LLYFR JOEL
Locustiaid yn Ymosod
1:1 Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.
1:2 Clywch hyn, henuriaid, gwrandewch, holl drigolion y wlad. A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi, neu yn nyddiau eich hynafiaid?
1:3 Dywedwch am hyn wrth eich plant, a dyweded eich plant wrth eu plant, a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.
1:4 Yr hyn a adawodd y cyw locust, fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant; yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant, fe'i bwytaodd y locust mawr; a'r hyn a adawodd y locust mawr, fe'i bwytaodd y locust difaol.
1:5 Deffrowch feddwon, ac wylwch; galarwch, bob yfwr gwin, am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.
1:6 Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir, a honno'n un gref a dirifedi; dannedd llew yw ei dannedd, ac y mae ganddi gilddannedd llewes.
1:7 Maluriodd fy ngwinwydd, a darnio fy nghoed ffigys; rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr, ac aeth y cangau'n wynion.
1:8 Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliain am ddyweddi ei hieuenctid.
1:9 Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD; y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
1:10 Anrheithiwyd y tir, y mae'r ddaear yn galaru, oherwydd i'r grawn gael ei ddifa, ac i'r gwin ballu, ac i'r olew sychu.
1:11 Safwch mewn braw, amaethwyr, galarwch, winwyddwyr, am y gwenith a'r haidd; oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.
1:12 Gwywodd y winwydden, a deifiwyd y ffigysbren. Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau — y mae holl brennau'r maes wedi gwywo. A diflannodd llawenydd o blith y bobl.
Galwad i Edifeirwch
1:13 Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid, codwch gwynfan, weinidogion yr allor. Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain, weinidogion fy Nuw, oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm gael eu hatal o dŷ eich Duw.
1:14 Cyhoeddwch ympryd, galwch gynulliad. Chwi henuriaid, cynullwch holl drigolion y wlad i dŷ'r ARGLWYDD eich Duw, a llefwch ar yr ARGLWYDD.
1:15 Och y fath ddiwrnod! Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
1:16 Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid, a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?
1:17 Y mae'r had yn crebachu o dan y tywyrch, yr ysgubor wedi ei chwalu a'r granar yn adfeilion, am i'r grawn fethu.
1:18 Y fath alar gan yr anifeiliaid! Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswch am eu bod heb borfa; ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.
1:19 Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain, oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch, a llosgodd fflam holl goed y maes.
1:20 Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat, oherwydd sychodd y nentydd a difaodd tân borfeydd yr anialwch.
Rhybudd am Ddydd yr Arglwydd
2:1 Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod; y mae yn agos —
2:2 dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o ddüwch. Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd, wele luoedd mawr a chryf; ni fu eu bath erioed, ac ni fydd ar eu hôl ychwaith am genedlaethau dirifedi.
2:3 Ysa tân o'u blaen a llysg fflam ar eu hôl. Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden, ond ar eu hôl yn anialwch diffaith, ac ni ddianc dim rhagddo.
2:4 Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
2:5 Fel torf o gerbydau neidiant ar bennau'r mynyddoedd; fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl, fel byddin gref yn barod i ryfel.
2:6 Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt, a gwelwa pob wyneb.
2:7 Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng.
2:8 Ni wthiant ar draws ei gilydd, dilyn pob un ei lwybr ei hun; er y saethau, ymosodant ac ni ellir eu hatal.
2:9 Rhuthrant yn erbyn y ddinas, rhedant dros ei muriau, dringant i fyny i'r tai, ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
2:10 Ysgwyd y ddaear o'u blaen a chryna'r nefoedd. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu a'r sêr yn atal eu goleuni.
2:11 Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
Galwad i Ddychwelyd at Dduw
2:12 "Yn awr," medd yr ARGLWYDD, "dychwelwch ataf â'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar.
2:13 Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw." Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed.
2:14 Pwy a ŵyr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei ôl — bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
2:15 Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa,
2:16 cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr.
2:17 Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, "Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, 'Ple mae eu Duw?'"
Duw yn Ateb Gweddi'r Bobl
2:18 Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir, a thrugarhau wrth ei bobl.
2:19 Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, "Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
2:20 Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych, a'i yrru i dir sych a diffaith, â'i reng flaen at fôr y dwyrain a'i reng ôl at fôr y gorllewin; bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi, am iddo ymorchestu."
2:21 Paid ag ofni, ddaear; bydd lawen a gorfoledda, oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
2:22 Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
2:23 Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
2:24 Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷd a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
2:25 "Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr, y locust difaol a'r cyw locust, fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.
2:26 "Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni, a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw, a wnaeth ryfeddod â chwi. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
2:27 Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
Dydd yr Arglwydd
2:28 "Ar ôl hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.
2:29 Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.
2:30 "Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a thân a cholofnau mwg.
2:31 Troir yr haul yn dywyllwch a'r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
2:32 A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.
Barn Duw ar y Cenhedloedd
3:1 "Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw, pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
3:2 fe gasglaf yr holl genhedloedd a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat, a mynd i farn â hwy yno ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel, am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd a rhannu fy nhir,
3:3 a bwrw coelbren am fy mhobl, a chynnig bachgen am butain, a gwerthu geneth am win a'i yfed.
3:4 "Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.
3:5 Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.
3:6 Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.
3:7 Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain.
3:8 Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell." Yr ARGLWYDD a lefarodd.
3:9 "Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd: 'Ymgysegrwch i ryfel; galwch y gwŷr cryfion; doed y milwyr ynghyd i ymosod.
3:10 Curwch eich ceibiau'n gleddyfau a'ch crymanau'n waywffyn; dyweded y gwan, "Rwy'n rhyfelwr."
3:11 "'Dewch ar frys, chwi genhedloedd o amgylch, ymgynullwch yno.'" Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.
3:12 "Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyd a dyfod i ddyffryn Jehosaffat; oherwydd yno'r eisteddaf mewn barn ar yr holl genhedloedd o amgylch.
3:13 "Codwch y cryman, y mae'r cynhaeaf yn barod; dewch i sathru, y mae'r gwinwryf yn llawn; y mae'r cafnau'n gorlifo, oherwydd mawr yw eu drygioni."
Bendith Duw ar ei Bobl
3:14 Tyrfa ar dyrfa yn nyffryn y ddedfryd, oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDD yn nyffryn y ddedfryd.
3:15 Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu, a'r sêr yn atal eu goleuni.
3:16 Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chodi ei lef o Jerwsalem; cryna'r nefoedd a'r ddaear. Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl, ac yn noddfa i blant Israel.
3:17 "Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd. A bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi eto.
3:18 "Yn y dydd hwnnw, difera'r mynyddoedd win newydd, a llifa'r bryniau o laeth, a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddŵr. Tardd ffynnon o dŷ'r ARGLWYDD a dyfrhau dyffryn Sittim.
3:19 "Bydd yr Aifft yn anghyfannedd ac Edom yn anialwch diffaith, oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwda wrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.
3:20 Ond erys Jwda dros byth a Jerwsalem dros genedlaethau.
3:21 Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog, a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion."