Ail Epistol Paul at y Corinthiaid.
PENNOD. I.
Y mae yn dangos fod ei gystudd yn Asia yn ddiddanwch iddynt hwy. 17 Ac yn dangos nad o o yscafnder meddwl yr oedâse efeddyfod attynt pan addawse.
1:1 PAUL Apostol Iesu Grist, a'r brawd Timotheus trwy ewyllys Duw at eglwjs Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyd â'r holl seinctiau y rhai sy yn holl Achaia:
1:2 Grâs fyddo gyd â chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Bendigedic fyddo Duw Tâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tâd y trugareddau, a Duw holl ddiddanwch,
1:4 Yr hwn sydd yn ein diddânu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom y rhai sy mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch ein diddenir ninnau gan Dduw.
1:5 O blegit fel yr amlheir dioddefiadau Crist ynom, felly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Grist.
1:6 Hefyd os cystuddir ni [y mae hynny] er diddanwch, ac iachydwriaeth i chwi, yr hon a weithir gan ymaros yn yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ni hefyd yn eu dioddef: ac os diddanir ai, er diddanwch a iechydwriaeth i chwi [y mae hynny.]
1:7 Ac y mae ein gobaith yn sicer am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o'r dioddefiadau, felly [y byddwch] hefyd o'r diddanwch.
1:8 Canys frodyr ni fynnem i chwi fod heb ŵybod, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn anfeidrol uwch ben [ein] gallu, hyd onid oeddem yn ammeu na allem fyw.
1:9 Ond ni a dderbyniasom farn angau ynom, fel na obeithiom ynom ein hunain, ond yn Nuw yr hwn sydd yn cyfodi i fynu y meirw:
1:10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu: yn yr hwn yr ydym yn gobeitho y gwared efe rhag llaw.
1:11 Os chwy-chwi a gydweithiwch mewn gweddi trosom, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer trosom,
1:12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, [sef,] testiolaeth ein cydwybod ni, o blegit mewn disymlrwydd, a duwiol burdeb, ac nid yn noethineb cnawdol, ond trwy râs Duw, y bu i ni ein ymddwyn ein hunain yn y bŷd, ond yn enwedic yn eich mysc chwi.
1:13 Canys nid ydym yn scrifennu amgen bethau attoch nac yr ydych yn eu darllen, neu yr ydych yn eu cydnabod, ac yr ydwyf yn gobeithio y cydnabyddwch hyd y diwedd.
1:14 Ac megis y cydnabuoch ni, o rann ein bôd yn orfolaeth i chwi, fel yr ydych chwithau i ninnau yn nŷdd yr Arglwydd Iesu.
1:15 Ac yn y gobaith hyn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch y waith gyntaf, fel y caffech ail grâs;
1:16 A myned (heb eich llaw chwi i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennwch i Iudea.
1:17 Gan hynny, pan oeddwn yn amcanu fel hyn, a arferais i o yscafnder? neu a wyfi yn amcanu y pethau yr wyf yn amcanu, ar ôl y cnawd, fel y bydde gyd â mi îe, îe, ac nag ê, nag ê?
1:18 Ond Duw sydd ffyddlon, canys nid îe, ac nagê ydoedd ein ymadrodd wrthych chwi.
1:19 Canys Mab Duw Iesu Grist yr hwn a bregethwyd yn eich plith genym ni, sef myfi a Silfanus a Timotheus, nid ydoedd, îe, ac nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.
1:20 O blegit holl addewidion Duw ynddo ef ydynt, îe, ac ynddo ef [ydynt] Amen, er gogoniant Duw trywddom ni.
1:21 A Duw [yw] 'r wn a'n cadarnhâ ni gyd â chwi yng-Hrist, ac a'n enêiniodd ni.
1:22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes wydtleidiaith yr yspryd yn ein calonnau.
1:23 Ac yr ŵyf fi yn galw Duw yn dŷst i'm henaid, mai er eich arbed chwi na ddauthym etto i Corinth.
1:24 Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwŷr i'ch llawenydd: o blegit trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
PEN II.
Y mae yn dangos fod yr hwn a yscymunasid am loscach neu insest yn beth achos na ddaethe efe attynt hwy. 6 Yn maddeu i hwnnw, gan ewyllysio eu cydundeb hwythau i hynny. 14 Yn diolch am ffynniant yr Efengyl. 17 Ac yn amddeffyn ei athrawiaeth yn erbyn y gau athrawon.
2:1 EITHR mi a fwriadais hyn ynof fy hunan, na ddelwn attoch trachefn mewn tristwch.
2:2 O blegit as myfi â'ch tristâf chwi, pwy yw 'r hwn a'm llawenhâ fi, ond yr hwn a dristawyd gennifi?
2:3 Ac mi a scrifennais hyn ymma attoch, rhag (pan ddelwn) cael o honof dristwch ar dristwch gan y rhai y dylwn ymlawenhau: gan obeithio am danoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
2:4 Canys mewn gorthrymder mawr, a chyfyngder calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i'ch tristaid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sy gennif yn enwedig i chwi.
2:5 Os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o rann, rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
2:6 Digon [yw] cyfryw [ddŷn] y cerydd ymma yr hwn a rodded iddo gan lawer.
2:7 Megis yn hytrach yng-wrthwynêb, y dylech chwi faddeu iddo ai ddiddânu, rhag llyngcu y cyfryw gan ormod tristwch.
