Hystoria Bel a'r Ddraig. yr hon yw yr bedwaredd bennod ar ddêc o Ddaniel yn ôl y Lladin.

1:1 A Daniel oedd yng-hyfeddach y brenin, ac yn wr urddassol ym mhlith ei holl gefeillion ef.
1:2 Ac yr ydoedd eulun i'r Babiloniaid a elwid Bel ar yr hwnn yr oeddid yn treulio beunydd ddeuddeng mhesur o beillied, a deugein o ddefeid, a chwe chelyrned o win,
1:3 A'r brenhin ai anrhydedde ef, beunydd yr aei i'w addoli: eithr Daniel a addole ei Dduw ei hun, a'r brenin a ddywedodd wrtho: pa ham nad wyt ti 'n addoli Bel?
1:4 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd am nad anrhydeddaf i eulynnod gwneuthuredig â dwylaw onid y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaiar, ac sydd iddo feddiant ar bob cnawd.
1:5 A'r brenin a ddywedodd wrtho, onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwytta ac yn ei yfed beunydd?
1:6 A Daniel a ddywedodd dan chwerthin: na thwyller di ô frenin, hwn oddi mewn sydd glai, ac oddi allan yn brês, ni fwytaodd, ac nid yfodd er ioed.
1:7 Yna 'r brenin yn ddigllawn a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt: oni ddywedwch i mi pwy sydd yn mwynhau 'r draul hon, meirw fyddwch.
1:8 Os gellwch chwi ddangos imi fod Bel yn bwytta y petheu hyn, marw a gaiff Daniel am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin: fel y dywedaist bydded.
1:9 (Offeiriaid Bel oeddynt ddêc a thrugein heb law eu gwragedd ai plant:) a'r brenin a aeth gyd â Daniel i deml Bel.
1:10 A'r offeiriaid hefyd a ddywedasant: wele ni a awn allan: dod ti i'r brenin y bwydydd [yn eu lle] a gosot y gwin wedi i ti ei gymmyscu, a chae 'r drws, a selia a'th fodrwy:
1:11 Ar boreu pan ddelech, oni bydd Bel wedi bwytta 'r cwbl, llader ni: os amgen byddet Daniel yn gelwyddog yn ein herbyn ni.
1:12 Canys diar swyd oeddynt, o herwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd guddiedig, i'r hon yr aent i mewn bôb amser, ac y cyrchent ymmaith y petheu hynny.
1:13 Yna wedi iddynt fyned allan, ac i'r brenin osod y bwydydd (ger bron) Bel, y gorchymynodd Daniel i'w weision ddwyn lludw, yr hwn a danasant dros gwbl o'r deml yng-ŵydd y brenin ei hun, ac wrth fyned allan hwynt a gaeasant y porth, ac ai seliasant â modrwy y brenin, ac a aethant ymmaith.
1:14 A'r offeiriaid a aethant i mewn gefn y nos, yn ôl eu harfer ai gwragedd, ai plant, ac a fwyttasant, ac a yfasant y cwbl.
1:15 A'r boreu y brenin a gododd yn foreu iawn, a Daniel gyd ag ef..
1:16 A'r brenin a ofynnodd, a ydyw y selau yn gyfan Daniel? ac yntef a attebodd, y maent yn gyfan ô frenin.
1:17 A chyn gyflymmed ag yr agorassid y drws y brenin a edrychodd tua 'r bwrdd, ac a lefodd yn uchel: mawr wyt ti ô Bel, ac nid oes dim twyll ynot.
1:18 Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd gwêl y llawr, ac edrych ôl pwy [yw 'r] rhain.
1:19 A'r brenin a ddywedodd, mi a welaf ôl traed gwŷr a gwragedd, a phlant.
1:20 A llidio a wnaeth y brenin, a dala 'r offeiriaid ai gwragedd ai plant y rhai o ddangosassant iddo y drysseu cuddiedig i'r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i fwytta 'r petheau oeddynt ar y bwrdd.
