LLYFR HAGGAI
PENNOD I
1 Haggai yn beio ar y bobl am esgeuluso adeiladu y tŷ: 7 yn eu hannog hwy i'w adeiladu ef: 12 ac yn addaw cymmorth Duw iddynt, os gwnaent hynny yn ewyllysgar.
1:1 YN yr ail flwyddyn i'r brenhin Darïus, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y prophwyd at Zorobabel mab Salathiel tywysog Judah, ac at Josua mab Josedec yr arch-offeiriad, gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.
1:3 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y prophwyd, gan ddywedyd,
1:4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?
1:5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
1:6 Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwytta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a ennillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i g&
1:7 ¶ Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
1:8 Esgynwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfoddlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD.
1:9 Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan y dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth ? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.
1:10 Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.
1:11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylaw.
1:12 ¶ Yna y gwrandawodd Zorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr arch-offeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y prophwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant ger bron yr ARGLWYDD.
1:13 Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy gennadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyd â chwi, medd yr ARGLWYDD.
1:14 Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD yspryd Zorobabel mab Salathiel tywysog Judah, ac yspryd Josua mab Josedec yr arch-offeiriad, ac yspryd holl weddill y bobl, a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt,
1:15 Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Darïus y brenhin.
PENNOD II
1 Y mae yn rhoi calon yn y bobl i weithio, trwy addaw gogoniant mwy i'r ail deml
nag oedd yn y gyntaf. 10 Dan rith pethau sanctaidd a phethau aflan, y mae yn dangos fod eu pechodau hwy yn rhwystro y gwaith, 20 Addewid Duw i Zorobabel.
2:1 Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law y prophwyd Haggai, gan ddywedyd,
2:2 Dywed yn awr wrth Zorobabel mab Salathiel tywysog Judah, ac wrth Josua mab Josedec yr arch-offeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,
2:3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?
2:4 Eto yn awr ymgryfhâ, Zorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfhâ, Josua mab Josedec yr arch-offeiriad, ac ymgryfhêwch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyd â chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:
2:5 Yn ol y gair a ammodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aipht, felly yr erys fy yspryd yn eich mysg: nac ofnwch.
2:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;
2:7 Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw; llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd ARGLWYDD y lluoedd.
2:8 Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd ARGLWYDD y lluoedd.
2:9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf, medd ARGLWYDD y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
2:10 ¶ Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Darïus, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y prophwyd, gan ddywedyd,
2:11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,
2:12 Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a attebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
2:13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorph marw â gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A'r offeiriaid a attebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
2:14 Yna yr attebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr ARGLWYDD; ac felly y mac holl waith eu dwylaw, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.
2:15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD;
2:16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwrr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwrŷf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.
2:17 Tarewais chwi â diflanniad, ac â mallder, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylaw; a chwithau ni throisoch attaf fi, medd yr ARGLWYDD.
2:18 Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr ARGLWYDD.
2:19 A yw yr had etto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
2:20 ¶ A gair yr ARGLWYDD a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,
2:21 Llefara wrth Zorobabel tywysog Judah, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a'r ddaear;
2:22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinystriaf gryfder brenhiniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.
2:23 Y diwrnod hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y'th gymmeraf di, fy ngwas Zorobabel, mab Salathiel, medd yr ARGLWYDD, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd ARGLWYDD y lluoedd.
_______________________