2:8 Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi, gadarnhau eich cariad arno.
2:9 Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y cawn ŵybod profedigaeth am danoch, a fyddech ufydd ym mhob peth.
2:10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, [yr wyf] finne: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi [y maddeuais], yng-olwg Crist;
2:11 Rhag ein siommi gan Satan: canys nid ydym heb ŵybod ei amcannion ef.
2:12 Pan ddaethym i Troas i [bregethu] Efengyl Grist, ac agoryd drŵs gan yr Arglwydd,
2:13 Ni chefais lonydd yn fy yspryd am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.
2:14 Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn yn oestad sydd yn peri i ni oroledd yng-Hrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei ŵybodaeth trwyddom ni ym mhôb lle.
2:15 Canys per-arogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
2:16 I'r naill yr [ydym] yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd, a phwy sydd ddigonol i hyn?
2:17 Canys nid ydym ni fel y mae llawer, yn gwneuthur twyll am air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng-wydd Duw yr ydym yn llefaru yng-Hrist.
PEN. III.
I beidio ai ganmol ei hun y mae efe yn dangos fod ei glôd ef iw gweled yn y Corinthiaid. 6 A bod yr Efengyl yn fwy gogoneddus nâ'r gyfraith.
3:1 A I dechreu yr ydym ein canmol ein hunain trachefn? ai rhaid i ni fel i eraill wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu canmoliaeth oddi wrthych chwi?
3:2 Ein llythr ni ydych chwi yn scrifennedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeallir, ac a ddarllenir gan bôb dŷn:
3:3 Gan fod yn eglur eich bôd chwi yn llythr Crist, yr hwn a roddwyd allan trwy ein gweinidogaeth ni, ac a scrifennwyd, nid ag ingc, ond ag Yspryd Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn cnawdol lechau y galon.
3:4 A chyfryw obaith sydd gennym trwy Grist ar Dduw.
3:5 Nid o herwydd ein bôd yn ddigonol o honom ein hunain i feddylio dim megis o honom ein hunain eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.
3:6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion y Testament newydd, nid i'r llythyren, ond i'r Yspryd: canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr Yspryd sydd yn bywhau.
3:7 Ac os oedd gweinidogaeth angeu yr hon a argraphwyd â llythyrennau ar lechauyn ogoneddus, fel na alle plant yr Israel edrych yn ŵyneb Moses gan ogoniant ei wyneb-pryd, yr hwn [ogoniant] a ddileuwyd,
3:8 Pa fodd nad mwy y bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
3:9 Canys os bu gweinidogaeth colledigaeth yn ogoneddus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.
3:10 Canys yr hyn a ogoneddwyd, ni ogoneddwyd yn y rhan hon, [sef] hyd y perthyn i'r gogoniant ardderchog.
3:11 O blegit os yr hyn a ddeleuid ymmaith oed yn ogoneddus, mwy o lawer [sydd] yr hyn a erys yn ogoneddus.
3:12 Felly gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder.
3:13 Ac nid ydym ni fel Moses, yr hwn a rodde orchudd ar ei wyneb, rhag i blant Israel edrych ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.
3:14 Am hynny y caledwyd eu meddwl hwy: canys hyd y dydd heddyw y mae y gorchudd hwnnw yn aros heb ei ddadguddio wrth ddarllen yr hên Destament, yr hwn yng-Hrist a ddynnir ymmaith.
3:15 Eithr hyd y dydd heddyw pan ddarllenir Moses, y rhoddir y gorchudd ar eu calonnau hwynt.
3:16 Er hynny pan ymchweler at yr Arglwydd, y tynnir y gorchudd.
3:17 Yr awron yr Arglwydd yw 'r Yspryd, a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae rhydd-did.
3:18 Eithr edrych yr ydym ni oll, megis medwn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ag wyned agored, ac i'n newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.
PEN. IIII.
Dywydrwydd Paul yn ei swydd. 13 A'r achosion y rhai sy yn peri.
4:1 AM hynny gan fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu.
4:2 Eithr ni a ymwrthodasom ddirgelwchgwradwydd, heb rodio yn ddichelgar, nac arfer twyll am air Duw: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dŷn ger bron Duw.
4:3 Ac os yw ein Efengyl ni ŷyn guddiedic, yn y rhai colledig y mae yn guddiedic.
4:4 Ym mha rai y dallodd Duw y bŷd hwn feddyliau yr anfyddlonion, rhag tywynnu iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Dduw.
4:5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Iesu.
4:6 Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, [yw] yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.
4:7 Eithr y tryssor hwn sydd gennym mewn llestri pridd, fel y bydde ardderchogrwydd y meddiant hwnnw o Dduw, ac nid o honom ni.
4:8 Ym mhôb man ein cylludir, er hynny nid ydym mewn ing: y mae yn gaeth arnom, ond nid ydym yn gwbl heb obaith.
4:9 Wedi ein herlid, ond heb ein gwrthod, wedi ein taflu i lawr eithr heb ein difetha.
4:10 Gan arwain bob amser o amgylch yn y corph, farwolaeth yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corph.
4:11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn oestad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurhaer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
4:12 Ac felly y mae angeu yn gweithio ynom ni, ac enioes ynoch chwithau.
