Llyfr y prophwyd Malachi
PENNOD. I.
Cwyn yn erbyn Israel, a'r offeiriaid.
1:1 BAich gair yr Arglwydd, at Israel drwy law Malachi.
1:2 Hoffais chwi medd yr Arglwydd, a chwi a ddywedwch, ym mha beth yr hoffaist ti ni? onid brawd [oedd] Esau i Jacob, medd yr Arglwydd? etto Jacob a hoffais,
1:3 Ac Esau a gasseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffaethwch, ai etifeddiaeth i yn anialwch dreigiau .
1:4 Os dywed Edom, tlodwyd ni, etto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfannedd[ leoedd:] fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hwynt a adailadant, ond minne a ddinistriaf, a gelwir hwynt yn gyffinid drygioni: a'r bobl [wrth] y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.
1:5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwitheu a ddywedwch, mawrheuir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
1:6 Mab a anrhydedda ei dâd, a gweinidog ei feistr, ac os [ydwyf] fi dâd, pa le [y mae] fy anrhydedd? ac os [ydwyf] fi feistr, pa le y mae fy ofn, medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw? a chwi a ddywedwch, ym mha beth y dirmygasom dy enw di?
1:7 Offrymmu yr ydych ar fy allor fara halogedic, a chwi a ddywedwch, ym mha beth yr halogasom di? am i chwi ddywedyd, dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd.
1:8 Pan ddygech hefyd [anifail] dall iw aberthu, onid drwg [hynny?] a phan ddygech gloff neu glwyfus, onid drwg [hynny?] dŵg ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe fodlon it? neu a dderbyn efe dy wyneb, medd Arglwydd y lluoedd?
1:9 Ac yn awr gweddiwch attolwg ger bron Duw fel y trugarhao wrthych: o'ch llaw chwi y mae hyn, a dderbyn efe wyneb [un] o honoch, medd Arglwydd y lluoedd.?
1:10 A phwy hefyd o honoch a gaue y dôrau? neu a oleue fy allor yn rhâd? nid [oes] genif foddlonrwydd ynoch chwi medd Arglwydd y lluoedd: ac ni byddaf bodlon i fwyd offrwm o'ch llaw.
1:11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawrheuir fy enw ym mysc y cenhedloedd: ac ym mhob lle arogldarth a offrymmir i'm henw, ac bwyd offrwm pûr: canys mawr [yw] fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.
1:12 Ond chwi ai halogasoch ef, pan ddywedasoch, bwrdd yr Arglwydd [sydd] halogedic, ai ffrwyth, [sef ] ei fwyd sydd ddirmygus.
1:13 Chwi hefyd a ddywedasoch, wele flinder, a ffroenassoch arno medd Arglwydd y lluoedd; Dygasoch hefyd y treisiedic, a'r cloff, a'r clwyfus pan ddygasoch fwyd offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi, medd yr Arglwydd?
1:14 Melldigedic yw y dichellgar, pan fyddo yn ei gorlan wryw, os efe a adduna, ac a abertha [un] llygredic i'r Arglwydd: canys Brenhin mawr [ydwf] medd Arglwydd y lluoedd, a'm henw [sydd] ofnadwy ym-mhlith y cenhedloedd,
PEN. II.
Bygwth cospedigaeth i'r offeiriaid.
2:1 AC yr awr hon yr offeiriaid arnoch chwi [y mae] y gorchymyn hwn.
2:2 Oni wrandewch, ac oni ystyriwch i roddi anrhydedd i'm henw i, medd Arglwydd y lluoedd, yna mi a anfonaf felldith arnoch chwi, ac a felldigaf eich bendithion chwi: hefyd myfi ai melldigais hwynt, am nad ydych yn ystyried.
2:3 Wele fi yn difetha i chwi'r hâd, a thanaf domm ar eich wynebau, [sef] tomm eich gwyliau; ac efe a'ch cymmer chwi atto.
2:4 Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais attoch y gorchymyn hwn, fel y bydde fyng-hyfammod â Lefi medd Arglwydd y lluoedd.
