Gweddi Manasses brenin Babilon, pan ddaliwyd ef yn garcharor yn Babilon

1 Oh Argwlydd, holl-alluog Dduw ein tadau Abraham Isaac, ac Iacob, ai cyfiawn hiliogaeth hwynt.
2 Yr hwn a wnaethost nefoedd a daiar, ai gwychter.
3 Yr hwn a rwymaist y môr a gair dy orchymyn, yr hwn a greast y dyfnder, ac ai seliaist a'th enw ofnadwy a chanmoladwy.
4 Yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth:
5 Oblegit ni ellir ddwyn mawredd dy ogoniant, na dioddef digter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid.
6 A thrugaredd dy addewid sydd anfeidrol, ac anchwiliadwy: o blegit ty di ydwyt Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ddrwg dŵn.
7 Tydi, ô Arglwydd yn ôl amldra dy ddaioni a addewaist edifeirwch a maddeuant i'r rhai a bechasant i'th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iechewdwriaeth.
8 Am hynny ô Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist ti edifeirwch i'r rhai cyfiawn i Abraham Isaac ac Iacob, y rhai ni phechasant i'th erbyn, ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur.
9 Mi a bechais yn fwy nâ rhifedi tywod y môr, fy anwireddau a amlhausant, ô Arglwydd, fy anwireddau a amlhausant, ac nid wyfi deilwng i edrych, ac i weled uchder y nefoedd gan amldra fy anwireddau.
10 Mi a grymmais i lawer mewn rhwym haiarn, fel na ailwyf godi fy mhen, ni allaf chwaith gymmeryd fy anadl, am gyffroi o honof dy lid ti, a gwneuthur yr hyn sydd ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys ni's gwneuthym a'th orchmynnion ni's cedwais: ordeiniais ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau.
11 Ac yr awron yr ydwyfi yn plygu glin fyng-halon gan ddymuno daioni gennit: pechais, ô Arglwydd pechais, ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau.
12 Am hynny yr ydwyfi yn deisyf gan attolwg i ti, maddeu i mi ô Arglwydd, maddeu i mi, ac na ddifetha fi yng-hyd a'm hanwireddau, ac na chadw (gan ddigio byth) ddrwg i mi: ac na ddamnia fi i geudod y ddaiar: canys tydi ydwyt Dduw, Duw meddaf yr edifeiriol:
13 Ac yn dangos arnafi dy holl ddaioni: o blegit ti a'm hachubi fi (yr hwn ydwyf annheilwng) yn ôl dy fawr drugaredd.
14 Am hynny a'th foliannaf dî bôb amser, holl ddyddiau fy enioes: o blegit y mae holl nerth y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae gogoniant yn oes oesoedd, Amen.