4:13 A chan fôd i ni yr un yspryd ffydd, megis ac y mae yn scrifennedic, credais, ac am hynny y dywedais, ninnau hefyd ydym yn credu, ac am hynny yn dywedwn,
4:14 Gan ŵybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod gyd â chwi.
4:15 Canys pôb peth sydd er eich mwyn chwi, fel yr amlhâo yr helaethaf râs trwy ddiolch llawer er gogoniant i Dduw.
4:16 Am hynny nid ydym yn ymollwng, eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hynny y dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
4:17 O blegit y mae yscafnder ein cystudd yr hwn ni peru ond munyd, yn peri i ni yn rhagorol [gael] rhagorol a thragywyddol bwys gogoniant.
4:18 Tra nid ydym yn ystyried y pethau a welir ond y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy amserol, a'r pethau ni welir sy dragywyddol.
PEN. V.
Mor fuddiol yw marwolaeth dduwiol i'r duwiol. 14 Mawredd grâs Duw. 20 Swydd a braint eglwys-wyr.
5:1 CAnys ni a wyddom os daiarol dŷ ein presswylfod a ddotodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, [sef] tŷ, nid o waith llaw, [ond] tragywyddol yn y nefoedd.
5:2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio gan ddeisyfio cael ein gwisco â'n tŷ yr hwn sydd o'r nêf.
5:3 O blegit os gwiscir ni, ni'n ceffir yn noethion.
5:4 Canys yn ddiau [nyni] y rhai sy yn y babell hon ydym yn ocheneidio, ac yn llwythog am nad ewyllysiem ein diosc, ond ymwisco, fel y llyngcid yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5:5 A'r hwn a'n creawdd ni i hyn yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ŵystleidiaeth yr Yspryd.
5:6 Am hynny yr ydym bôb amser yn hyderus, ac yn gŵybod, tra fôm gartref yn y corph, ein bôd oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
5:7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
5:8 Er hynny yr ydym yn hyderus, ac y mae yn fodlonach gennym fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyd â'r Arglwydd.
5:9 Am hynny hefyd yr ydym yn chwennychu pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, fôd yn gymmeradwy ganddo ef.
5:10 Canys rhaid yw i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist, fel y derbynio pob un y pethau a [wnaethpwyd] yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.
5:11 Felly gan i ni ŵybod ofn yr Arglwydd, yr ydym ni yn peri i ddynion gredu, ac ni a wnaed yn hyspys i Dduw, ac yr ydwyf yn gobeithio hefyd ddarfod ein gwneuthur yn hyspys yn eich cydwybodau chwi.
5:12 Canys nid ydym yn ymganmol trachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achos gorfoledd o'n plegit ni, fel y caffoch [beth i atteb] yn erbyn y rhai sy a'u gorfoledd yn yr wyne, ac nid yn y galon.
5:13 Canys os amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym, ac os bôd yn ein pwyll, i chwi [yr ydym].
5:14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell, ni, gan i ni farnu hyn, os bu un farw tros bawb, yna mai meirw oedd pawb.
5:15 Ac efe a fu farw tros bawb, fel na bydde i'r rhai byw, na fyddent fyw rhag-llaw iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac a adgyfododd.
5:16 Am hynny o hyn allan, nid ydym yn adnabod nêb yn ôl y cnawd, ac os buom ni hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, er hynny o hyn allan nid ydym yn ei adnabod ef mwy [felly.]
5:17 Gan hynny od oes nêb yng-Hrist [y mae efe] yn greadur newydd, yr hên bethau a aethant heibio, wele, gwnaethbwyd pob, peth yn newydd.
5:18 A'r cwbl sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod;
5:19 Canys Duw yng-Hrist, yn cymmodi y bŷd ag ef ei hun, heb adliwio iddynt eu pechodau, ac a osododd ynom ni air y cymmod.
5:20 Am hynny yr ydym ni yn gennadau tros Grist, megis pe bydde Duw yn ymbil â chwi trwyddom ni: yr ydym yn attolwg i chwi tros Grist, cymmodwch â Duw.
5:21 Canys efe a wnaeth yn bechod trosom ni, yr hwn ni adnabu bechod, fel ein gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
PEN. VI.
Y mae efe yn eu hannog hwynt i amryw rinweddau rhagorol. 14 Ac yn anad dim i ochelyd ymgymharu â'r rhai anghredadwy.
6:1 FElly ninnau gan gydweithio ydym yn attolwg i chwi na dderbynioch râs Duw yn ofer
6:2 (Canys medd efe, yn amser cymmeradwy i'th wrandewais, ac yn nydd iechydwrieth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iechydwrieth)
6:3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, rhag beio ar y weinidogaeth.
6:4 Eithr gan ein gosod ein hun allan ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystadd, mewn angen, ac mewn cyfyngder,
6:5 Mewn gwialennodau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poen, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,
6:6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd glân, mewn cariad diragrith.
6:7 Yng-air y gwirionedd, yn nerth Duw, mewn arfau cyfiawnder ar y llaw ddeheu, ac ar y llaw asswy.
6:8 Mewn parch ac ammarch, mewn clôd, ac anglod, megis twyllwŷr, ac [er hynny] yn gywir,
6:9 Megis anadnabyddus, ac [er hynny] yn adnabyddus, megis yn rneirw, ac wele ni yn fyw, megis wedi ein cospi, a heb ein lladd,
6:10 Megis yn dristion, ac etto yn oestad yn llawen: megis yn dlodion, ac etto yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ac atto yn meddiannu pôb peth.
