Llyfr y Prophwyd Baruch

PENNOD. I.

Baruch yn scrifennu llyfr yn amser caethiwed Babilon 10 Yr Iddewon yn anfon y llyfr o Babilon i Ierusalem, ac arian hefyd.

1:1 DYmma hefyd eiriau y llyfr a scrifennodd Baruch mab Nerias, fab Maasias, fab Sedechias, fab Asodias, fab Helias yn Babilon:
1:2 Yn y bummed flwyddyn, y seithfed [dydd] o'r mîs, yr amser yr enillodd y Caldeaid Ierusalem, ac y lloscâsant hi â thân.
1:3 A Baruch a ddarllenodd eiriau y llyfr hwn o flaen Iechonias mab Ioachim, brenin Iuda, ac o flaen yr holl bobl y rhai a ddaethent i [wrando] y llyfr:
1:4 Ac o flaen yr holl gedyrn, a holl feibion y brenin, ac o flaen yr henuriaid, ac o flaen yr holl bobl o'r lleiaf hyd y mwyaf, y rhai oll oeddynt yn trigo yn Babilon wrth afon Sodi.
1:5 Ac hwy a ŵylasant, ac a ymprydiasant, ac a weddiasant, ger-bron yr Arglwydd.
1:6 Hwy a gasclasant arian hefyd yn ôl gallu pawb:
1:7 Ac a anfonasant i Ierusalem at Ioachim fab Helchias fab Salom yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid [eraill,] ac at yr holl bobl, y rhai a geffid gyd â hwynt yn Ierusalem.
1:8 Wedi cael llestri tŷ'r Arglwydd (y rhai a ddugasid o'r deml) iw dwyn trachefn i wlâd Iuda y decfed [dydd] o Sifan, [sef] y llestri arian y rhai a wnaethe Sedechia mab Josias brenin Iuda.
1:9 Wedi caeth-gludo o Nabuchodonosor brenin Babilon Iechonias, ai dywysogion, ai gedyrn, a phobl y wlâd yn garcharorion o Ierusalem, ai dwyn hwynt i Babilon.
1:10 Ac hwy a ddywedasant, wele ni a anfonasam attoch chwi arian: prynwch chwithau a'r arian offrymmau poeth, ac [aberthau] tros bechod, ac arogl-darth, a darperwch fwyd offrwn, ac offrymmwch ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.
1:11 A gweddiwch tros hoedl Nabuchodonosor brenin Babilon, a thros hoedl Baltasar ei fab ef, ar fod eu dyddiau hwynt fel dyddiau y nefoedd ar y ddaiar.
1:12 Ac ar roddi o'r Arglwydd i ni nerth, a goleuo o honaw ef ein llygaid ni fel y byddom ni byw tan gyscod Nabuchodonosor brenin Babilon, a than gyscod Baltasar ei fab ef, ac y gwasanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafr yn eu golwg hwynt.
1:13 Gweddiwch hefyd trosom ni at yr Arglwydd ein Duw, o herwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, ac ni thrôdd ei lid ai ddîg ef oddi wrthym ni etto.
1:14 Darllenwch hefyd y llyfr ymma yr hwn a anfonasom ni attoch chwi iw draethu yn nhŷ yr Arglwydd ar ddyddiau gwylion, ac ar ddyddiau cymmwys.
1:15 A dywedwch, yr Arglwydd ein Duw ni sydd gyfiawn, i ninnau y [mae] gwarthrudd goleu fel [y mae] heddyw i ddynion [Iuda] ac i drigolion Ierusalem,
1:16 Ac i'n brenhinoedd, ac i'n tywysogion ac i'n hoffeiriaid, ac i'n prophwydi, ac i'n tadau,
1:17 Canys ni a bechasom ger bron yr Arglwydd ein Duw, ac a anghredasom iddo ef.
1:18 Ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, gan rodio yn ei orchymynnion ef y rhai a roddes efe o'n blaen ni.
1:19 Er y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau o dîr yr Aifft hyd y dydd hwn, yr ydym ni yn anghredu i'r Arglwydd ein Duw, ac ni a fuom mor ehud ac na wrandawsom ni ar ei lais ef.
1:20 Am hynny y glŷnodd drwg wrthym ni, a'r felldith yr hon a ordeiniodd yr Arglwydd wrth Moses ei wâs, y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau ni allan o dîr yr Aifft, i roddi i ni dîr yn llifeirio o laeth a mêl, fel [y gwelir] heddyw.
1:21 Ond ni wrandawsom ni ar lais yr Arglwydd ein Duw yn ôl holl eiriau y prophwydi y rhai a anfonodd efe attom ni:
1:22 Eithr ni a rodiasom bob un wrth feddwl ei galon ddrygionus ei hun gan wasanaethu duwiau dieithr, a gwneuthur drygioni yng-olwg yr Arglwydd ein Duw.

PEN. II.

