Epystol Sanct Paul at Philemon.
PENNOD. I.
Y mae efe yn llawenychu glywed ffydd a chariad Philemon, 9 yr hwn y mae efe yn deisyfu arno faddeu iw wâs Onesimus, a'i dderbyn yn garedigol trachefn.
1:1 PAUL carcharor Iesu Grist a'r brawd Timotheus, at Philemon ein annwylyd, a'n cydweith-wr,
1:2 Ac at ein hannwyl [chwaer] Apphia, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys yr hon sydd yn dy dŷ di:
1:3 Grâs gyd â chwi a thangneddyf gan Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:4 Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan dy gofio yn oestadol yn fyng-weddiau.
1:5 (Wrth glywed dy gariad a'th ffydd yr hon sydd gennit yn yr Arglwydd Iesu, a thu ag at yr holl seinctiau)
1:6 Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd yn ffrwythlon, trwy adnabod y daioni yr hwn sydd ynoch trwy Grist Iesu.
1:7 Canys y mae gennym lawenydd mawr a diddanwch yn dy gariad di, canys trwot ti frawd, y llonwyd calonnau y seinctiau.
1:8 O herwydd pa ham er bod gennif fawr hyder yng-Hrist i orchymyn i ti y peth sydd weddus,
1:9 Er hynny o rann cariad, gwell gennif attolwg i ti, cyd bwyf fel yr ydwyf, sef Paul yr hen-wr, ac yr awr hon hefyd yn garcharor [er mwyn] Iesu Grist.
1:10 Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab Onesimus yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau,
1:11 Yr hwn ryw amser a fu i ti yn anfuddiol, eithr yr awr hon yn fuddiol i ti, ac i minne.
1:12 Yr hwn a ddanfonais trachefn, a chymmer dithe ef, sef fy ymyscaroedd mau fi.
1:13 Yr hwn a ewyllysiwn ei attal gyd â mi, fel trosot ti y gwasanaethe fi yn rhwymau yr Efengyl.
1:14 Eithr heb dy feddwl di nid ni wnawn i ddim fel na bydde dy ddaioni di megis o angen, onid o fodd.
1:15 Ond odit er mwyn hyn yr ymadawodd tros amser, fel y derbynit ef yn dragywydd;
1:16 Bellach nid fel gwâs, eithr uwch-law gwâs, [sef fel] brawd annwyl yn henwedig i mi: pa faint mwy i ti yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd?
1:17 Os wyt gan hynny yn fyng-hymmeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel fy hun.
1:18 Os gwnaeth efe niwed i ti, neu fod yn dy ddyled, cyfrif hynny arnafi.
1:19 Myfi Paul a scrifennais [hyn] â'm llaw fy hun, myfi a dalaf, megis ni ddywedaf wrthit, dy fod yn fy-nyled i am danat ty hun.
1:20 Ie frawd, myfi a'th fwynhaf di yn yr Arglwydd: llonna fy ymyscaroedd yn yr Arglwydd.
1:21 Gan ymddyried yn dy ufydd-dod yr scrifennais attat, gan wybod y gwnei fwy nag a ddywedafi.
1:22 Heblaw hyn hefyd paratoa i mi letŷ: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi i'm rhoddir i chwi.
1:23 Y mae yn dy annerch Epaphras, fyng-hyd garcharor yng-Hrist Iesu,
1:24 Marcus, Aristarchus, Demas, [a] Lucas fyng-hyd weith-wŷr.
1:25 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist [fyddo] gyd â'ch yspryd chwi. Amen.
O Rufain yr scrifennwyd hwn at Philemon gyd â'r gwâs Onesimus.