YR EFENGYL YN OL SANT MARC
PENNOD I.
2 Swydd Ioan Fedyddiwr. 9 Bedyddio yr lesu, 12 a'i demtio. 14 Efe yn pregethu; 16 yn galw Petr, Andreas, Iago, ac loan: 23 yn iachâu dyn ag yspryd aflan ynddo, 29 a mam gwraig Petr, 32 a llawer o gleifion: 41 ac yn glanhâu y gwahan-glwyfws.
1:1 Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw;
1:2 Fel yr ysgrifenwyd yn y prophwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.
1:3 Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottôwch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.
1:4 Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
1:5 Ac aeth allan atto ef holl wlad Judea, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
1:6 Ac Ioan oedd wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwŷllt.
1:7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i'w dattod.
1:8 Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân.
1:9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
1:10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fynu o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Ysbryd yn disgyn arno megis colommen.
1:11 A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.
1:12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr ysbryd ef i'r diffaethwch.
1:13 Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyd â'r gwŷllt-filod: a'r angylion a weiniasant iddo.
1:14 Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw;
1:15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhâwch, a chredwch yr efengyl.
1:16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)
1:17 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion.
1:18 Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef.
1:19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Zebedêus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau.
1:20 Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Zebedêus yn y llong gyd â'r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ol ef.
1:21 A hwy a aethant i mewn i Capernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.
1:22 A synnasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
1:23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo yspryd aflan: ac efe a lefodd,
1:24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.
1:25 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o honi?o.
1:26 Yna wedi i'r yspryd aflan ei rwygo ef, a gwaeddi â llef uchel, efe a ddaeth allan o honi?o.
1:27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ïe, yr ysprydion aflan, a hwy yn ufuddhâu iddo.
1:28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn am dano dros yr holl wlad o amgylch Galilea.
1:29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gyd âg Iago ac Ioan.
1:30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.
1:31 Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
1:32 Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.
1:33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
1:34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
1:35 A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.
1:36 A Simon, a'r rhai oedd gyd âg ef, a'i dilynasant ef.
1:37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.
1:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.
1:39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
1:40 A daeth atto ef un gwahan-glwyfus, gan ymbil âg ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhâu.
1:41 A'r Iesu, gan dosturio, a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.
1:42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahan-glwyf âg ef yn ebrwydd, a glanhâwyd ef.
1:43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn y man;
1:44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
1:45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu y gair ar led, fel na allai y Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant atto ef.
PENNOD II.
3 Crist yn iachâu un claf o'r parlys; 14 yn galw Matthew o'r dollfa; 15 yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid; 18 yn esgusodi ei ddisgyblion, am nad ymprydient, 23
ac am dynnu y tywys ŷd ar y dydd Sabbath.
1 Ac efe a aeth drachefn i Capernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn y tŷ.
2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn nod yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.
3 A daethant atto, gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
4 A chan na allent nesâu atto gan y dyrfa, didôi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys.
5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.
6 Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau,
7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddeu pechodau, ond Duw yn unig?
8 Ac yn ebrwydd, pan wybu yr Iesu yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?
9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia?
10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o'r parlys,)
11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dos i'th dŷ.
12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymmerth i fynu ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth atto; ac efe a'u dysgodd hwynt.
14 ¶ Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alphêus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.
15 A bu, a'r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyd â'r Iesu a'i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.
16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid ef yn bwytta gyd â'r publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwytta ac yn yfed gyd â'r publicanod a'r pechaduriaid?
17 A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18 ¶ A disgyblion Ioan a'r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell brïodas ymprydio, tra fyddo y prïodas-fab gyd â hwynt? tra fyddo ganddynt y prïodas-fab gyd â hwynt, ni allant ymprydio.
20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïodas-fab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dỳn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.
22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia y costrelau, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23 ¶ A bu iddo fyned trwy yr ŷd ar y Sabbath; a'i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu y tywys.
24 A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gyd âg ef?
26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abïathar yr arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwytta, ond i'r offeiriaid yn unig, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd âg ef
27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath:
28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.
PENNOD III.
