Can y tri llangc, y rhai a fwriwyd i'r ffwrn boeth loscadwy: yr hon sydd yn canlyn y drydedd wers ar hugain o'r trydydd pennod i Ddaniel.
3:24 Ac hwyntwy a rodiassant yng-hanol y fflam, gan foliannu Duw, a bendithio'r Arglwydd.
3:25 Ac Azarias yn sefyll a weddiodd fel hyn, ac a agorodd ei enau yng-hanol y tân, gan ddywedyd,
3:26 Bendigedig wyt ô Arglwydd Dduw ein tadau, ie canmoladwy a gogoneddus yw dy enw yn dragywydd.
3:27 Canys cyfiawn wyt ti ym mhob peth a'r a wnaethost i ni: a'th holl weithredoedd sy ffyddlon, dy ffyrdd hefyd ydynt iniawn, a'th holl farnau mewn gwirionedd.
3:28 Canys barnau gwirionedd a wnaethost yn yr holl bethau a ddugost arnom, ac ar ddinas sanctaidd ein tadau [sef] Ierusalem, o achos mewn gwirionedd a barn y dugaist hyn oll arnom am ein pechodau.
3:29 Canys pechasom, a gwnaethom yn anghyfreithlon, drwy ymwrthod â thydi, ac ym mhob peth ni a wnaethom ar fai,
3:30 A'th orchymynnion di ni's gwrandawsom, ac ni's cadwasom: ac ni wnaethom y modd yr archessit i ni, fel y bydde i ni yn ddaionus.
3:31 A chwbl a'r a ddugost arnom, a chwbl a'r a wnaethost i ni, mewn gwir farn y gwnaethost oll.
3:32 Ac a'n rhoddaist yn nwylo ein gelynion anwir, a'n casaf fradych-wŷr, a'r brenin anghyfiawn gwaethaf ar yr holl ddaiar.
3:33 Ac yn awr ni allwn agori ein geneuau, yn gywilydd a gwradwydd i'n gwnaethbwyd i'th weision di a'r rhai a'th addolant.
3:34 Na fwrw ni ymmaith yn gwbl er mwyn dy enw: ac na ddiddymma dy gyfammod.
3:35 Ac na thyn dy drugaredd oddi wrthym, er mwyn Abraham dy annwylyd: ac er mwyn Isaac dy wâs, ac Israel dy sanctaidd;
3:36 Y rhai y ymddiddenaist wrthynt, gan ddywedyd, yr amlhâit eu hâd hwynt fel sêr y nef, ac fel y tywod yr hwn sydd gerllaw min y môr.
3:37 Etto Arglwydd yr ydym wedi ein lleihau tu hwnt i bob cenhedlaeth: ac yr ydym heddyw wedi ein tynnu i lawr ym mhob gwlad am ein pechodau.
3:38 Ac nid oes y pryd hyn, na phennaeth, na phrophwyd, na blaenor, na phoeth offrwm, nac aberth, na blaenffrwyth, nac arogl, na lle i offrwm blaenffrwyth ger dy fron di, modd y gallem gael dy drugaredd.
3:39 Etto yn enaid drylliedig, ac yn ysbryd gostyngeiddrwydd derbynier ni.
3:40 Megis o herwydd ebyrth hyrddod, a theirw, ac fel o herwydd myrddiwn o ŵyn breision: felly heddiw bydded ein hoffrwm ni yn dy olwg di iryglyddu bodd i ti: canys nid oes wradwydd i'r rhai a ymddyriedant ynot ti.
3:41 Ac yr awran y dilynwn di a'n holl galon, ac yr ofnwn di, ac y ceissiwn dy wyneb-pryd.
3:42 Na ddod ni yn wradwydd; eithr gwna â ni yn ol di addfwynder, ac yn ôl amlder dy dru-/drugaredd (sic!).
3:43 Ac achub ni yn ôl dy ryfeddodau ô Arglwydd, a dod ogoniant i'th enw.
3:44 A chywilyddier hwynt oll a'r sy yn amcanu drwg i'th weision: a syrthiant yn wradwyddus oddi wrth bob gallu, ai nerth a ddryllier.