6:11 Oh y Corinthiaid, ein genau a agorwyd i chwi, ein calon a ehangwyd.
6:12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr chwi a gyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd eich hunain.
6:13 Am yr un gwobr, megis wrth fy mhlant yr wyf yn dywedyd, ymehengwch chwithau.
6:14 Nac iauer chwi yn anghymharus gyd â'r anffyddlonion; canys pa gymdeithas sydd rhwng cyfiawnder, ac anghyfiawnder? a pha gyfeillach rhwng goleuni a thywyllwch?
6:15 A pha gyssondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i'r credadwy, ac i'r anghredadwy?
6:16 A pha gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eulynnod? canys chwi teml y Duw byw: fel y dywedodd Duw, mi a bresswyliaf, ac a rodiaf yn eu mysc hwynt: a mi a fyddaf eu Dduw hwynt, ac hwy a fyddant yn bobl i mi.
6:17 Am hynny deuwch allan o'u plith hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd: ac na chyffyrddwch ddim aflan; yna mi a'ch derbyniaf chwi
6:l8 A mi a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwi a fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi: medd yr Arglwydd holl-alluoc.
PEN. VII.
Y mae yn eu hannog i sancteiddrwydd gan gofio iddynt addewidion Duw. 8 Yn ymescusodi am eu tristau hwynt. 13 Ac yn diolchgar yn coffau eu caredigrwydd hwynt i Titus.
7:1 AM hynny, gan fôd i ni yr addewidion (annwylyd) ymlânhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd, ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
7:2 Derbyniwch ni, ni wnaethom gam i nêb, ni lygrasom nêb, nid yspeiliasom nêb.
7:3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd, canys mi a ddywedais o'r blaen eich bôd yn ein calonnau ni, i gyd-farw, ac i gyd-fyw.
7:4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych: y mae gennif orfoledd mawr ynoch: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra-llawen yn ein holl orthrymder.
7:5 Canys wedi ein dyfod ni i Macedonia ni chaiˆ ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ni a orthrymmid o bôb parth, rhyfeloedd oddi allan, ac ofn oddi mewn.
7:6 Eithr Duw, yr hwn a diddâna y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus
7:7 Ac nid âi ddyfodiad ef yn unic, ond hefyd â'r diddanwch y diddanwyd ef gennych chwi, pan fynegodd efe i ni eich awydd chwi, eich galar, eich annwyl-serch i mi, fel y llawenheais i yn fwy.
7:8 Canys er i mi eich tristau chwi mewn lythyr, nid yw edifar gennif, er bôd yn edifar gennif; canys yr wyf yn gweled dristau o'r llythr hunnw chwi, er [bôd hynny] tros amser.
7:9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau, ond am eich tristau i edifeirwch, canys tristau a wnaethoch yn dduwiol, fel na chawsoch niwed mewn dim gennym ni.
7:10 Canys duwiol dristwch a bair edifeirwch er iechydwriaeth diedifarus: eithr bydol dristwch a bair angeu.
7:11 Canys wele, pa ofal ei faint a weithiodd hyn ynoch chwi? [sef] tristau o honochw yn dduwiol, îe, pa amddeffyn, ïe, pa ddigofaint, îe, pa ofn, îe, pa chwant, îe, pa wŷnfydiaid, ïe, pa ddial! ym mhôb peth yr ymddangosasoch i bod yn bur yn y peth hyn.
7:12 O herwydd pa ham, er scrifennu attoch, ni [scrifennais] o'i blegit ef a wnaethoedd y cam, nac o blegit yr hwn a gafodd y cam, ond er bôd yn eglur i chwi, ein gofal am danoch ger bron Duw.
7:13 Am hynny ni a ddiddanwyd o achos eich diddanwch chwi, eithr llawenach o lawer oeddem am lawenydd Titus, am lonni ei yspryd ef gennych oll.
7:14 Canys os gorfoleddais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bôb dim mewn gwirionedd, felly hefyd yr oedd ein gorfoleddiad ni wrth Titus yn gywir.
7:15 Ac y mae ei galondid ef yn helaethach tu ag attoch, wrth gofio eich ufudd-dod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dychryn, y derbyniasoch ef.
7:16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhôb dim.
PEN. VIII.
Y mae efe yn eu hannog hwynt i fod yn hael i'r brodyr tlodion, gan ddwyn iddynt siampl y Macedoniad, 9 A Christ ei hu: 24 Gan ddangos hefyd y galle fod ar y Corinthiaid eu heufieu hwythau.
8:1 YR ydym hefyd yn yspysu i chwi, (frodyr) y grâs Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia.ˆ
8:2 Canys mewn mawr brofedigaeth cystudd yr amlhaodd eu llawenydd hwynt, ai llwyr eithaf dlodi, a amlhaodd iw helaeth gymmwynascarwch hwynt.
8:3 Canys yn eu gallu (yr wyfi yn testiolaethu) ac uwch-law eu gallu, yr oeddent yn ewyllyscar.
8:4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom ni yr haelioni a'r cyfranniad [a roddent] i wasanaethu 'r seinctiau.
8:5 A [hyn a wnaethant,] nid fel yr oeddem yn gobeithio, ond hwynt hwy ai rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i ninnau, trwy ewyllys Duw:
8:6 Fel y dymunasom ni a'r Titus, (megis y dechreuase efe o'r blaen) felly hefyd orphen yr un-rhhyw haelioni yn eich plith chwi.