2:5 Fyng-hyfammod ag ef oedd fywyd, a heddwch, a mi ai rhoddais hwynt iddo [am yr] ofn, canys efe a'm hofnodd, ac ar ddychrynnodd rhac fy enw.
2:6 Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd o fewn ei wefusau: mewn hêdd, ac iniondeb y rhodiodd gyd â mi, a llaweroedd a ddychwelodd efe oddi wrth anwiredd.
2:7 Canys gwefusau 'r offeiriad a gadwant ŵybodaeth, a chyfraith a geisiant oi enau ef: o herwydd angel Arglwydd y lluoedd yw efe.
2:8 Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroedd drippio yn y gyfraith; llygrasoch gyfammod Lefi medd Arglwydd y lluoedd.
2:9 Am hynny minnef hefyd a'ch rhoddais chwi yn ddirmygus, ac yn ddiystyr gan yr holl bobl: o herwydd nad ydych chwi yn cadw fy ffordd i, onid bôd yn derbyn wynebau yn y gyfraith.
2:10 Onid un tâd [sydd] i ni oll? onid un Duw a'n creawdd ni? pam y twyllir gŵr trwy ei frawd, gan halogi cyfammod ein tadau?
2:11 Iuda a anffyddlonodd, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel, ac yn Ierusalem: canys Iuda a halogodd sanctaiddrwydd yr Arglwydd yr hwn a hoffasse, ac a briododd ferch duw deithr.
2:12 Yr Arglwydd a dyrr ymaith y gŵr a wnel hyn, y gwiliwr, a'r attebwr o bebyll Iacob: ac offrymmudd bywyd offrwm i Arglwydd y lluoedd.
2:13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd drwy wylofain, a gweiddi: fel nad edrycher mwyach ar eich bywyd offrwm, ac na chymerer yn fodlon o'ch llaw chwi.
2:14 Er hynny chwi a ddywedwch, pa herwydd? herwydd mai'r Arglwydd a destiolaethodd rhyngot ti, a rhwng gwraig dy ieuengtid, yr hon y buost anffyddlon iddi, er ei bod yn gymmar i ti, ac yn wraig dy gyfammod.
2:15 Onid un a wnaeth efe? a ffun yn weddill ganddo, a pha ham un? gan geisio hâd duwiol: am hynny ymgedwch yn eich yspryd, ac na fydded [dy yspryd] anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuengtid.
2:16 Pan gasâech di [hi] gollwng hi ymmaith medd yr Arglwydd Duw 'r Israel: etto gorchuddio y mae efe y camwedd tann ei wisc medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny ymgedwch yn eich yspryd, ac na fyddwch anffyddlon.
2:17 Blinasoch yr Arglwydd a'ch geiriau chwi, a chwi a ddywedwch ym-mha bêth y blinasom [ef,] am iwch ddywedyd, pob gwneuthurwr drŵg [sydd] dda yng-olwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu pa lê [y mae] Duw y farn?
PEN. III.
Am gennadwriaeth yr Arglwydd, ac am swydd Crist.
3:1 WEle fi yn anfon fyng-hennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen: ac yn ddisymmwth y daw 'r Arglwydd yr hwn yr ydych yn ei geisio i'w Deml, ac angel y cyfammod yr hwn a ddymunwch: wele efe yn dyfod medd Arglwydd y lluoedd.
3:2 A phwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân puradwy, ac fel sebon y golchyddion.
3:3 Efe a eistedd [fel] purudd, a glanheudd arian, ac efe a burhâ feibion Lefi, ac ai coetha hwynt fel aur, ac fel arian: fel y bŷddont yn offrymmu i'r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.
3:4 Yna y bydd melus gan yr Arglwydd fwyd offrwm Iuda a Ierusalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd y cynfyd.
3:5 A mi a nesâf attoch chwi mewn barn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godineb-wŷr, ac yn erbyn yr anudonwŷr, ac yn erbyn camattal-wŷr cyflog y cyflogedic, y weddw, a'r ymddifad, ac yn gorthrymmu y dieithr, ac heb fy ofni i medd Arglwydd y lluoedd.
