LLYFR ZECHARIAH

PENNOD I.

1 Zecharïah yn annog i edifeirwch. 7 Gweledigaeth y meirch. 12 Trwy weddi yr angel y gwneir addewidion cysurol i Jerusalem. 18 Gweledigaeth y pedwar corn, a'r pedwar saer.

1 Yn yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Darïus, y daeth gair yr ARGLWYDD at Zecharïah, mab Barachïah, mab Ido y prophwyd, gan ddywedyd,
2 Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.
3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch attaf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf attoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi o'r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.
5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r prophwydi, ydynt hwy yn fyw byth?
6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchymynais wrth fy ngweision y prophwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ol ein ffyrdd, ac yn ol ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.
7 ¶ Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Darïus, y daeth gair yr ARGLWYDD at Zecharïah, mab Barachïah, mab Ido y prophwyd, gan ddywedyd,
8 Gwelais noswaith; ac wele wr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ol ef feirch cochion, brithion, a gwỳnion.
9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.
10 A'r gwr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a attebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear.
11 A hwythau a attebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.
12 ¶ Ac angel yr ARGLWYDD a attebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhêi wrth Jerusalem, a dinasoedd Judah, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thri ugain hyn?
13 A'r ARGLWYDD a attebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.
14 A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerusalem a thros Sïon:
15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynnorthwyasant y niwed.
16 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerusalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynir ar Jerusalem.
17 Gwaedda etto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r ARGLWYDD a rydd gysur i Sïon etto, ac a ddewis Jerusalem etto.
18 ¶ A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.
19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Judah, Israel, a Jerusalem.
20 A'r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.
21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Judah, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i'w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Judah i'w gwasgaru hi.

PENNOD II.

1 Duw, o'i ofal dros Jerusalem, yn anfon i'w mesuro hi. 6 Gwared Sïon. 10 Addewid o bresennoldeb Duw.

1 DYRCHEFAIS fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele wr, ac yn ei law linyn mesur.
2 A dywedais, I ba le yr âi di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerusalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hŷd hi.
3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.
4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llangc hwn, gan ddywedyd, Jerusalem a gyfanneddir fel maes-drefi, rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.
5 Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.
6 ¶ Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.
7 O Sïon, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyd â merch Babilon.
8 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ol y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch yspeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygad ef.
9 Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd.
10 Cân a llawenycha, merch Sïon: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.
11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd attat.
12 A'r ARGLWYDD a etifedda Judah, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerusalem drachefn.
13 Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

PENNOD III.

1 Dan rith Josua, y dangosir adferiad yr eglwys. 8 Addaw Crist y Blaguryn.

1 AC efe a ddangosodd i mi Josua yr arch-offeiriad yn sefyll ger bron angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.
2 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr ARGLWYDD dydi, Satan; sef yr ARGLWYDD yr hwn a ddewisodd Jerusalem, a'th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?
3 A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel.
4 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymmerwch ymaith y dillad budron oddi am dano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symmudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad.
5 A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a'i gwisgasant â dillad; ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll ger llaw.
6 Ac angel yr ARGLWYDD a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd,
7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ym mysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma.
8 Gwrando, attolwg, Josua yr arch-offeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: o herwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN.
9 Canys wele, y garreg a roddais ger bron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symmudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod.
10 Y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y gelwch bob un ei gymmydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.

PENNOD IV.

1 Trwy weledigaeth y canhwyllbren aur, y dangosir y llwyddiant a gâi sylfaeniad Zorobabel: 11 ac wrth y ddwy olew-wydden, yr arwyddoccâir y ddau enneiniog.

1 A'R angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffrôir un o'i gwsg,
2 Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;
3 A dwy olew-wydden wrtho, y naill o'r tu dehau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi.
4 A mi a attebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5 A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a attebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd.
6 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr ARGLWYDD at Zorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy yspryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? ger bron Zorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.
8 Daeth gair yr ARGLWYDD attaf drachefn, gan ddywedyd,
9 Dwylaw Zorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a'i ddwylaw ef a'i gorphen: a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hebryngodd attoch.
10 Canys pwy a ddïystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Zorobabel gyd â'r saith hynny: llygaid yr ARGLWYDD ydynt, y rhai sydd yn cynniwair trwy yr holl ddaear.
11 ¶ A mi a attebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olew-wydden hyn, ar y tu dehau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy?
12 A mi a attebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bingcyn olew-wydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan o honynt eu hunain yr olew euraid?
13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd.
14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gaingc olew-wydden sydd yn sefyll ger bron ARGLWYDD yr holl ddaear.