Y mae y bobl yn cyfaddef eu beiau am na chredasent i'r Argleyff, ac na wasanaethasent frenin Babilon fel yr archase efe.

2:1 AM hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air yr hwn a lefarodd efe wrthym ni, ac wrth ein barn-wŷr y rhai a farnent Israel, ac wrth ein brenhinoedd, ac wrth ein tywysogion ac wrth wŷr Israel ac Iuda;
2:2 Gan ddwyn arnom ni ddryg-fyd mawr, megis na bu tann y nefoedd fel y mae yn Ierusalem, yn ôl yr hyn a scrifennwyd yng-hyfraith Moses:
2:3 Y bwytae dyn gnawd ei fab ei hun, a chnawd ei ferch ei hun.
2:4 Efe hefyd ai rhoddes hwynt yn weision caethion i'r holl deyrnasoedd y rhai [a ydynt] o'n hamgylch ni, i fod yn wradwyddus ac yn anghyfannedd ymysc yr holl bobloedd y rhai a ydynt o'n hamgylch, lle y gwascarodd yr Arglwydd hwynt.
2:5 Felly i'n dygwyd ni i wared, ac nid i fynu, am bechu o honom ni yn erbyn yr Arglwydd ein Duw heb wrando ar ei lais ef.
2:6 Ein Harglwydd Dduw sydd gyfiawn: i ninnau ac i'n tadau [y mae] gwarthrudd goleu, fel [y gwelir] heddyw:
2:7 Yr Arglwydd a ddychymygodd yr holl ddrygau hyn, y thai a ddaethant arnom ni.
2:8 Ac ni weddiasom ni ger bron yr Arglwydd ar droi o bob un oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.
2:9 Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd am ddrygfyd, ac ai dug arnom ni: o blegit cyfiawn yw'r Arglwydd yn ei holl weithredoedd y rhai a orchymynnodd efe i ni.
2:10 Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, gan rodio yn ei orchymynnion ef y rhai a roddes efe o'n blaen ni.
2:11 Ac yn awr ô Arglwydd Dduw Israel yr hwn a ddugaist dy bobl allan o dir yr Aipht trwy law gadarn, trwy arwyddion a rhyfeddodau a thrwy allu mawr a braich estynnedic, ac a wnaethost i ti enw fel [y gwelir] heddyw;
2:12 O ein Harglwydd Dduw, nyni a bechasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl gyfiawnder di.
2:13 Troer [attolwg] dy lid ti oddi wrthym ni, o herwydd ychydig a adawed o honom ni ym mysc y cenhedloedd lle y gwasceraist nyni.
2:14 Gwrando Arglwydd ein gweddi a'n deisyf, a rhyddhâ ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yng-olwg y rhai a'n caethgludasant ni,
2:15 Fel y gŵypo pob gwlad mai ti ydwyt yr Arglwydd ein Duw ni, [ac] mai ar dy enw di y geilw Israel ai genedl.
2:16 Edrych i lawr o'th dŷ sanctaidd, meddwl am danom ni, gostwng dy glust ô Arglwydd a gwrando.
2:17 Agor dy lygaid, a gwêl o herwydd nid y meirw yn uffern y rhai y dygwyd eu heneidiau ai cyrph a roddant gogoniant a chyfiawnder i'r Arglwydd:
2:18 Eithr yr enaid yr hwn sydd athrist am amldra [ei anwiredd] yr hwn sydd yn peri iddo fyned yn grwm, ac yn llesc: a'r llygaid palledic, a'r enaid newynog a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti ô Arglwydd.
2:19 O blegit nid am gyfiawnder ein tadau a'n brenhinoedd yr ydym ni yn tywallt ein gweddi ger dy fron di ein Harglwydd Dduw,
2:20 [Eithr] am anfon o hont dy lid a'th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y prophwydi gan ddywedyd:
2:21 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gostyngwch eich yscwyddau a'ch gwarrau, a gwasanaethwch frenin Babilon, fel yr arhosoch yn y wlâd yr hon a roddais i i'ch tadau chwi.
2:22 Ac oni wrandewch ar lais yr Arglwydd gan wasanaethu brenin Babilon,
2:23 Mi a wnaf ddinistr yn ninasoedd Iuda, ac allan o Ierusalem [y torraf ymmaith] lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priod-ferch; a'r holl wlâd a fydd anghyfannedd heb drigolion.
2:24 Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di gan wasanaethu brenin Babilon, am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau y rhai a leferaist trwy wenidogaeth dy weision y prophwydi [sef] y dugid escyrn ein brenhinoedd, ac escyrn ein tadau oi lle.
2:25 Ac wele hwynt a daflwyd allan ymg-wrês y dydd, ac yn oerni y nôs, ac a fuant feirw mewn gofid mawr trwy newyn a chleddyf, ac mewn herwriaeth.
2:26 Dy dŷ hefyd (lle y gelwid ar dy enw) a wrthodaist di, fel [y gwelir] heddyw, am ddrygioni tŷ Israel a thŷ Iuda.
2:27 A thi a wnaethost â ni o Arglwydd ein Duw yn ôl dy gyfiawnder oll, ac yn ôl dy fawr drugaredd oll.
2:28 Fel y lleferaist trwy dy wâs Moses y dydd y gorchymynnaist ti iddo scrifennu dy gyfraith di o flaen meibion Israel gan ddywedyd,
2:29 Oni wrandewch chwi ar fy llais i, y dyrfa fawr luosoc hon a droir yn ddiau yn ychydic ym mysc y cenhedloedd lle y gwascaraf fi hwynt.
2:30 Er hynny mi a wn na wrandawant hwy arnafi; o blegit pobl wargaled ydynt hwy: eithr yn y tîr lle y caethgludir hwynt y meddyliant am danynt eu hun,
2:31 Ac y gwybyddant mai myfi ydwyf eu Harglwydd Dduw hwynt pan roddwyf fi iddynt hwy galon [i deall,] a chlustiau i wrando.
2:32 Yna i'm moliannant i yn y wlâd lle y caeth-gludir hwynt, ac y cofiant fy enw i.
2:33 Ac y troant oddi wrth eu hanufydd-dod ai drwg weithredoedd, o blegit mi a gofiaf ffordd eu tadau y rhai a bechasant yng-ŵydd yr Arglwydd.
2:34 Felly y dygaf hwynt drachefn i'r tîr yr hwn trwy lw a addewais i iw tadau hwynt i Abraham, i Isaac, ac i Iacob, a hwy ai meddiannant, ac mi ai hamlhaf hwynt, ac ni's lleiheir hwynt.
2:35 A mi a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, ac y byddant hwythau yn bobl i mi, ac ni symudaf mwyach fy mhobl Israel o'r tîr yr hwn a roddais iddynt hwy.

