Hystoria Susanna yr hon yw 'r drydedd bennod ar ddêc o Ddaniel yn ôl y Lladin.
Y ddau lywodraeth-wr yn chwennychu Susanna. 19 Hwynt yn ei dal hi yn vnic yn yr ardd, 20 ac yn ceisio ei hudo hi i gyd-orwedd â hwynt. 23 Hithe yn ddewisach genddi beidio â phechu yn erbyn Duw, er bod hynny yn enbydrwydd am ei henioes. 45 Daniel yn ei gwaredu hi. 62 Rhoddi y llywodraeth-wyr i farwolaeth.
1:1 YR oedd gŵr yn presswylio yn Babilon ai enw Ioacim.
1:2 Ac efe a briododd wraig ai henw Susanna, merch Helcias, yr hon oedd lân iawn, ac yn ofni'r Arglwydd.
1:3 Ei thad hi ai mam oeddynt bobl ffyddlon gyfiawn ac a ddyscasent eu merch yn ôl cyfraith Moses.
1:4 A Ioacim oedd gyfoethog iawn; ac iddo ef yr oedd gardd dêg yn gyfagos i'w dŷ. At yr hwn yr ymgynhulle yr Iddewon, am ei fod efe yn anrhydeddusach nâ neb.
1:5 A'r flwyddyn honno y rhoddwyd dau henuriad o'r bobl yn farnwŷr, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y barnwŷr hynaf, y rhai a gymmerent arnynt lywodraethu'r bobl.
1:6 Y rhai hyn oedd yn aros yn nhŷ Ioacim: ac attynt y tramwye pawb oll a'r a ymgyfreithient.
1:7 A (phan fydde 'r bobl yn myned ymmaith ganol y dydd) y bydde i Susanna fyned i rodio i ardd ei gŵr.
1:8 A'r ddau henuriad ai gwelent hi beunydd yn myned i mewn, ac yn rhodio: fel yr oeddynt mewn chwant iddi hi:
1:9 A hwy a lygrasent eu meddwl, fel na ddychwelent eu llygaid i edrych tu a'r nefoedd, ac nad argofient am gyfiawn farnau.
1:10 Ac er eu bod ill deuoedd yn gwŷnfydu o ei hachos hi: atto ni ddangose 'r naill y gofid oedd arno i'r llall,
1:11 O herwydd bod yn wradwydd ganddynt ddangos eu bod mewn chwant iw chorff hi.
1:12 A beunydd y disgwilient yn ddyfal am ei gweled hi.
1:13 A'r naill a ddywedodd wrth y llall: awn i'r tŷ, am ei bôd hi yn bryd ciniaw.
1:14 Yna'r aethant y naill oddi wrth y llal: ac [er hynny] troi a wnaethant eilchwel a dyfod i'r un man, ac wedi chwilio 'r achos rhyngddynt, cyffessu a wnaethant bôb un iw gilydd eu chwant, ac yn unfryd llunio amser y gallent ei chael hi ei hunan.
1:15 Ac fel yr oeddynt yn disgwil amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn (fel yr arfere beunydd) a dwy forwyn gyd â hi yn unic, ar fedr ymolchi yn yr ardd, canys brŵd oedd [yr hîn.]
1:16 Nid oedd neb yno onid y ddau henuriad, y rhai a ymguddiasent yno iw disgwil hi.
1:17 A hi a ddywedod wrth ei morwynion, dygwch i mi olew a sebon, o cheiwch ddryssau 'r ardd, fel y gallwyf i ymolchi.
1:18 A'r morwynion a wnaethant fel yr archase hi, ac wedi iddynt gaeu drysseu 'r ardd hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu 'r petheu a archasid iddynt: eithr ni welsant mo'r henuriaid, o achos eu bod guddiedig.