PENNOD V.

1 Wrth y llyfr yn ehedeg, y dangosir melldith lladratta a thyngu. 5 Yn rhith gwraig yn eistedd mewn ephah, a thalent o blwm, y dangosir damnedigaeth Babilon.

1 Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.
2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hŷd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd.
3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felldith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladratto, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hol hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu accw, yn ei hol hi.
4 Dygaf hi allan, medd ARGLWYDD y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys y'nghanol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.
5 ¶ Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.
6 A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Ephah ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.
7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd y'nghanol yr ephah.
8 Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr ephah; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.
9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr ephah rhwng y ddaear a'r nefoedd.
10 Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â'r ephah?
11 Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dŷ y'ngwlad Sinar: a hi a sicrhêir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.

PENNOD VI.

1 Gweledigaeth y pedwar cerbyd. 9 Dan rith coronau Josua, y dangosir teml a brenhiniaeth Crist y Blaguryn.

1 HEFYD mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.
2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,
3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwỳnion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.
4 Yna yr attebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5 A'r angel a attebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar yspryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll ger bron ARGLWYDD yr holl ddaear.
6 Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwỳnion a ânt allan ar eu hol hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheu-dir.
7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gynniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cynniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gynniweirasant trwy y ddaear.
8 Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy yspryd yn nhir y gogledd.
9 ¶ A daeth gair yr ARGLWYDD attaf, gan ddywedyd,
10 Cymmer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobïah, a chan Jedaiah, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Josïah mab Sephanïah:
11 Yna cymmer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr arch-offeiriad;
12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gwr a'i enw BLAGURYN: o'i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr ARGLWYDD:
13 Ië, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhin-faingc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhin-faingc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.
14 A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobïah, ac i Jedaiah, ac i Hen mab Sephanïah, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD.
15 A'r pellennigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd attoch. A hyn a fydd, os gan wrandaw y gwrandêwch ar lais yr ARGLWYDD Dduw.

PENNOD VII.

1 Y caethion yn ymofyn am ympryd, 4 Zecharïah yn argyhoeddi eu hympryd hwy. 8 Pechod yw yr achos o'u caethiwed hwy.

1 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenhin Darïus y daeth gair yr ARGLWYDD at Zecharïah, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;
2 Pan anfonasent Sereser, a Regem-melech, a'u gwŷr, i dŷ DDUW, i weddïo ger bron yr ARGLWYDD,
3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd, ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pummed mis, gan ymneillduo, fel y gwneuthum weithian gymmaint o flynyddoedd?
4 ¶ Yna gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,
5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddych yn ymprydio ac yn galaru y pummed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thri ugain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
6 A phan fwyttasoch, a phan yfasoch, onid oeddych yn bwytta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?
7 Oni ddylech wrandaw y geiriau a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy law y prophwydi gynt, pan oedd Jerusalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanneddu y deheu-dir a'r dyffryn-dir?
8 ¶ A daeth gair yr ARGLWYDD at Zecharïah, gan ddywedyd,
9 Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd:
10 Ac na orthrymmwch y weddw a'r amddifad, y dïeithr a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau.
11 Er hyn gwrthodasant wrandaw, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.
12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y lluoedd trwy ei yspryd, yn llaw y prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd.
13 A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; felly y galwasant hwy, ac nis gwrandâwn innau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
14 Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanneddwyd ar eu hol hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffaethwch.

PENNOD VIII.

1 Adnewyddu Jerusalem. 9 Eu cysuro hwy i adeiladu, trwy fod ffafr Duw tu ag attynt. 16 Gweithredoedd da y mae Duw yn eu gofyn ganddynt. 18 Addaw llawenydd a rhyddhâd.

1 DRACHEFN y daeth gair ARGLWYDD y lluoedd attaf, gan ddywedyd,
2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Sïon ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Sïon, a thrigaf yng/nghanol Jerusalem; a Jerusalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd ARGLWYDD y lluoedd, Y mynydd sanctaidd.
4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hen wŷr a hen wragedd a drigant etto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr â'i ffon yn ei law o herwydd amlder dyddiau.
5 A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi.
6 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anhawdd yw hyn yn y dyddiau hyn y'ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anhawdd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd.
7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul.
8 A mi a'u dygaf hwynt, fel y preswyliont y'nghanol Jerusalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn DDUW mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9 ¶ Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Cryfhâer eich dwylaw chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y prophwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml.
10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymmydog.
11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd ARGLWYDD y lluoedd.
12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaear a rydd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn.
13 A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Judah a thŷ Israel, yn felldith ym mysg y cenhedloedd; felly y'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhâer eich dwylaw.
14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y'm digiodd eich tadau, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac nid edifarheais;
15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur llês i Jerusalem, ac i dŷ Judah: nac ofnwch.
16 ¶ Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymmydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;
17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD.
18 ¶ A gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,
19 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pummed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Judah yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel-wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.
20 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Bydd etto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer:
21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i'r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo ger bron yr ARGLWYDD, ac i geisio ARGLWYDD y lluoedd: minnau a âf hefyd.
22 Ië, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerusalem, ac i weddïo ger bron yr ARGLWYDD.
23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, y'ngodrau gwr o Iuddew, gan ddywedyd, Awn gyd â chwi: canys clywsom fod Duw gyd â chwi.

PENNOD IX.

1 Duw yn amddiffyn ei eglwys. 9 Annog Sïon i lawenychu am ddyfodiad Crist, a'i heddychol frenhiniaeth. 12 Duw yn addaw buddugoliaeth ac amddiffyn.

1 BAICH gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orphwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel.
2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.
3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.
4 Wele, yr ARGLWYDD a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.
5 Ascalon a'i gwel, ac a ofna; a Gaza, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenhin allan o Gaza, ac Ascalon ni chyfanneddir.
6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.
7 A mi a gymmeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n DUW ni, fel y byddo megis pennaeth yn Judah, ac Ecron megis Jebusiad.
8 A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymmwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.
9 ¶ Bydd lawen iawn, ti ferch Sïon; a chrechwena, ha ferch Jerusalem: wele dy frenhin yn dyfod attat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.
10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Ephraim, a'r march oddi wrth Jerusalem, a'r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.
11 A thithau, trwy waed dy ammod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.
12 ¶ Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddyw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddau-ddyblyg:
13 Pan annelwyf Judah i mi, ac y llanwyf y bwa âg Ephraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Sïon, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gwr grymmus:
14 A'r ARGLWYDD a welir trostynt, a'i saeth ef a â allan fel mellten: a'r ARGLWYDD DDUW a gân âg udgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y dehau.
15 ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.
16 A'r ARGLWYDD eu DUW a'u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef.
17 Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuaingc, a gwin y gwyryfon.

PENNOD X.

1 Duw sydd raid ymgats âg ef, ac nid eilunod. 5 Megis yr ymwelodd efe â'i ddïadell am eu pechod, felly yr achub ac yr adfera efe hwy.

1 ERCHWCH gan yr ARGLWYDD wlaw mewn pryd diweddar-law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymmylau, ac a ddŷd iddynt gawod o wlaw, i bob un laswellt yn y maes.
2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.
3 Wrth y bugeiliaid yr ennynodd fy llid, a mi a gospais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd â'i braidd tŷ Judah, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.
4 Y gongl a ddaeth allan o hono, yr hoel o hono, y bwa rhyfel o hono, a phob gorthrymmwr ynghyd a ddaeth o hono.
5 ¶ A byddant fel cawri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyd â hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.
6 A nerthaf dŷ Judah, a gwaredaf dŷ Joseph, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: o herwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.
7 Bydd Ephraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win: a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD.
8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.
9 A hauaf hwynt ym mysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyd â'u plant, a dychwelant.
10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aipht, a chasglaf hwynt o Assyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.
11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddyhysbydd: a disgynir balchder Assyria, a theyrnwïalen yr Aipht a gilia ymaith.
12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.

PENNOD XI.

1 Dinystr Jerusalem. 3 Gofalu am yr etholedigion, a gwrthod y lleill. 10 Torri ffon Tegwch a Rhwymau, trwy wrthod Crist. 15 Arwydd a melldith y bugail ynfyd.

1 Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.
2 Y ffynnidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin gynhauaf.
3 ¶ Y mae llef udfa y bugeiliaid; am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuaingc am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy NUW; Portha ddefaid y lladdfa;
5 Y rhai y mae eu perchennogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a'u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi: a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.
6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymmydog, ac i law ei frenhin; a hwy a darawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.
7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymmerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.
8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau.
9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.
10 ¶ A chymmerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfammod yr hwn a ammodaswn â'r holl bobl.
11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.
12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid ê, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.
13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymmerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr ARGLWYDD, i'r crochenydd.
14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Judah ac Israel.
15 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymmer etto i ti offer bugail ffol.
16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuangc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwytty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.
17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad dehau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad dehau gan dywyllu a dywylla.