PEN. III.

Gweddi y bobl am eu rhyd-dyd, 9 clôd doethineb, 36 Duw yn vnic awdur i ddoethineb, 37 ganedigaeth Crist,

3:1 O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel y mae yr enaid [yr hwn sydd] mewn ing a'r yspryd cystuddiol yn llefain arnat ti.
3:2 Clyw Arglwydd a thrugarha, o blegit Duw trugaroc ydwyt ti: cymmer drugaredd o blegit nyni a bechasom i'th erbyn.
3:3 O herwydd yr ydwyt ti yn aros byth, a derfydd am danom ninnau yn dragywydd.
3:4 O Arglwydd holl-alluog, Duw Israel gwrando ar weddi y rhai a fuant feirw o Israel, a [gweddi] eu meibion hwynt y rhai a bechasant i'th erbyn di, ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd eu Duw, o ba achos y glynodd y dialeddau hyn wrthym ni.
3:5 Na chofia anwireddau ein tadau ni, eithr cofia dy allu a'th enw dy hun y prŷd hyn.
3:6 O herwydd tydi [ydwyt] ein Harglwydd Dduw ni, a thydi ô Arglwydd a foliannwn ni.
3:7 O blegit er mwyn hyn y rhoddaisti dy ofn yn ein calonnau ni [sef] er mwyn galw [o honom ni] ar dy enw di a'th foliannu yn ein caethiwed, a meddwl am holl anwiredd ein tadau y rhai a bechasant ger dy fron di.
3:8 Wele ni etto yn ein caethiwed lle y gwasceraist ti nyni [i fod] yn waradwyddus yn felldigedic, ac yn drethoc yn ôl holl anwireddau ein tadau ni y rhai a enciliasant oddi wrth yr Arglwydd ein Duw ni.
3:9 Clyw ô Israel orchymynnion y bywyd, gwrando i gael gwybod doethineb.
3:10 Paham Israel yr ydwyt ti yn nhir dy elynnion? yr heneiddiaist ti mewn gwlad ddieithr? [ac] i'th halogwyt gan y meirw?
3:11 [Pa ham] i'th gyfrifwyd gyd â'r rhai [a aethant] i uffern?
3:12 [Am] adel o honot ffynnon doethineb.
3:13 Pe rhodiessit ti yn ffordd Dduw, ti a drigesit mewn heddwch byth.
3:14 Dysc pa le y mae doethineb, pa le y mae grymmusdra, pa le y mae deall, i gael gwybod hefyd pa le y mae hir hoedl, ac enioes, pa le y mae goleuni llygaid, a thangneddyf.
3:15 Pwy a gafodd ei lle hi? a phwy a aeth i mewn iw thryssorau hi?
3:16 Pa le y mae tywysogion y cenhedloedd, a llywodraeth-wŷr yr anifeiliaid y rhai ydynt ar y ddaiar,
3:17 Y rhai oeddynt yn chwarae ag adar y nefoedd, ac yn tyrru arian, ac aur, yn yr hwn yr ymddiried dynion, ac nid oes diben ar eu ceisio hwynt y rhai a fathent arian, a [hynny] mor ofalus ac nad oedd diben ar eu gwaith hwynt? (sic!)
3:19 Hwy a ddifethwyd ac a ddescynasant i uffern: a rhai eraill a godasant yn eu lle hwynt.
3:20 Yn ieuainc y gwelsant hwy oleuni, ac a arhoesant ar y ddaiar: ond nid adnabuant hwy ffordd gwybodaeth.
3:21 Ei llwybrau hi ni ddehallasant hwy chwaith, ai plant ni dderbyniasant hi, pell oedd hi oddi ar ei ffordd hwynt.
3:22 Ni chlywyd sôn am dani hi yn Chanaan ac ni welwyd hi yn Theman.
3:23 Yr Hagareniaid ydynt yn ceisio deall yn ddaiarol fel marchnadwyr y wlad, y Themaniaid ydynt yn chwedlaua am, ac yn ceisio deall ond nid adwaenant hwy ffordd doethineb, ac ni feddyliasant am ei llwybrau hi.
3:24 O Israel mor fawr yw tŷ Duw, ac mor helaeth yw ei feddiant ef.
3:25 Mawr [yw efe] ac nid oes diwedd iddo ef: uchel yw efe ac anfeidrol.
3:26 Yna yr oedd y cewri enwoc y rhai a oeddynt gynt yn gorphol ac yn medru rhyfela.
3:27 Nid y rheini a ddewisodd Duw, ac ni roddes iddynt [gael] ffordd gwybodaeth.
3:28 Am hynny difethwyd hwy am nad oedd ganddynt ddoethineb: o ynfydrwydd y methasant hwy.
3:29 Pwy a ddringodd i'r nefoedd ac ai cymmerodd hi, ac ai dugodd hi o'r cwmylau?
3:30 Pwy a aeth dros y môr ac ai cafodd hi, ac ai dug hi o flaen aur o'r goref?
3:31 Nid oes neb yn adnabod ei ffordd hi, nac yn ystyried ei llwybr hi.
3:32 Ond yr hwn a ŵyr bob peth ai hedwyn hi [a] thrwy ei ddoethineb ai cafodd hi, yr hwn a ddarparodd y ddaiar tros amser tragywyddol, [ac] ai llanwodd hi ag anifeiliaid pedwarcarnol:
3:33 Pan anfono efe oleuni allan fe a aiff, a phan ei galw ef, efe a ufyddha mewn ofn.
3:34 Y sêr a oleuasant yn eu gwyliadwriaethau yn llawen: efe ai galwodd hwynt, ac hwy a ddywedasant: dymma ni, goleuasant yn llawen i'r hwn ai gwnaeth hwynt.
3:35 Dymma ein Duw ni, na chyffelyber [neb] arall iddo ef.
3:36 Efe a gafodd allan ffordd gwybodaeth, ac ai rhoddes hi i Iacob ei was, ac i Israel ei annwylyd.
3:37 Wedi hyn yr ymddangosodd efe ar y ddaiar, ac y trigodd ym mysc dynion.

PEN. IIII.

Gwobr y rhai a gadwant a chosp y rhai a dorrant y gyffraith (sic!).

