Epistol Paul at Titus.
PENNOD. I.
5 Y mae efe yn athrawy Titus oblegit llywodraeth yr eglwys. 7 Ordinhâd a swyddgweinidogion eglwysig. 12 Cynneddfau y Cretiaid, ac am y rhai a heuant chwedlau Iddewig, a dychymmygion dynnion.
1:1 PAul, gwâs Duw, ac Apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac gŵybodaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb,
1:2 I obaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw, cyn amseroedd tragywyddol:
1:3 Eithr efe a eglurhaodd ei air yn ei brŷd drwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi wrth orchymyn Duw ein Iachawdwr;
1:4 At Titus, fy anianol fâb nwrth y ffydd gyffredin, grâs, trugaredd, a thangneddyf gan Dduw y Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdwr.
1:5 Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta i wneuthur iawn drefn am yr hyn sydd yn ôl, ac i osod henuriaid ym mhôb dinas megis yr ordeiniais i ti.
1:6 Os bydd neb yn ddiargyoedd, yn ŵr un wraig, ac iddo blant ffyddlon, nidenllibus o lothineb, neu yn anufudd.
1:7 Canys rhaid yw i escob fod yn ddiargyoedd fel gorchwiliwr Duw, nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn win-gar, nid yn darawudd nid yn budr-elwa,
1:8 Eithr yn lletteugar, yn caru daioni, yn blwyllog, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn ddianllad,
1:9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yr hwn sydd wrth yr athrawiaeth, fel y gallo hefyd gynghori â dysceidiaeth iachus, ac argyoeddi y rhai a wrth-ddywedant.
1:10 Canys y mae llawer o rai anufydd, a gwag-siarad-wŷr, a thwyll-wŷr meddyliau, yn bennag y rhai sy o'r enwaediad,
1:11 Y rhai y mae yn rhaid eu gossegu, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfan, gan ddyscu i rai bethau ni ddylid, er mwyn budr-elw.
1:12 Un o honynt hwy [eu hunain, sef] un o'u prophwydi eu hunain a ddywedodd, y Cretiaid bob amser ydynt gelwyddog, drwg fwyst-filod, boliau gor-ddiog.
1:13 Y destiolaeth hon sydd wir, am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddant iach yn y ffydd,
1:14 Heb ddarbod chwedlau, Iddewaidd, a gorchymynnion dynnion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.
1:15 I'r rhai pur y mae pob peth yn bur, eithr i'r rhai halogedig, ar i'r anghredadwy nid oes dim pur, eithr halogedig yw eu meddwl a'u cydwybod.
1:16 Y maent yn cyfaddef yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd y maent yn ei wadu ef, am eu bod yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac i bob gweithred dda yn anghymmeradwy.
PEN. II.
Y mae efe yn gorchymyn iddo y ddysceidiaeth iach, ac yn' mynegi iddo, pa wedd y dysc efe i bob gradd ymddwyn, 11 Trwy râs Crist.
2:1 EIthr adrodd di yr hyn sydd weddus i athrawiaeth iachus.
2:2 Bod o'r henaf-gwŷr yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, yng-hariad, ac ammynedd,
2:3 Bod o'r henaf-gwragedd yr un modd mewn cyfryw ymwreddiad ac a wedde i sancteiddrwydd, nid yn enllibiaidd, nid wedi ymroi i win lawer, eich yn rhoi athrawiaeth o ddaioni,
2:4 (Fel y gallant wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog i garu eu gwŷr, i garu eu plant)
2:5 Yn bwyllog, yn ddiwair, yn aros gartref, yn dda, [ac] yn ddarostyngedig i'w gwŷr, fel na chabler gair Duw.
2:6 Cynghora wŷr ieuaingc yr un modd i fod yn bwyllog.
2:7 Ym mhob dim dangos dy hun yn siampl o weithredoedd da, [a] yn yr athrawiaeth puredd gweddeidd-dra, ac anllygredigaeth.
2:8 Ac ymadrodd iachus, yr hwn ni ellir ei feio, fel y cywilyddio yr hwn a safo yn erbyn heb ganddo ddim drwg i'w ddywedyd am danoch chwi.
2:9 [Cynghora] weision i fod yn ddarostyngedig iw meistred, ac [iw] boddhau ym mhob dim, heb ddywedyd yn eu herbyn,
2:10 Hen wneuthur twyll, eithrgan ddangos pob ffyddlondeb, fel yr harddant athrawiaeth Dduw ein Iachawdwr ym mhob peth.
2:11 Canys grâs Duw yr hwn a ddwg iechid i bob dŷn a ymddangosodd,
2:12 Ac sydd yn ein dyscu i wadu anuwoldeb a chwantau bydol, a bod i ni fyw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron,
2:13 Gan edrych am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Iachawdwr Iesu Grist,
2:14 Yr hwn ai rhoddes ei hun trosom, fel i'n pryne ni yn rhydd oddi wrth bob anwiredd, ac yn glânhae ni yn bobl briod iddo ei hun, yn awyddus i weithredoedd da.
2:15 Llefara a chynghôra hyn, ac argyoedda ag holl awdurdod: na fydded i neb dy ddirmygu.
PEN. III.
1 Vfydd-dod i'r rhai a fyddant mewn awdurdod, 9 rhybudd Titus i ymogelyd rhag cwestiwnau ynfydion a difudd, 12 am negesau nailltuoll, 15 ac anherchion.
3:1 COffa iddynt fod yn ddarostyngedic i'r tywysogaethau, ac awdurdodau, a bod yn ufydd, ac yn barod i bob gweithred dda,
3:2 Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn llednais, gan ddangos pob addfwynder i bob dŷn.
3:3 Yr oeddym ni hefyd yn annoethion, yn anufydd mewn amryfusedd, yn gwasanaethu chwantau, ac amryw feluswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn llidiog, [ac] yn casau ein gilydd.
3:4 Eithr wedi i ddaioni Duw ein Iachawdur a'i garedigrwydd i ddŷn ymddangos,
3:5 Nid o weithred cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr iachâuodd efe nyni, trwy olchiad yr ad-enedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glân,
3:6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Iachawdur.
3:7 Fel y bydde i ni wedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, gael ein gwneuthur yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragywyddol.
3:8 Ffyddlon yw 'r ymadrodd hyn, ac am y pethau hyn yr mynnwn i ti fod yn daer, ac i'r sawl a gredasant yn-Nuw, ofalu ar rhagori mewn gweithredoedd da: dymma y petheu sydd yn dda, ac yn fuddiol i ddynion.
3:9 Eithr gochel gwestiwnaû ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonnion o blegit y ddeddf, canys anfuddiol ydynt, ac ofer.
3:10 Gochel ddŷn [a fyddo] heretic wedi un rybydd, neu ddau,
3:11 Gan ŵybod fethu y cyfryw, a'i fod yn pechu yn pechu wedi ei ddamnio ei hunan.
3:12 Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tichicus, ymddyro i ddyfod attaf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aiafu.
3:13 Danfon Zenas y cyfreithiwr, ac Apollos yn ddiwyd, fel na byddo arnynt eisieu dim.
3:14 Dysced hefyd [ein] pobl ni ragori mewn gweithredoedd da, er mwyniant angenrheidiol: fel na byddant yn anffrwythlon.
3:15 Y mae y rai oll sy gyd â mi yn dy annerch y rhai a'n carant yn y ffydd. Grâs [Duw fyddo] gyd â chwi oll Amen.
¶ At Titus a ddewiswyd yn Escob cyntaf i eglwys y Cretiaid, yr scrifennwyd hwn o Nicopolis ym Macedonia.