LLYFR NAHUM
PENNOD I.
Mawredd Duw yn ei ddaioni tu ag at ei bobl, a'i doster yn erbyn ei elynion.
1 BAICH Ninefeh. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
2 Duw sydd eiddigus, a'r ARGLWYDD sydd yn dïal; yr ARGLWYDD sydd yn dïal, ac yn berchen llid: dïal yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion.
3 Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddïeuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymmylau yw llwch ei draed ef.
4 Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddyhysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.
5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.
6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd y'nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.
7 Daionus yw yr ARGLWYDD, amddififynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.
8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe drangc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.
9 Beth a ddychymmygwch yn erbyn yr ARGLWYDD? efe a wna drangc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
10 Canys tra yr ymddyrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawnwywo.
11 O honot y daeth allan a ddychymmyga ddrwg yn erbyn yr ARGLWYDD: cynghorwr drygionus.
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, etto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
13 Canys yr awrhon y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.
14 Yr ARGLWYDD hefyd a orchymynodd o'th blegid, na hauer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt.
15 Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Judah, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl-dorrwyd ef ymaith.
PENNOD II.
Ofnadwy a buddugol luoedd Duw yn erbyn Ninefeh.
1 DAETH y chwalwr i fynu o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnhâ dy nerth yn fawr.
2 Canys dychwelodd yr ARGLWYDD ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dyhysbyddwyr a'u dyhysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.
3 Tarian ei wŷr grymmus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd âg ysgarlad; y cerbydau fyddant gyd â lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynnidwydd a ysgydwir yn aruthrol.
4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, tarawant wrth eu gilydd yn y prif-ffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflammau, ac fel mellt y saethant.
5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a barottôir.
6 Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddettyd.
7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fynu, a'i morwynion yn ei harwain megis â llais colommennod, yn curo ar eu dwyfronnau.
8 A Ninefeh sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ol.
9 Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol.
10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'n hwynebau oll a gasglant barddu.
11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a'r cenaw llew, ac nid oedd a'u tarfai?
12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i'w genawon, ac a dagodd i'w lewesau, ac a lanwodd âg ysglyfaeth ei ffau, a'i loches âg yspail.
13 Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuaingc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.
PENNOD III.
Gofidus gwymp Ninefeh.
1 GWAE ddinas y gwaed! llawn celwydd ac yspail ydyw i gyd, a'r ysglyfaeth heb ymadaw.
2 Bydd swn y ffrewyll, a swn cynnwrf olwynion, a'r march yn prangcio, a'r cerbyd yn neidio.
3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a'i ddisglaer waywffon; llïaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrph: tripiant wrth eu cyrph hwynt:
4 O herwydd aml butteindra y buttain dêg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phutteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.
5 Wele fi i'th erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.
7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefeh, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti?
8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?
9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aipht, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynnorthwy i ti.
10 Er hynny hi a ddygpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.
11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwyttâwr.
13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elynion; tân a ysodd dy farrau.
14 Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnhâ dy amddiflfynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfhâ yr odyn briddfaen.
15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyrr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymlïosoga fel pryf y rhwd, ymlïosoga fel y ceiliog rhedyn.
16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.
17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.
18 Dy fugeiliaid, brenhin Assyria, a hepiant, a'th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.
19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn am danat a gurant eu dwylaw arnat; o herwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?