4:1 DYmma lyfr gorchymynnion Duw, a'r gyfraith a beru byth: y rhai oll ai cadwant hi [a ddeuant] i fywyd, a'r rhai ai gadawant hi a ledddir.
4:2 Dychwel Iacob, ac ymafl ynddi hi: rhodia mewn goleuni wrth ei llewyrch hi.
4:3 Na ddot dy ogoniant i arall: na'r budd i genedlaeth arall.
4:4 Gwyn ein byd ni Israel am fod yn hyspys i ni y pethau a rygluddant fodd i Dduw.
4:5 O fy mhobl, coffadwriaeth Israel cymmer gyssur.
4:6 Chwi a werthwyd i'r cenhedloedd nid i'ch difetha, ond o herwydd i chwi annog Duw i ddig y rhoddwyd chwi i'ch gelynion.
4:7 O herwydd chwi a ddigiasoch yr hwn a'ch gwnaeth chwi, gan offrymmu i gythreiliaid ac nid i Dduw.
4:8 Anghofiasoch Dduw tragywyddol: eich tâd a'ch mammaeth Ierusalem a wnaethoch chwi yn drist.
4:9 O blegit hi a welodd y dig a oedd yn dyfod arnoch chwi, ac a ddywedodd, gwrandewch, cymydogion Sion, dygodd Duw arnafi dristwch mawr.
4:10 O herwydd mi a welais gaethiwed fy meibion a'm merched: yr hon a ddug y tragywyddol [Dduw] arnynt hwy.
4:11 Canys yn llawen y megais i hwynt: eithr trwy wylofain a thristwch yr ymadawaf â hwynt.
4:12 Na lawenyched neb o'm plegit i yr hon ydwyf weddw, ac a wrthododd llawer: anghyfannedd ydwyfi o achos pechodau fy mhlant am gilio o honynt hwy oddi wrth gyfraith Dduw.
4:13 Nid adwaenant hwy ei gyfiawnder ef, ac ni rodient hwy yn ffyrdd gorchymynnion Duw, ac ni ddringasant lwybrau dysc yn ei gyfiawnder ef.
4:14 Deued cymmydogion Sion, cofiwch gaethiwed fy meibion a'm merched yr hon a ddug y tragywyddol [Dduw] arnynt hwy.
4:15 O herwydd efe a ddug yn ei herbyn hwynt genhedlaeth o bell, cenhedlaeth annuwiol ag o iaith arall: y rhai ni pharchent yr hen, ac nid arbedent yr ieuangc.
4:16 Hwythau a ddygasant ymmaith annwylyd y weddw, ac a wnaethant yr unic yn ang-hyfannedd heb ferched.
4:17 A pha help a allaf fi i chwi?
4:18 O blegit yr hwn a ddug adfyd arnoch chwi a'ch gwared chwi o law eich gelynion.
4:19 Ymmaith a chwi, ymmaith a chwi [fy] mhlant, o blegit fo'm gadawyd i yn ang-hyfannedd.
4:20 Mi a ddioscais wisc tangneddyf a gwiscais sachliain fyng-weddi: tra fyddwyf fi byw y llefaf ar [Dduw] tragywyddol.
4:21 Cymmerwch gyssur blant, llefwch ar yr Arglwydd, ac efe a'ch gwared chwi oddi wrth gadernid [sef] o ddwylo eich gelynion chwi.
4:22 O herwydd y mae gennif fi obaith byth o'ch iechydwriaeth chwi, ac fe a ddaeth i mi lawenydd oddi wrth yr hwn sydd sanctaidd, o herwydd y drugaredd yr hon a ddaw i chwi yn fuan gan ein tragywyddol iachawdwr.
4:23 O blegit trwy dristwch ac wylofain y ymadewais, eithr Duw a'ch rhydd chwi i mi drachefn trwy lawenydd a hyfrydwch byth.
4:24 Megis ynawr y gwelodd cymydogion Sion eich caethiwed chwi, felly ar fyrder y gwelant eich iechydwriaeth chwi yn Nuw, yr hon a ddaw i chwi trwy ogoniant mawr a harddwch tragywyddol.
4:25 O [fy] mhlant cymmerwch yn ddioddefgar y dicter a ddaw i chwi oddi wrth Dduw, o herwydd y gelyn a'th erlidiodd di, ac ar fyrder ti a gei weled ei ddinistr ef ac a sethri ar ei wddf ef.
4:26 Fy annwylyd a aethant rhyd ffyrdd geirwon, hwy a ddygwyd ymmaith fel praidd yr hwn a sclyfaethe gelynion.
4:27 Cymmerwch gyssur fy mhlant, a gelwch ar Dduw: o blegit y mae yr hwn a'ch dug chwi ymmaith yn meddwl am danoch chwi.
4:28 Megis y bu eich meddwl chwi ar gyrwydro oddi wrth Dduw, felly bydded yn ddec mwy ar droi iw geisio ef.
4:29 O blegit yr hwn a ddug y drygfyd i chwi a ddwg i chwi gyd a'ch iechydwriaeth lawenydd tragywyddol.
4:30 Cymmer gyssur Ierusalem, y mae yr hwn a'th henwodd di yn dy gyssuro.
4:31 Gwae y rhai a wnaethant niwed i ti, ac a fu lawen ganddynt dy gwymp di.
4:32 Gwae y dinasoedd y rhai y gwnaeth dy blant wasanaeth iddynt, gwae yr hon a gymmerodd dy feibion di [oddi wrthit.]
4:33 O blegit megis y mae yn llawen ganddi dy gwymp di, ac yn hyfryd ganddi dy dramgwydd di, felly y bydd hi athrist o blegit ei hang-hyfannedd-dra ei hun:
4:34 Canys mi a dorraf ymmaith lawenydd ei gwerin, ai ffrost hi a fydd yn dristwch.
4:35 O herwydd tân a ddaw arni hi tros hir ddyddiau oddi wrth [Dduw] tragywyddol, a chythreiliaid a breswyliant ynddi amser mawr.
4:36 Edrych ô Ierusalem, tu ar dwyrain, a gwel yr hyfrydwch yr hwn sydd yn dyfod i ti gan Dduw.
4:37 Wele y mae dy feibion y rhai yr ymadewaist â hwynt yn dyfod, y maent hwy yn dyfod wedi eu casclu o'r dwyrain hyd y gorllewyn [ac] yn llawnychu yng-air yr hwn syd (sic!) sanctaidd er gogoniant i Dduw.

PEN. V.

Llawenydd Ierusalem am lawenydd ei phobl o gaethiwed.