8:7 Am hynny fel yr ydych yn amlhau yn mhôb dim, mewn ffydd a gair, a gwybodaeth, ac ym mhôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, [ceisiwch] amlhau hefyd yn y grâs hyn.
8:8 Nid o rann gorchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond o blegit diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
8:9 Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Iesu Grist, ac efe yn gyfoethog, ei fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
8:10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn, canys hyn da fydde hyn i chwi, y rhai a ddechreusoch, nid yn unic wneuthur, ond hefyd ewyllysio er ry llynedd.
8:11 Ac yn awr gorphennwch wneuthur hynny hefyd, fel, megis yr oedd y parodrwydd i ewyllsio (sic!), felly y byddo hefyd i gwblhau o'r hyn sydd gennych.
8:12 Canys os bydd yn gyntaf ewyllyscarwch, cymmeradwy yw, yn ôl yr hyn sydd gan ddŷn' nid yn ôl yr hyn nid yw ganddo.
8:13 Ac nid i fod esmwythdra i eraill, a chustudd i chwithau.
8:14 Eithr mewn cymhwysdra y ae eich helaethrwydd chwi y pryd hyn, yn [diwallu] eu diffyg hwy, fel y gallo hefyd eu helaethrwydd hwynt ddiwallu eich diffig chwithau, fel y byddo cymhwysdra.
8:15 Megis y mae yn scrifennedic, yr hwn a gasclodd lawer, nid oedd ganddo weddill, a'r hwn a gasclodd ychydig, nid oedd arno eisieu.
8:16 Ac i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a roddodd yng-halon Titus yr un-rhyw ofal trosoch .
8:17 Am iddo gymmeryd y dymuniad, a chan fod yn fwy gofalus, ddyfod attoch chwi oi waith ei hun.
8:18 Ac ni a ddanfonasom hefyd gyd ag ef y brawd, yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl, trwy 'r holl eglwysi.
8:19 (Ac nid [hynny] yn unic, eithr hefyd efe a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdeithio â ni a'r grâs hyn, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu, o herwydd gogoniant yr Arglwydd, ac [amlygiad] eich ewyllyscarwch chwithau)
8:20 Gan ymochelyd hyn, rhag i nêb feio arnom yn yr helaethrwydd ymma, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu.
8:21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig ger bron yr Arglwydd, ond hefyd o flaen dynion.
8:22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom ynfynych o amser, ei fôd yn ddyfal yn llawer o bethau, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried [sydd gennif] ynoch.
8:23 Os [gofynnir] am Titus, fyng-hyd-ymaith [yw,] a chydweithydd tu ag attoch chwi; neu [am] ein brodyr, cennadau yr eglwysi [ydynt,] a gogoniant Crist.
8:24 Am hynny dangoswch tu ag attynt hwy ger bron yr eglwysi, brofedigaeth o'ch cariad, ac o'n hymffrost ni am danoch chwi.
PEN. IX.
Y mae efe yn dangos yrru o honaw ef Titus, ac eraill attynt, fe y ceid hwynt yn barod, ac yn ewyllyscar i gyfrannu, 7 yr hwn beth sydd dda gan Dduw, 13 a moliannus iddo ef.
9:1 CANys tu ag at am y weinidogaeth i'r sainct, afraid yw i miscrifennu attoch.
9:2 O herwydd mi a adwaen ewyllyscarwch chwi, [am] yr hwn yr wyf yn gorfoleddu am danoch wrth y Macedoniaid, fôd Achaia yn barod er yr llynedd, a'r zêl [a ddaeth] oddi wrthych chwi a annogodd lawer.
9:3 A mi a ddanfonais y brodyr, rhag i'n gorfoledd ni am danoch fôd yn ofer, yn y rhann hon, fel (megis y dywedais) y byddoch barod:
9:4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a'ch cael chwi yn amharod, bôd i ni (ni ddywedaf i, chwi) gael cywilydd yn hyn o sylwedd gorfoledd.
9:5 O herwydd pa ham, i a dybiais fôd yn angeurhaid attolwg i'r brodyr ddyfod o'r blaen attoch, ac i gwplau o'r blarn eich bendith yr hon a ragfynegwyd, fel y bydde yn barod, megis fel bendith, nid fel o gymmell.
9:6 A hyn [a ddywedaf,] a hauo yn brin, a fêd hefyd yn brin, ac a hauo yn helaeth a fêd hefyd yn helaeth.
9:7 Pob un megis y mae yn amcanu yn ei galon, felly cwnaed nid yn athrist, neu wrth gymmell, canys y mae yn hoff gan Dduw roddwr llawen.
9:8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob grâs amlhu tu ag attoch, fel y galloch chwi (â phôb digonoldeb gennych, ym mhôb dim, bôb amser) amlhau i bôb gweithred dda,
9:9 Megis y mae yn scrifennedic, efe a wascarodd, [ac] a roddodd i'r tlodion, y mae ei gyfiawnder yn parhau yn dragywydd.
9:10 Hefyd yr hwn sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhâed eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder,
9:11 Fel ym mhôb ffordd i'ch cyfoethoger i bôb cymmwynascarwch, yr hyn a weithia trwyddom ni ddiolch i Dduw.
