LLYFR JONAH
PENNOD I.
1 Danfon Jonah i Ninefeh, ac yntau yn ffoi i Tarsis: 4 a thymmestl yn ei gyhuddo ef. 11 Ei daflu ef i'r môr, 17 a physgodyn yn ei lyngcu ef.
1:1 A GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth at Jonah mab Amittai, gan ddywedyd,
1:2 Cyfod, dos i Ninefeh y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron.
1:3 A Jonah a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi ger bron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Joppa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyd â hwynt i Tarsis, oddi ger bron yr ARGLWYDD.
1:4 ¶ Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.
1:5 Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhâu ohonynt: ond Jonah a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai.
1:6 A meistr y llong a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na'n coller.
1:7 A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jonah.
1:8 A dywedasant wrtho, Attolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti?
1:9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.
1:10 A'r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi ger bron yr ARGLWYDD, o herwydd efe a fynegasai iddynt.
1:11 ¶ A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.
1:12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymmestl fawr hon arnoch chwi.
1:13 Er hyn y gwŷr a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.
1:14 Llefasant gan hyny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Attolwg, ARGLWYDD, attolwg, na ddifether ni am einioes y gwr hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.
1:15 Yna y cymmerasant Jonah, ac a'i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr â'i gyffro.
1:16 A'r gwŷr a ofnasant yr ARGLWYDD âg ofn mawr, ac a aberthasant aberth i'r ARGLWYDD , ac a addunasant addunedau.
1:17 ¶ A'r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyngcu Jonah. A Jonah a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.
PENNOD II.
1 Gweddi Jonah: 10 a'i wared ef o fol y pysgodyn.
2:1 A Jonah a weddiodd ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn,
2:2 Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a'm hattebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.
2:3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.
2:4 A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tu a'th deml santaidd.
2:5 Y dyfroedd a'm hamgylchasant hyd yr enaid; y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch; ymglymmodd yr hesg am fy mhen.
2:6 Disgynnais i odre y mynyddoedd; y ddaear a'i throsolion oedd o'm hamgylch dragywydd: etto ti a ddyrchefaist fy einioes o'r ffos, O ARGLWYDD fy NUW.
2:7 Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr ARGLWYDD; a'm gweddi a ddaeth i mewn attat i'th deml sanctaidd.
2:8 Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.
2:9 A minnau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf yr hyn a addunedais: Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD.
2:10 ¶ A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, ac efe a fwriodd Jonah ar y tir sych.
PENNOD III
1 Danfon Jonah yr ail waith, ac yntau yn pregethu i'r Ninefeaid. 5 Ar eu hedifeirwch hwy, 10 y mae DUW yntau yn edifarhâu.
3:1 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth yr ail waith at Jonah, gan ddywedyd,
3:2 Cyfod, dos i Ninefeh y ddinas fawr, a pregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.
3:3 A Jonah a gyfododd ac a aeth i Ninefeh, yn ol gair yr ARGLWYDD. A Ninefeh oedd ddinas fawr iawn, o daith tri diwrnod.
3:4 A Jonah a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd etto, a Ninefeh a gwympir.
3:5 ¶ A gwŷr Ninefeh a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachlïan, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.
3:6 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefeh, a efe a gyfododd o'i frenhin-faingc, ac a ddïosgodd oddi am dano ei frenhin-wisg, ac a roddes am dano lïan sach, ac a eisteddodd mewn lludw.
3:7 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefeh, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.
3:8 Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ïe, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawsder sydd yn eu dwylaw.
3:9 Pwy a ŵyr a dry DUW ac edifarhâu, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
3:10 ¶ A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.
PENNOD IV
1 Jonah yn anfoddlawn i drugaredd Duw, 4 ac yn cael i geryddu dan rith pren cicaion.
4:1 A bu ddrwg iawn gan Jonah hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.
4:2 Ac efe a weddïodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Attolwg i ti, ARGLWYDD, oni ddywedais i hyn pan oeddwn etto yn fy ngwlad? am hyny yr achubais flaen i ffoi i Tarsis; am y gwyddwn dy fod di yn Dduw graslawn a thrugarog, hwyrfrydig i ddig, aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.
4:3 Am hyny yn awr, O ARGLWYDD, cymer, atolwg, fy einioes oddiwrthyf: canys gwell i mi farw na byw.
4:4 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio o honot?
4:5 A Jonah a aeth allan o'r ddinas, ac a eisteddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.
4:6 A'r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd cicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jonah, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jonah lawen iawn am y cicaion.
4:7 A'r ARGLWYDD a baratôdd bryf ar godiad y wawr dranoeth, ac efe a darawodd y cicaion, ac yntau a wywodd.
4:8 A phan gododd haul, bu i DDUW ddarparu poeth-wynt y dwyrain; a'r haul a drawodd ar ben Jonah, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o'i einioes, ac a ddywedodd, Gwell i mi farw na byw.
4:9 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Jonah, Ai da yw y gwaith ymddigio o honot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau.
4:10 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac nis peraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu:
4:11 Ac oni arbedwn i Ninefeh y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddehau a'u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?