5:1 O Ierusalem diosc wisc dy alar a'th dristwch, a gwisc harddwch y gogoniant yr hwn sydd oddi wrth Dduw yn dragywydd.
5:2 Duw a wisc bais cyfiawnder am danat ti [ac] a esyd ar dy ben di goron gogoniant tragywyddol;
5:3 O blegit Duw a ddengis dy ddisclaerdeb di i bob [cenhedlaeth] tann y nefoedd.
5:4 Canys Duw a eilw dy enw di byth, heddwch cyfiawnder, a gogoniant duwioldeb.
5:5 Cyfot Ierusalem a saf yn uchel ac edrych tu a'r dwyrain, a gwel dy blant wedi eu casclu o fachludiad haul hyd ei godiad trwy air yr hwn sydd sanctaidd [ac] yn llawen ganddynt goffau Duw.
5:6 Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthit ti, ai gelynion ai dugasant hwynt ymmaith: eithr Duw ai dwg hwynt attat ti wedi eu derchafu mewn gogoniant fel meibion brenin.
5:7 O blegit Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd uchel a'r brynniau tragywyddol, a llenwi y pantoedd yn ogystwch a'r ddaiar fel y gallo Israel rodio yn ddiogel er gogoniant i Dduw.
5:8 Y coedydd a phob pren aroglbêr a fuant lawen tros Israel wrth orchymyn Duw.
5:9 O herwydd Israel a ddygir [adref] yn llawen yng-oleuad ei ogoniant ef yng-hyd â thrugaredd, a'r cyfiawnder yr hwn sydd oddi wrtho ef.

PEN. VI.

Copi o'r llythyr a anfonodd Ieremi at y rhai a gaethglude brenin y Babiloniaid i Babilon i fynegu iddynt hwy yr hyn a orchymynnase Duw iddo ef.