1:19 Ac fe ddarfu wedi i'r morwynion fyned allan, i'r ddau henuriad godi a rhedeg atti hi, a dywedyd:
1:20 Wele ddrysseu 'r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni ein deuoedd mewn chwant i ti: cyd-orwedd â ni, a bydd gyd â ni.
1:21 Os tydi ni wnei hynny, nyni a destiolaethwn yn dy erbyn fod gŵr ieuangc gyd â thi, ac anfon o honot y morwynion ymmaith oddi wrthit am hynny.
1:22 Yna'r ochneidiodd Susanna gan ddywedyd: yr ydwŷf fi mewn cyfyngdra o'r ddeutu: os y peth hwn a wnafi, marwolaeth yw i mi, os minnau ni's gwnaf, ni allaf fi ddiangc o'ch dwylo chwi.
1:23 Etto mae yn ddewisach gennifi syrthio yn eich dwylo chwi yn ddieuog, na phechu gerbron yr Arglwydd: yna Susanna a ddolefawdd â llef uchel.
1:24 Felly y llefodd y ddau henuriad yn ei herbyn hi.
1:25 A'r naill a redodd, ac a agorodd ddryssau 'r ardd.
1:26 Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i mewn i'r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuase iddi hi.
1:27 Eithr wedi i'r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddir fawr a wnaeth y gweision, o herwydd ni buase 'r fath air i Susanna o'r blaen.
1:28 A thrannoeth, pan ddaeth y bobl i dŷ Ioacim ei gŵr hi: y ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi hi i'w marwolaeth.
1:29 A dywedasant yng-ŵydd y bobl, cyrchwch ymma Susanna ferch Helcias, gwraig Ioacim, a hwy a cyrchasant hi.
1:30 Hithe a ddaeth ai rhieni, ai phlant ai holl geenedl.
1:31 Susanna oedd dyner a phrydferth ei gwêdd.
1:32 A'r rhai anwir hyn a barasant dynnu ymaith ei moled hi (canys yr oedd hi mewn moled) fel y gallent hwy borthi eu chwant âi thegwch hi.
1:33 Yna 'r ŵylodd cynnifer un a'r a oedd yn ei chylch hi, a'r rhai oll ai hadwaenent hi.
1:34 A'r ddau henuriad a safasant i fyny ym mhlith y bobl, ac a roddasant eu dwylo ar ei phen hi.
1:35 A hithe yn ŵylo a edrychodd i fyny i'r nefoedd am fod ei chalon hi ai goglyd ar yr Arglwydd.
1:36 A'r henuriaid a ddywedasant: pan oeddem ni yn rhodio ein hunain yn yr ardd, y daeth hi a dwy lawforwyn i mewn, ac wedi iddi hi eu hanfon hwynt ymmaith a chaeu 'r dryssau,
1:37 Fe a ddaeth gŵr ieuangc atti yr hwn oedd yno yn guddiedig, ac a orweddodd gyd â hi.
1:38 A phan welsom ninnau yng-hongl yr ardd y cyfryw anwiredd, ni a redasom attynt, ac a welsom fel yr oeddynt ynghyd.
1:39 Ac ni allassom moi ddala ef am ei fod yn gryfach nâ ni, eithr efe a agorodd y drws, ac a ddiangodd.
1:40 Wedi i ni ddala hon ni ai holassom hi, pwy oedd y gŵr ieuangc hwnnw, ac ni ddangose hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei destiolaethu.
1:41 A'r gynulleidfa ai credodd hwynt megis henuriaid a barnwŷr y bobl: ac felly hwynt ai barnassant hi iw marwolaeth.
1:42 Yna Susanna a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, O Dduw tragwyddol, i'r hwn y mae pob dirgelwch yn agored, ac a ŵyddost bob peth cyn ei ddigwydd,
1:43 Ti a wyddost gam destiolaethu o honynt yn fy erbyn, ac yn awr y mae yn rhaid i mi farw, er na wneuthym i'm hoes y pethau y mae'r gwŷr hyn wedi eu drwg ddychymyg i'm herbyn.