9:12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unic yn cyflawni angenrhaid y sainct, ond hefyd yn amlhau, gan lawer diolch i Dduw, trwy brofiad y weinidogaeth hon,
9:13 [Y rhai sy] yn moliannu Duw am eich cydsynniol ymostwng i Efengyl Grist, ac am eich cymmwynascar gyfranniad iddynt hwy, ac i bawl oll,
9:14 A thrwy eu gweddi hwythau y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am yr ardderchawg râs Duw [yr hwn sydd] ynoch.
9:15 Ac i Dduw y byddo 'r diolch am ei anhraethol dawn.
PEN. X.
Y mae efe yn ei amddeffyn ei hun a'i hyder yn erbyn y gau-athrawon, 12 y rhai oeddynt yn eu canmol eu hun am lafur a phoen eraill.
10:1 ONd myfi Paul ydwyf yn attolwg i chwi er addfwynder a chymmesurdeb Crist, yr hwn ŵydd yng-ŵydd [wyf] ddiystyr yn eich plith, ac yn absennol ydwyf yn hyderus arnoch.
10:2 A hyn yr ydwyf yn ei ddymuno, na orfyddo i mi fod yn hydêrus pan fyddwyf bresennol â'r un rhyw hyder, ac yr ydys yn meddwl fy mod yn hyderus ar ryw rai, y sawl sy yn meddwl bod ni yn rhodio megis ar ôl y cnawd.
10:3 O blegit er ein bôd yn rhodio yn y cnawd, etto nid ydym yn rhyfela ar ôl y cnawd.
10:4 Canys arfau ein rhyfel ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestill i'r llawr,
10:5 Gan fwrw i lawr dychymmygion, a phôb uchel-beth a dderchefir yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufydd-dod Crist.
10:6 A chennym yn barod ddial ar bob annufydd-dod, wedi y cyflawner eich ufydd-dod chwi.
10:7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau o herwydd golwg? os ymddiried nêb ynddo ei hun ei fod ef yn perthyn i Grist, ystyried hyn trachefn o honaw ei hun,fel y ma efe yn perthyn i Grist, felly yr ydym ninnau ynperthyn i Grist.
10:8 O blegit pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinystr chwi, ni'm cywilyddid:
10:9 Rhag tybied fy mod, megis yn eich ofni chwi â llythyrau.
10:10 Canys y llythyrau (meddant hwy) sy drymmion a chedyrn, eithr presennoldeb y corph sydd wan, a'i ymadrodd yn ddibris.
10:11 Meddylied y cyfryw un hyn, mai fel yr ydym ar air drwy lythyrau yn absennol, felly [yr ydym] hefyd mewn gweithred yn bresennol.
10:12 Canys ni feiddiwn ni yymyrryd neu ymgyffelybu â'r rhai sy yn eu canmol eu hunain: eithr nid ydynt yn deall eu bôd yn mesuro eu hunain wrthynt eu hunain, ac yn cyffelybu eu hunain ag hwynt eu hunain.
10:13 Eithr ni orfoleddwn ni yn anghymmesurol, ond yn ôl mesur y rheol trwy yr hon y rhannodd Duw i ni fesur i gyrhaeddyd hyd attoch chwithau.
10:14 Canys nid ydym yn tra ymestyn, megis pe na chyrhaeddasem hyd attoch chwi: canys hyd attoch chwi hefyd y daethom ag Efengyl Grist:
10:15 Nid gan orfoleddu yn anghymmesur, sef am boen rhai eraill: eithr gan obeithio wedi y cynnyddo eich ffydd, gael ein mawrygu yn eich plith yn ôl ein mesur yn helaeth,
10:16 Fel y gallwyf bregethu yr Efengyl tu hwnt i chwi: [ac] nid gorfoleddu am y pethau a baratoiwyd trwy reol neb arall.
10:17 Eithr yr hwn a orfoleddo, gorfoledded yn yr Arglwydd.
10:18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun sydd gymmeradwy, ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
PEN. XI.
Ei serch ef i'r Corinthiaid, 5 ardderchogrwydd ei swydd ef, 9 a'r boen a gafodd efe ynddi hi.
11:1 OCh na oddefech ychydig fy anghallineb, eithr hefyd goddefwch fi.
11:2 Canys eiddigus wyf am danoch, ag eiddigedd duwiol: o blegit darperais chwi i un gŵr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bûr i Grist.
11:3 Ac yr wyf yn ofni rhag megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwysdra, felly bôd llygru eich meddyliau chwithau i fyned oddi wrth y semlrwydd sydd yng-Hrist.
11:4 O blegit, os yr hwn a ddaw a bregetha Iesu arall, [amgen] nâ 'r un a bregethasom ni, neu os derbynniwch amgen Yspryd nac a dderbynniasoch, neu amgen Efengyl nac a dderbynniasoch, têg y gallasech ei ddioddef.
11:5 Canys yr ydwyf yn meddwl, na bum yn ôl i'r Apostolion pennaf.
11:6 Ac os fy môd yn anghymmen o ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollawl ym mhôb dim.
11:7 A wneuthum i fai i mi ymostwng fy hun fel y derchefid chwi? ac am i mi bregethu i chwi Efengyl Grist yn rhâd?
11:8 Eglwysi eraill a espeiliais gan gymmeryd cyflog [ganddynt] i'ch gwasanaethu chwi.