6:1 O Blegit y pechodau y rhai a wnaethoch chwi yn erbyn Duw, y dwg Nabuchodonosor brenin Babilon chwi yn garcharorion i Babilon.
6:2 Felly pan ddeloch chwi i Babilon chwi a fyddwch yno flynyddoedd lawer ac amser hir, [sef] nes bod saith genhedlaeth: wedi hynny mi a'ch dygaf chwi allan oddi yno mewn heddwch.
6:3 Yna y gwelwch chwi yn Babilon dduwiau o arian ac aur a phrennau y rhai a ddygir ar escwyddau, ac a yrrant ofn ar y cenhedloedd.
6:4 Gwiliwch chwithau rhag bod yn debig i'r dieithriaid hynny, ac ofni o honoch chwithau hwynt.
6:5 Pan weloch chwi y cenhedloedd yn eu haddoli hwynt oi blaen ac oi hôl, dywedwch chwithau yn eich meddwl, tydi ô Arglwydd ddylid ei addoli.
6:6 Canys fy angel mau fi a fydd gyd â chwi minne hefyd a ymorolaf am eich eneidiau chwi.
6:7 Y saer a drwsiodd eu tafod hwynt, ai goreurodd hwythau ac ai gorchguddiod ag arian, er hynny pethau gau ydynt hwy, ac ni allant lefaru.
6:8 Hwy a gymmerant aur, ac ai gweithiant megis i langces yn hofii gwychter:
6:9 [Gosodant] goronau ar bennau eu duwiau, ac weithieu y dwg yr offeiriaid aur ac arian oddi ar eu duwiau ac ai treuliant arnynt eu hun.
6:10 Rhoddant hefyd ohonynt hwy i'r puteiniaid y rhai a fyddant yn tŷ, [yna]ac y trwssiant hwynt mewn gwiscoedd megis dynion [sef] y duwiau o arian ac aur a phrennau.
6:11 Er hynny ni allant hwy ymachub oddi wrth rwd a phryfed
6:12 Wedi eu gwisco hwynt mewn porphor fe a fydd rhau yn sychu eu hwyneb hwynt, o blegit y llwch yn y tŷ yr hwn a fydd yn aml arnynt hwy.
6:13 [Gan un o honynt hwy] y bydd teyrn-wialen, fel gŵr yn barnu gwlâd: ond ni ddichon efe ladd yr hwn a becho yn ei erbyn ef.
6:14 [Gan arall] y bydd cleddyf neu fwyall yn ei law ddehau, er hynny ni ddichon efe ei wared ei hun rhag rhyfel neu ladron.
6:15 Wrth hyn y mae yn amlwg nad ydynt hwy dduwiau, am hynny nac ofnwch hwynt.
6:16 O herwydd megis ni thâl llestr dyn wedi ei dorri ddim, felly y mae eu duwiau hwynt: wedi eu gosod hwynt mewn tai, traed y rhai a ddeuant i mewn a lanwant eu llygaid hwynt o lwch.
6:17 Ac megis y caeir y cynteddoedd ar yr hwn a wnelo yn erbyn y brenin neu ar un wedi ei ddwyn i farwolaeth, felly y mae yr offeiriaid yn cadw eu temlau hwynt â dorau â throssolion, ac â chloau rhag i ladron eu speilio hwynt.
6:18 Hwy a osodant ganhwyllau oi blaen fwy nag oi blaen eu hun, ac ni allant hwy weled un canys fel cyff y maent wy yn y deml.
6:19 Yr ydys yn dywedyd fod y seirph y rhai sy yn dyfod o'r ddaiar yn cnoi eu calonnau hwynt, ac yn eu bwyta hwynt ai gwiscoedd, a hwythau heb ŵybod.
6:20 Y mae eu hwynebau hwynt wedi duo gan y mwg yn y deml.
6:21 Y dylluanod a'r gwennoliaid a'r adar [eraill] a hedant ar eu cyrph ai pennau hwynt, felly y cathod hefyd.
6:22 Wrth hyn y bydd hyspys i chwi nad duwiau ydynt hwy: nac ofnwch chwithau hwynt.
6:23 O blegit yr aur yr hwn sydd amdanynt hwy sydd yn harddwch iddynt hwy, oni sych rhyw un y rhŵd ni ddiscleiriant hwy, a phan doddwyd hwynt ni wybuant hwy oddi wrth hynny.