3:6 Canys myfi 'r Arglwydd ni'm newidir: am hynny ni ddifethwyd chwi meibion Iacob.
3:7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch [hwynt:] dychwelwch attaf fi, a mi a ddychwelaf attoch chwitheu, medd Arglwydd y lluoedd: a chwi a ddywedwch, ym-mha beth y dychwelwn?
3:8 A yspeilia dyn DDuw? etto chwi a'm hyspeiliasoch i: a chwi a ddywedwch, ym-mha beth i'th yspeiliasom? [yn] y degwm, cr offrwm.
3:9 Melldigedic ydych drwy felldith, canys chwi a'm hyspeiliasoch i, [sef] yr holl genhedlaeth.
3:10 Dygwch yr holl ddegwm i'r tryssor-dŷ, fel y bydde bwyd yn fy nhŷ: a phrofwch fi 'r awr hon yn hyn medd Arglwydd y lluoedd: onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt arnoch chwi fendith yn anfeidrol.
3:11 Myfi hefyd a argyoeddaf er eich mwyn chwi 'r ormes, fel na ddifwyno i chwi ffrwyth y ddaiar: a'r winwydden yn y maes ni bydd ddiffrwythlon i chwi medd Arglwydd y lluoedd
3:12 A'r holl genhedloedd a'ch [galwant] chwi yn wynfydedig, canys byddwch chwi wlâd hyfrydaidd, medd Arglwydd y lluoedd.
3:13 Eich geiriau chwi a'm gorchfygasant medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, pa beth ydym ni yn ddywedyd yn dy erbyn di?
3:14 Dywedasoch, oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant [sydd] er i ni gadw ei orchymynnion ef? ac er i ni rodio yn ostyngedig ger bron Arglwydd y lluoedd?
3:15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig, a gweithred-wŷr drygioni a adeiladwyd: temptiasant hefyd Dduw a gwaredwyd hwynt.
3:16 Yna 'r rhai oeddynt yn ofni 'r Arglwydd a lefarasant bôb un wrth ei gymydog: a'r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac scrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oeddynt yn ofni 'r Arglwydd, ac i'r rhai oeddynt yn ystyried ei enw ef.
3:17 A byddant eiddof fi medd Arglwydd y lluoedd y dydd yn yr hwn y gwnelwyf briodoledd: arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fâb sydd yn ei wasanaethu ef.
3:18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch [ragor] rhwng y cyfiawn, a'r drygionus, rhwng gwasanaethudd Duw, a'r hwn ni's gwasanaetho ef.
PEN. IIII.
Dyfodiad Elias o flaen dydd yr Arglwydd.
4:1 CAnys wele y dydd yn dyfod yn llosci megis ffwrn, a'r holl feilchion, a'r holl weithred-wŷr anwiredd a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod ai llysc hwynt medd Arglwydd y lluoedd, yr hwn niâd iddynt na gwreiddin, na changen.
4:2 Onid haul cyfiawnder a gyfyd i chwi y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddiginiaeth [a sydd] tann ei ascell: a chwi a ewch allan, ac a gynnyddwch megis lloi pascedic.
4:3 A chwi a wasernwch yr annuwolion, canys byddant yn llwch tann wadnau eich traed chwi: yn y dydd yr hwn a baraf i, medd Arglwydd y lluoedd.
4:4 Cofiwch gyfraith Moses fyng-wâs yr hon a orchymynnais iddo ef yn Horeb, am holl Israel yn ddeddfaum, ar barnedigaethau.
4:5 Wele mi a anfonaf attoch chwi Elias y prophwyd, cyn dyfod y mawr a'r ofhadwy ddydd yr Arglwydd.
4:6 Ac efe a dychwel galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau, rhag i mi daro y ddaiar â difrod.
Terfyn Prophwyd Malachi, ac hefyd o'r holl brophwydi.