] ar sinclys ffrwyn y march SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD: bydd y crochanau yn nhŷ 'r Arglwydd fel meiliau ger bron yr allor.
21 Bydd pob crochan yn Ierusalem, ac yn Iuda yn sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberth-wr, ac a gymmerant o honynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn-nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.

Terfyn prophwydoliaeth Zacharias.