6:24 Am bob gwerth y gellir eu pynu hwy yn y rhai nid oes anadl.
6:25 [Fel rhai] heb draed yr arweinir hwynt ar yscwyddau, [felly] y maent hwy yn dangos i ddynion eu gwaelder, gwradwyddus fyddo y rhai ai gwasanaethant hwy.
6:26 O blegit os syrth [un ohonynt] hwy un amser i lawr ni chyfyd efe o honaw ei hun, os gesid un ef yn ei iniawn sefyll, ni sylf efe o honaw ei hun, eithr y mae yn rhaid rhoi annelion tanynt hwy megis tan rai meirw.
6:27 Y mae eu hoffeiriaid yn gwerthu eu haberthau hwynt, ac yn eu cam arfer: felly y mae y gwragedd yn arlwy [peth] o honynt hwy heb roddi dim i'r tlawd a'r gwan.
6:28 Y mae y rhai misglwyfus a'r rhai etifyddoc yn cyffwrdd ai haberthau hwynt: gwybyddwch wrth hynny nad duwiau ydynt hwy, ac nac ofnwch hwynt.
6:29 Pa ham gan hynny y gelwir hwynt yn dduwiau gan fod y gwragedd yn gosod [offrymmau] o flaen y duwiau o arian ac aur a phrennau?
6:30 Y mae yr offeiriaid yn eistedd yn eu temlau hwynt ai gwiscoedd wedi eu rhwygo, ai pennau, ac ai barfau wedi eu heillio, ac yn bennoethion.
6:31 Y maent hwy yn rhuo, ac yn gweiddi o flaen eu dduwiau fel rhai yng-wledd y marw.
6:32 Y mae yr offeiriaid yn cymmeryd oi gwiscoedd hwynt, ac yn gwisco eu gwragedd ai plant.
6:33 Os da os drwg a gâant hwy, ni allant hwy dalu y pwyth: ni allant na gwneuthur brenin nai ddiswyddo ef.
6:34 Yr un modd ni allant hwy roddi na chyfoeth nac arian: os adduneda un adduned heb ei thalu ni's gofynnant hwy.
6:35 Ni waredant hwy ddyn oddi wrth angeu, ac nid achubant y gwan rhag y cadarn.
6:36 Ni roddant ei olwg i'r dall drachefn, ac ni waredant y dyn a fyddo mewn angen.
6:37 Ni ddangosant hwy drugaredd i'r weddw, na ddaioni i'r ymddifad.
6:38 Fel y cerrig [a ddygir] o'r mynydd y mae eu duwiau o brennau, o aur, ac o arian: y rhai ai anrhydeddant hwynt a waradwyddir.
6:39 Pa fodd gan hynny y meddyliir ne y dywedir eu bod hwynt yn dduwiau?
6:40 Y mae y Caldeaid eu hunain yn eu dibrisio hwynt y rhai pan welant un heb fedru dywedyd ai dygant ef at Bel,
6:41 Ac a ddeisyfiant beri iddo ef lefaru fel pe galle efe lefaru ei hun, ac er eu bod yn deall ni fedrant beidio â hwynt am nad oes ganddynt synnwyr.
6:42 Y gwragedd, wedi eu gwregusu â rheffynnau a eisteddant yn yr heolydd yn llosci gwellt.
6:43 Pan ddyger un o honynt hwy a gorwedd gyd ag un o'r rhai a elont heibio, hi a edliwia iw chymmydoges na thybiwyd yn gystal o honno, ac o honi hi, ac na ddattodwyd ei rheffyn hithe.
6:44 Gau yw yr hyn oll a wnaed ynddynt hwy: pa fodd gan hynny y meddylir ne y dywedir mai duwiau ydynt hwy?
6:45 Seiri a gofaint ai gwnaethant hwy, ni byddant hwy ddim ond a fynno y seiri iddynt hwy fod.
6:46 Ni bydd hir hoedloc y rhai ai gwnant hwy: pa fodd yntef y bydd y pethau a wnelo y rhai hynny yn dduwiau?
6:47 Gadawsant oferedd a gwaradwydd i rhai a ddeuant ar eu hol hwy:
6:48 Pan ddelo rhyfel neu ddrygfyd arnynt hwy yna y meddwl yr offeiriaid rhyngthynt a hwynt eu hun, pa le yr ymguddiant gyd â hwy.
6:49 Pa fodd gan hynny y gellir tybied mai dduwiau yw y rhai nid ymachubant eu hunain rhag rhyfel a drygfyd?