11:9 A phan oeddwn yn bresennol gyd â chwi, ac arnaf eisieu, ni ormesais ar neb, canys yr hyn oedd arnaf ei eisiau, a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia, ac ym mhôb dim yr ymgedwais, ac yr ymgadwaf heb bwyso arnoch.
11:10 Y mae gwirionedd Crist ynof, na argaeir y gorfoledd hyn yn fy erbyn yng-wledydd Achaia.
11:11 Pa ham? ai am nad charaf chwi? Duw a'i gŵyr.
11:12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, hynny a wnaf: fel y torwyf ymmaith achlysur oddi wrth y rhai sy yn ewyllysio cael achlysur, fel y ceffid hwy yn gyffelyb i ni, yn yr hyn y maent yn gorfoleddu ynddo.
11:13 Canys y cyfryw gau Apostolion sy weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn Apostolion Crist.
11:14 Ac nid rhyfedd, o blegit y mae Satan yntef yn ymrithio yn angel goleuni.
11:15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef, fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.
11:16 Trachefn meddaf, na thybied neb fy môd yn ffôl: os amgen cymmerwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finne hefyd orfoleddu ychydig.
11:17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis o anghallineb yn hyn o sylwedd gorfoledd.
11:18 Gan fôd llawer yn gorfoleddu o herwydd y cnawd, minne a orfoleddaf hefyd.
11:19 Canys yr ydych yn diodef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hun yn synhwyrol.
11:20 Canys goddefwch yn caethiwe un chwi, pe bai un i'ch llyngcu, pe bai un yn ddwyn oddi arnoch, pe bai un yn ymdderchafu, os bydd un i'[ch] llwyr-fwytta, pe tarawe un chwi ar eich wyneb.
11:21 Am amharch yr ydwyf yn dywedyd: megis ein bod yn weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y bydd neb yn hyf (yr wyf yn dywedyd yn ffôl) hyf wyf inne hefyd.
11:22 Hebræaid ydynt, felly finne: Israeliaid ydynt, felly finne: hâd Abraham ydynt, felly finne.
11:23 Gweinidogion Crist ydynt {yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl) mwy wyfi: mewn poen yn amlach, mewn archollion dros fesur: yng-harchar yn amlach, ym [mron] angeu yn fynych.
11:24 Gan yr Iddewon bum-waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un.
11:25 Tair gwaith i'm curwyd â gwiail; unwaith i'm llabyddiwyd, tair gwaith y torrodd llong arnaf, nôs a dydd y bum yn y dyfn-fôr;
11:26 Mewn teithiau y bum yn fynych, ym mheryglon llif-ddyfroedd, ym mheryglon lladron, ym mheryglon fyng-henedl [fy hun,] ym mheryglon gan y cenhedloedd, ym mheryglon yn y ddinas, ym mheryglon yn yr anialwch, ym mheryglon ar y môr, ym mheryglon ym mhlith brodyr gau,
11:27 Mewn blinder a lludded, mewn anhunedd yn fynych, mewn newyn a syched, mewn ympryd yn fynych, mewn annwyd a noethni.
11:28 Heb law y pethau [sy yn digwydd] oddi allan, y mae yr ymosod beunyddol arnaf, [sef] y gofal tros yr hôll eglwysi.
11:29 Pwy sy wann, nad wyf finne wann? pwy a dramgwyddir, na loscwyf finne?
11:30 Os rhaid i mi orfoleddu, mi a orfoleddaf yn y pethau sy yn perthyn i'm gwendid.
11:31 Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
11:32 Yn Damascus llywiadwwr y bobl dan& frenin Aretus a barodd wilio dinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:
11:33 A thrwy ffenestr i'm gollyngwyd ar hyd y mur mewn basged, ac y diengais o'i ddwylaw ef.
PEN. XII.
Y mae efe yn dadcan ei ardderchog wledigaethau. 5 Yn gorfoleddu yn twyaf yn ei wendid. 11 Yn dangos pa ham y dywedodd gymmaint iw glod. 20 Gan ofni y bydde rhaid iddo fod yn llymmach wrth rai o honynt.
12:1 NId cymmwys i mi yn ddiau orfoleddu: eithr mi a ddeuaf at weledigaethau, a datcuddiedigaethau yr Arglwydd.
12:2 Mi a adwaenwn ddyn yng-Hrist, er ys rhagor i bedair blynedd ar ddêc, (pa un ai yn y corph, ni wn, ai allan o'r corph, ni wn: Duw a ŵyr;) yr hwn a gymmerwyd i fyny hyd y drydedd nef.
12:3 Ie mi a adwaenwn y cyfryw ddyn (pa un ai yn y corph, ai allan o'r corph ni wn: Duw a ŵyr)
12:4 Ei gymmeryd ef i fynu i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddŷn eu hadrodd.
12:5 Am hynny o beth ŷ y gorfoleddaf: ynof fy hun ni orfoleddaf, oddi eithr a'm fyng-gwendid.
12:6 Canys pe gorfoleddwn, ni fyddwn ffôl: canys dywedaf y gwir, eithr mi a arbedaf, rhac i neb fyddylied am danaf uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn clywed gennif.
12:7 A rhac tra-ymdderchafu o honof gan odidogrwydd y datguddiedigaethau, y rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, im cernodio, rhac tra-ymdderchafu.
12:8 Am y peth hwn mi a attolygais i'r Arglwydd dair gwaith, ar fod iddo ymadael a mi.