1:44 A'r Arglwydd a wrandawodd ar ei llef hi:
1:45 Ac a a gyffrôdd ysbryd sanctaidd bachgennyn ieuangc ai enw Danielwrth, yr hwn (a hi yn myned iw marwolaeth) a lefodd yn uchel:
1:46 Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon.
1:47 A'r holl bobl a droesant atto ef, ac a ddywedasant, beth yw'r ymadrodd hwn a ddywedaist ti?
1:48 Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd: ô Israeliaid a ydych chwi mor ansynhwyrol a gadel yn euog ferch ô Israel, heb lwyr chwilio a gwybod y gwirionedd?
1:49 Troiwch eilchwel i'r frawdle: canys testiolaethu a wnaethant gelwydd yn ei herbyn hi.
1:50 A'r holl bobl a droesant ar ffrwst: a'r hynafgwŷr a ddywedassant wrtho, tyret eistedd yn ein plith a dangos i ni, gan i Dduw dy roddi ti fraint henuriad.
1:51 A Daniel a ddywedodd wrthynt, nailltuwch hwynt oddi wrth ei gilydd ym hell, a mi ai holaf hwynt.
1:52 Phan ddarfu nailltuo 'r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd un ohonynt, ac a ddywedodd wrtho: ô hên ddiffeithwr yr awran y daeth dy bechodau yn dy erbyn y rhai a wnaethost o'r blaen.
1:53 A'th gam farnau a fernaist, yn gadel yn euog y gwirion, ac yn rhyddhau 'r anwir: lle y dywedodd yr Arglwydd, na ladd y gwirion a'r cyfiawn.
1:54 Felly yn awr os hon a welaist ti, dangos dan ba ryw bren y gwelaist ti hwynt yng-hyd? yna'r attebodd yntef, dann lentysc-bren.
1:55 A Daniel a ddywedodd, gwych y dywedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy hun, canys angel yr Arglwydd wrth farn Duw a'th wahana di yn ddau.
1:56 Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod â'r llall, ac a ddywedodd wrtho: ô hiliogaeth Canaan, ac nid hil Iuda, tegwch a'th dwyllodd di, a chwant a lygrodd dy galon.
1:57 Fel hyn y gwnaethoch chwi â merched Israel, y rhai rhag ofn a gytunasant â chwi: eithr merch Iwda
1:58 Ni chynhwysodd ddim o'ch anwiredd, felly dywet i mi dan ba ryw bren y deliaist di hwynt yng-hyd? Ac efe a attebodd, tann brinwŷdden.
1:59 A Daniel a ddywedodd wrtho: gwych y dywedaist ditheu hefyd gelwydd yn erbyn dy ben dy hun: canys y mae angel yr Arglwydd yn aros â'r cleddyf ganddo i'th dorri di yn dy hanner, ac i'ch difetha chwi eich deuoedd.
1:60 Yna y llefodd yr holl gynulleidfa â llef uchel gan foli'r Arglwydd yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef.
1:61 A hwynt a godasant yn erbyn y ddau henuriad, (canys Daniel ai gosodase hwynt ar eu geiriau eu hunain o gam-destiolaeth)
1:62 A hwy a wnaethant iddynt y modd yr amcanasent hwy wneuthur ar gam âi cymydog, ac ai rhoddasant iw marwolaeth, yn ôl cyfraith Moses: felly y gwaredwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw.
1:63 Yna Helcias ai wraig a glodfawrasant Dduw dros ei merch Susanna gyd ag Ioacim ei gŵr hi, ai holl genedl, am na chawsid ynddi ddim gwradwyddus.
1:64 Ac o'r dydd hwnnw allan y daeth Daniel mewn parch mawr ym mhlith y bobl.
1:65 A'r brenin Astiages a roddwyd at ei henafiaid, a Cyrus y Persiad a gymmerodd ei frenhiniaeth ef.
Terfyn Hystoria Susanna.