6:50 Gan mai prenniau, aur, ac arian ydynt hwy yspys fydd wrth hynny, i'r holl genhedloedd mai ofer ydynt hwy, ac amlwg fydd i'r holl frenhinoedd nad duwiau ydynt hwy, eithr gwaith dwylo dynion heb ddim o waith Duw arnynt hwy.
6:51 Pwy gan hynny ni's gŵyr nad ydynt hwy dduwiau?
6:52 Ni osodant hwy frenin ar wlad, ac ni roddant hwy law i ddynion.
6:53 Nid ydynt hwy yn medru barnu materion: ni allant achub rhag cam, mor wan ydynt hwy fel brain rhwng nef a daiar.
6:54 Pan ddamweinio tân yn nheml y dduwiau o goed, neu o aur, neu o arian, yna eu hoffeiriaid hwynt a ffoant, ac ddiangant: hwythau a loscant, fel y swmmer brennau.
6:55 Ni wrthwynebant hwy frenin ne ryfelwyr, pa fodd gan hynny y gellir tybied ne gredu mai duwiau ydynt hwy?
6:56 Y duwiau o brennau, ac o arian, ac o aur ni allant ddiang gan na lladron na gwilliaid.
6:57 Rhai cryfach nâ hwynt a ddygant yr aur a'r arian a'r gwiscoedd y rhai a fyddant am danynt hwy, ac wedi eu cael, a ânt ymmaith, ac ni allant hwy help iddynt eu hun.
6:58 Felly gwell yw bod yn frenin yn dangos ei gadernid, neu yn lestr buddiol mewn tŷ yr hwn yr arfero ei berchennocf, neu yn ddôr ar dŷ yn cadw y pethau a fyddant yno, neu yn golofn bren mewn brenhin-dŷ, na bod yn un o'r gau dduwiau.
6:59 Yr haul, a'r lleuad, a'r sâr am eu bod yn oleu, ai hanfon i wneuthur lles, a ydynt ufydd:
6:60 Felly y mae y fellten ynddisclair pan ymddangoso hi.
6:61 Y gwynt a chwyth ym mhob gwlad, a phan orchymynno Duw i'r cwmylau fyned o amgylch y byd, hwy a gyflawnant y gorchymyn.
6:62 Pan anfoner y tân oddi uchod i anrheithio mynyddoedd a choedydd, efe a wna y gorchymyn: ond y rhai hyn nid ydynt debig i'r rhai hynny, nac mewn prŷd nac mewn gallu.
6:63 Am hynny ni ellir na meddwl na dywedyd eu bod hwynt yn dduwiau, gan na's gallant hwy na rhoddi barn na gwneuthur lles i ddynion.
6:64 Gan eich bod yn awr yn gwybod nad ydynt hwy dduwiau, nac ofnwch hwynt.
6:65 O blegit ni allant hwy ddywedyd nac yn ddrwg, nac yn dda am frenhinoedd;
6:66 Ni allant hwy ddangos arwyddion yn y nefoedd ym mysc y cenhedloedd: na thywyn haul na llewyrch lleuad.
6:67 Y mae yr anifeiliaid (y rhai a ffoânt i ddiddos i wneuthur lles iddynt eu hun) yn well na'r rhai hyn.
6:68 Felly nid yw amlwg trwy fodd yn y byd eu bod hwynt yn dduwiau: am hynny nac ofnwch hwynt.
6:69 Megis mewn gardd lysiau nid yw yr hudwg yn cadw dim, felly y mae eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian ar un dull.
6:70 Eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian a ydynt fel spyddaden mewn perllan ar yr hon y descyn pob aderyn, ac yn debyg i un marw wedi ei fwrw mewn tywyllwch.
6:71 Wrth y porphor a'r gwychder yr hwn sydd yn pydru am danynt hwy y gellwch chwi wybod nad ydynt hwy dduwiau: hwythau o'r diwedd a yssir, ac anniwarthrwydd fydd yn y wlad.
6:72 Am hynny gwell yw'r gŵr cyfiawn yr hwn nid oes ganddo ddelwau, o blegit pell fydd efe oddi wrth wradwydd.

Terfyn Baruch.