1:21 A'r brenin ai lladdodd hwynt, ac a roes Bel yn rhoddi i Ddaniel, yr hwn ai dinistriodd ef â Deml.
1:22 Yr oedd hefyd ddraig fawr yno, a'r Babiloniaid ai anrhydeddent hi.
1:23 A'r brenin a ddywedodd wrth Ddaniel: a ddywedi di mai efydd yw honn? Wele hi yn fyw, ac yn bwytta, ac yn yfed, ni elli di ddywedyd nad yw honn Dduw byw, am hynny addola hi.
1:24 Wrth yr hwn y dywedodd Daniel, myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw 'r Duw byw.
1:25 Os ty di ô frenin a rydd y mi [gennad] mi a laddaf y ddraig hon heb na chleddyf na ffonn, a'r brenin a ddywedodd, mi a roddaf i ti gennad.
1:26 Yna y cymmerth Daniel byg, a gwêr a blew, ac ai berwodd yng-hyd, ac a wnaeth dammeidiau o honynt, ac ai rhoes yn safn y ddraig, a'r ddraig a rwygodd yn ddrylliau, ac efe a ddywedodd: wele 'r petheu yr ydych yn eu hanrhydeddu.
1:27 Ac fe a ddigwyddodd i'r Babiloniaid pan glywsant hynny ddirfawr lidio a throi yn erbyn y brenin gan ddywedyd, y brenin a aeth yn Iddew: Bel a ddestruwiodd efe, a'r ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid iw marwolaeth.
1:28 Ac wedi eu dyfot at y brenin y dywedasant: dod ini Ddaniel: onis rhoi, ni a'th laddwn di a'th holl dylwyth.
1:29 Pan welodd y brenin eu bôd hwynt yn rhy daer yn ei gymmell ef: yna y gorfu iddo oi anfodd roi Daniel iddynt.
1:30 A hwyntau ai bwriassant ef i ffau y llewod lle y bu efe chwe diwrnod.
1:31 Yn yr ffau y oedd saith o lewod, i'r rhai y rhoid beunydd ddau gorph a dwy ddafad y rhai y pryd hynny ni roesid, fel y gallent lyngcu Daniel.
1:32 Ac Abbacuc y prophwyd oedd yn Iudea, yr hwn a ferwasse sew ac a friwasse fara mewn cawg, ac oedd yn myned iw ddwyn i'r maes i fedelwyr.
1:33 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Abbacuc, dwg y cinio sydd gennit hyd yn Babilon i Ddaniel [yr hwn sydd yn ffau] y llewod.
1:34 Ac Abbacuc a ddywedodd, Arglwydd ni welais i er ioed Babilon, ac ni wn i pa le y mae yr ffau.
1:35 Yna Angel yr Arglwydd ai cymmerth ef erbyn ei goryn, ac wedi iddo ei ddwrn erbyn gwallt ei benn, y dodes ef yn Babilon ar y ffau drwy nerth ei yspryd ef.
1:36 Ac Abbacuc a lefodd gan ddywedyd: Daniel, Daniel, cymmer y cinio a anfonodd Duw i ti.
1:37 Yna y dywedodd Daniel, ti a feddyliaist am danaf ô Dduw, ac ni adewi [mewn gwall] y rhai a ymgais â thi, ac a'th gâr.
1:38 Felly Daniel a gyfododd i fynu, ac a fwyttaodd, ac angel yr Arglwydd a ddodes Abbacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.
1:39 A'r brenin aeth ar y seithfed dydd i alaru, a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn a wele [yr oedd] Daniel yn eistedd.
1:40 Yna a llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd mawr wyt ti ô Arglwydd Dduw Daniel, ac nid oes Dduw arall ond ty di.
1:41 Ac efe ai tynnodd ef allan o'r ffau, ac ai bwriodd hwyntwy y rhai oedd achos oi ddifetha ef i'r ffau, ac hwy alyngcwyd yn gyflym ger ei fron ef.

Terfyn hystoria Bel a'r Draig