PENNOD XII.

1 Jerusalem yn phïol gwsg a dychryn iddi ei hun, 3 ac yn faen pwysfawr i'w gwrthwynebwyr. 6 Buddugawl adferiad Judah. 9 Edifeirwch Jerusalem,

1 Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio yspryd dyn ynddo.
2 Wele fi yn gwneuthur Jerusalem yn phïol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Judah, ac yn erbyn Jerusalem.
3 ¶ A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerusalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho âg ef, yn ddïau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.
4 Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y tarawaf bob march â syndra, a'i farchog âg ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dŷ Judah, a tharawaf holl feirch y bobl â dallineb.
5 A thywysogion Judah a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerusalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt.
6 ¶ Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Judah fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddehau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerusalem a gyfanneddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerusalem.
7 Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Judah yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerusalem, yn erbyn Judah.
8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerusalem: a bydd y llesgaf o honynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel DUW, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt.
9 ¶ Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerusalem.
10 A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd am dano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant am dano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.
11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerusalem, megis galar Hadad-rimmon yn nyffryn Megidon.
12 A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.

PENNOD XIII.

1 Ffynnon i lanhâu Jerusalem 2 oddi wrth ddelw-addoliaeth a gau-brophwydoliaeth. 7 Marwolaeth Crist, a phrofi y drydedd ran.

1 Y DYDD hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerusalem, i bechod ac aflendid.
2 ¶ A bydd y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y prophwydi ac yspryd aflendid o'r wlad.
3 A bydd pan brophwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenhedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr ARGLWYDD: a'i dad a'i fam a'i cenhedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn prophwydo.
4 A bydd y dydd hwnnw, i'r prophwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo brophwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:
5 Ond efe a ddywed, Nid prophwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuengctid.
6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylaw? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.
7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gwr sydd gyfaill i mi, medd ARGLWYDD y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.
8 A bydd yn yr holl dir, medd yr ARGLWYDD, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.
9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.

PENNOD XIV

1 Distrywio dinystrwyr Jerusalem. 4 Dyfodiad Crist, a rhadau ei frenhiniaeth ef. 12 Pla gelynion Jerusalem. 16 Y gweddill a dry at yr Arglwydd, 20 a sanctaidd fydd eu hanrhaith.

1 Wele ddydd yr ARGLWYDD yn dyfod, a rhennir dy yspail yn dy ganol di.
2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerusalem: a'r ddinas a oresgynir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.
3 A'r ARGLWYDD a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gâd.
4 ¶ A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olew-wydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerusalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olew-wydd a hyllt ar draws ei hanner tu a'r dwyrain a thu a'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symmud tu a'r gogledd, a'i hanner tu a'r dehau.
5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrhaedd hyd Azal : a ffowch fel y ffoisoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Uzzïah brenhin Judah: a daw yr ARGLWYDD fy NUW, a'r holl saint gyd â thi.
6 A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll:
7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adweinir gan yr ARGLWYDD, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.
8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerusalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tu a môr y dwyrain, a'u hanner tu a'r môr eithaf: haf a gauaf y bydd hyn.
9 A'r ARGLWYDD a fydd yn Frenhin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un ARGLWYDD, a'i enw yn un.
10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu dehau i Jerusalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanneddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwrŷfau y brenhin.
11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerusalem a gyfanneddir yn ddïenbyd.
12 ¶ A hyn fydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerusalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.
13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr ARGLWYDD yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymmydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymmydog.
14 A Judah hefyd a ryfela yn Jerusalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.
15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.
16 ¶ A bydd i bob un a adawer o'r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerusalem, fyned i fynu o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenhin, ARGLWYDD y lluoedd, ac i gadw gwyl y pebyll.
17 A phwy bynnag nid êl i fynu o deuluoedd y ddaear i Jerusalem, i addoli y Brenhin, ARGLWYDD y lluoedd, ni bydd gwlaw arnynt.
18 Ac os teulu yr Aipht nid â i fynu, ac ni ddaw, y rhai nid oes gwlaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr ARGLWYDD y cenhedloedd y rhai nid esgynant i gadw gwyl y pebyll.
19 Hyn a fydd cosb yr Aipht, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fynu i gadw gŵyl y pebyll.
20 ¶ Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr ARGLWYDD fel meiliau ger bron yr allor.
21 Bydd pob crochan yn Jerusalem ac yn Judah yn Sancteiddrwydd i ARGLWYDD y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymmerant o honynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd y dydd hwnnw.