12:9 Ac yntef a ddywedodd wrthif, digon i ti fyng-râs i: canys fy nerth i a berffeithir trwy gwendid: yn llawen iawn gan hynny y gorfoleddaf fi yn hytrach yn fyng-wendid, fel y trygo nerth Crist ynof.
12:10 Am hynny yr ymddigrifhâf fi, mewn gwendid, mewn ammarch, mewn angen, mewn erlid, [ac] mewn ing er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
12:11 Ffôl oeddwn orfoleddu: chwychwi a'm gyrrasoch: canys dylaswn gael fyng-hanmol gennych chwi: canys ni mewn dim nid oeddwn yn ôl i'r Apostolion pennaf, er nad wyf ddim.
12:12 Argoelion Apostol a weithredwyd yn eich plith chwi gan fawr ddioddefgarwch, gan arwyddion, a rhyfeddodau, a gwyrthieu.
12:13 Canys ym mha beth yr oeddech chwi yn is nag eglwysi eraill, oddi eithr na fum i ormesol arnoch? madeuwch i mi hyn o gam.
12:14 Wele, y drydedd waith yr wyfi yn barod i ddyfod attoch, ac etto ni byddaf ormesol arnoch, canys ni cheisiaf &y pethau sydd eiddoch, ond chwychwi: gan na ddyle y plant gasclu tryssor i'r tadau ond y tadau i'r plant.
12:15 A myfi yn llawenaf oll a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau: er pa fwyaf i'ch caraf, lleiaf i'm cerir.
12:16 Eithr bydded na phwysais i arnoch, ond gan fôd yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy dwyll.
12:17 A gribddeiliais i chwi drwy neb o'r rhai a ddanfonais attoch?
12:18 Mi a ymbiliais a Titus, [am ddyfod] a chyd ag ef y danfonais y brawd arall: a espeiliodd Titus chwi am ddim o'ch da? oni rodiasant yn yr unrhyw yspryd, oni cherddasant yn yr unrhyw lwybrau?
12:19 Drachefn a ydych chwi yn tybied mai ymescusodi yr ydym ni wrthych? yr ydym yn dywedyd ger bron Duw yng-Hrist: a'r cwbl (ô annwylyd) er adeiladaeth i chwi.
12:20 Canys ofni yr wyf rhag pan ddelwyf na'ch caffwyf yn gyfryw rai ac a fynnwn: ac im ceffir finne i chwithau yn gyfryw ac ni fynnech: a rhac bôd yn eich plith ymryson, cenfigen, llid, cynhennau, absennau, athrod, ymchwyddo, terfysc:
12:21 Rhac pan ddelwyf drachefn fôd i'm Duw fy narostwng yn eich plith, a dwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eusus, ac ni chymmerasant edifeirwch am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant.
PEN. XIII.
Y mae efe yn bygwth y rhai anhydyn, 5 Ac yn datcan beth yw ei feddiant ef wrth eu testiolaeth hwy eu hunain. 10 Hefyd y mae yn dangos beth yw effect yr epistol hwn. 11 Wedi darfod, iddo eu hannog hwy i wneuthur a ddylent, y mae yn dymuno iddynt lwyddiant yn gwbl.
13:1 Y Drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod attoch, yng-enau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.
13:2 Rhagddywedais i chwi, ac rhagddywedaf i chwi yr ail waith, megis pe bawn bresennol felly yr ydwyf yn scrifennu yn absennol at y rhai ym mlaen llaw a bechasant, ac at bawb eraill, os deuaf trachefn, nad arbedaf.
13:3 Gan i chwi geisio profiad o Grist yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wann, eithr sydd nerthoc ynoch.
13:4 Canys er ei groes-hoelio o ran gwendid, etto byw ydyw drwy nerth Duw: yr ydym ninnau hefyd yn weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd ag ef trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.
13:5 Profwch eich hunain, a ydych yn y ffydd, chwiliwch eich hunain, oni adwaenwch eich hunain, [sef] bôd Iesu Grist ynoch, oddi eithr i chwi fôd yn wrthodedig?
13:6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn ang-hymmeradwy.
13:7 Ac yr wyf yn attolwg i Dduw na wneloch ddim drwg: nid er ein dangos ni yn gymmeradwy, ond er i chwi wneuthur yr hyn sydd onest, a'n bod ninnau megis yn rhai anghymmeradwy.
13:8 Canys ni allwn wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd.
13:9 Canys llawen ydym ein bod ni yn weiniaid, a'ch bod chwithau yn gryfion: hyn hefyd ddymunem, [sef] eich perffeithrwydd chwi.
13:10 Am hynny yr wyf yn absen yn scrifennu y pethau hyn, rhag i mi pen fyddwyf bresennol arfer o fod yn dôst, o herwydd yr awdurdod a roes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.
13:11 Bellach (frodyr) ewch yn iach, byddwch berffaith, ymgyssurwch, synniwch yr un peth, byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch a fyddo gyd â chwi.
13:12 Anherchwch eu gilydd & chusan sanctaidd: y mae 'r holl seinctiau yn erchi eich annerch.
13:13 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymmundeb yr Yspryd glân fyddo gyd â chwi oll. Amen.
Fe a scrifennwyd yr ail at y Corinthiaid o Philippi ym Macedonia, gyd â Thitus a Lucas.