3:45 Fel y cydnabyddant mai tydi sydd Arglwydd, unic Dduw, a gogoneddus drwy yr holl fyd.
3:46 Ac ni orphywysodd gweinidogion y brenin, y rhai ai bwriasent hwynt [i mewn] a phoethi'r ffwrn â naphtha, â ffŷg, â charth, ac â briwydd.
3:47 A'r fflam a daflodd uwch law yr ffwrn, naw cufydd a deugain.
3:48 A hi a ruthrodd ac a loscodd y Caldeaid y rhai a gyrhaeddodd hi yng-hylch y ffwrn.
3:49 Eithr Angel yr Arglwydd a ddescynnodd i'r ffwrn gyd â Azarias,
3:50 Ac a daflodd fflam y tân allan o'r ffwrn: ac a wnaeth ganol y ffwrn megis gwlith-wynt chwiban, fel na chyffyrddodd y tân â hwynt: ni thristaodd ychwaith ac ni flinodd mo honynt.
3:51 Yna y tri megis o un geneu a ganmolasant, ac a glodforasant, ac a ogoneddasant Dduw yn y ffwrn, gan ddywedyd,
3:52 Bendigedig wyt Arglwydd Dduw ein tadau, moliannus a chlodforus yn dragywydd: a bendigedig yw enw dy ogoniant sanctaidd a chanmoladwy a chlodforus yn dragywydd.
3:53 Bendigedig wyt ti yn nheml dy sanctaidd ogoniant a thramoladwy a gogoneddus yn dragywydd.
3:54 Bendigedig wyt ti yr hwn sydd yn gweled yr eigion, ac yn eistedd ar y Cerubiaid, a thrachanmoladwy a chlodforus yn dragywydd.
3:55 Bendigedig wyt ar orseddfaingc gogoniant dy deyrnas, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.
3:56 Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nefoedd, a thrachanmoladwy a gogoneddus yn dragywydd.
3:57 Oll weithredoedd yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:59 Angelion yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:59 Y nefoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:60 Yr holl ddyfroedd goruwch y nef bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:61 Oll nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:62 Yr haul a'r lloer bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:63 Ser yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:64 Pob cafod a gwlith bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:65 Oll wyntoedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:66 Tân a phoethni bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:67 Oerni a gwrês bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:68 Gwlith a rhewogydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:69 Nos a dydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:70 Goleuad a thywyllwch bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:71 Rhew ac oerfel bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:72 Ia ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:73 Mellt a chymylau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:74 Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled a chlodfored hi ef yn dragywydd.
3:75 Mynyddoedd a brynnau bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:76 Yr holl betheu sydd yn tyfu yn y ddaiar bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:77 Ffynhonneu bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:78 Moroedd ac llifeiriant bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:79 Mor-filod a chwbl oll a'r a symmud yn y dyfroedd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:80 Oll ehediaid yr awyr bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:81 Oll fwystfilod ac anifeiliaid bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:82 Plant dynyon bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:83 Bendithied Israel yr Arglwydd: moled a chlodfored ef yn dragywydd.
3:84 Offeiriaid yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:85 Gwasanaethwŷr yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:86 Ysbrydion ac eneidieu 'r cyfiawn bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:87 Y rhai sanctaidd a chalon ostyngedig bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd.
3:88 Ananias, Azarias, a Misael bendithiwch yr Arglwydd: molwch a chlodforwch ef yn dragywydd: Canys efe a'n achubodd o uffern, ac a'n cadwodd o law marwolaeth, ac a'n gollyngodd o'r ffwrn o ganol y fflam danllyd, ac a'n gwaredodd o ganol y tân.
3:89 Cyffesswch yr Arglwydd am ei fod yn ddaionus, am fod ei drugaredd yn dragywydd.
3:90 Pawb oll ac sydd yn ofni 'r Arglwydd bendithiwch Dduw 'r duwiau, molwch ef a chydnabyddwch fod ei drugaredd ef yn dragywydd.
Terfyn cân y tri llangc yn y ffwrn boeth loscadwy.