1 Crist yn iachâu y llaw wedi gwywo, 10 a llawer o glefydau eraill: 11 yn ceryddu yr ysprydion aflan: 13 yn dewis ei ddeuddeg apostol: 22 yn atteb cabledd y rhai a ddywedent
ei fod ef yn bwrw allan gythreulîaid trwy Beelzebub; 31 ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.
1 Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.
2 A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath; fel y cyhuddent ef.
3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo'r llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.
4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.
5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllawn, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
6 A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgynghorasant yn ebrwydd gyd â'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
7 A'r Iesu gyd â'i ddisgyblion a giliodd tu a'r môr: a llïaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Judea,
8 Ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, llïaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethai efe, a ddaethant atto.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.
10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd âg ef, cynnifer ag oedd â phläau arnynt.
11 A'r ysprydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
12 Yntau a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13 ¶ Ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.
14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gyd âg ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu;
15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iachâu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.
16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr;
17 Ac Iago fab Zebedêus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)
18 Ac Andreas, a Phylip, a Bartholomëus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alphêus, a Thadëus, a Simon y Canaanead,
19 A Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.
20 A'r dyrfa a ymgynhullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.
21 A phan glybu'r eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o'i bwyll.
22 ¶ A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerusalem, a ddywedasant fod Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.
26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.
28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:
29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
30 Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.
31 ¶ Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.
32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.
33 Ac efe a'u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?
34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.
35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.
PENNOD IV.
1 Dammeg yr hauwr, 14 a'i dehongliad. 21 Rhaid i ni gyfrannu goleuni ein gwybodaeth i eraill. 26 Dammeg yr had yn tyfu yn ddïarwybod, 30 a'r gronyn mwstard. 35 Crist yn gostegu y dymmestl ar y môr.
1 Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.
2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef,
3 Gwrandêwch: Wele, hauwr a aeth allan i hau:
4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a'i difasant.
5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.
6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.
7 A pheth a syrthiodd ym mhlith drain; a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.
8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyd â'r deuddeg a ofynasant iddo am y ddammeg.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i'r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:
12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi'r ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14 ¶ Yr hauwr sydd yn hau y gair.
15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle yr hauir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.
16 A'r rhai hyn yr un ffunud yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,
19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
20 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
21 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw canwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?
22 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.
23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandêwch.
25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ïe, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26 ¶ Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;
27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.
28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi?i ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.
29 A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhauaf.
30 ¶ Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?
31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan hauer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;
32 Eithr wedi yr hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.
33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:
34 Ond heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilldu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
35 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhâu hi, Awn trosodd i'r tu draw.
36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymmerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gyd âg ef.
37 Ac fe a gyfododd tymmestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.
38 Ac yr oedd efe yn y pen ol i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, ai difatter gennyt ein colli ni?
39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.
40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?
41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhâu iddo?
PENNOD V.
1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid: 13 hwythau yn myned i'r moch. 25 Y mae efe yn iachâu y wraig o'r diferlif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.
1 A hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.
2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu âg ef o blith y beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo,
3 Yr hwn oedd â'i drigfan ym mhlith y beddau; ac ni allai neb, ïe, â chadwynau, ei rwymo ef:
4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ym mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;
7 A chan waeddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn.)
9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a attebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer o honom.
10 Ac efe a fawr-ymbiliodd âg ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.
11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.
12 A'r holl gythreuliaid a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13 Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.
14 A'r rhai a borthent y moch a ffoisant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
16 A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.
17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.
18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai'r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd âg ef.
19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhâu wrthyt.
20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21 ¶ Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r làn arall, ymgasglodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.
22 Ac wele, un o bennaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;
23 Ac efe a fawr-ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar drangc: attolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachâer hi; a byw fydd.
24 A'r Iesu a aeth gyd âg ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymmaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth,
27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ol, ac a gyffyrddodd â'i wisg ef;
28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.
29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiachâu o'r pla.
30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31 A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto yr aflonyddi yr Athraw?
36 A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
37 Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.
38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu'r cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.
39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw'r eneth, eithr cysgu y mae.
40 A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gyd âg ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.
41 Ac wedi ymaflyd yn llaw yr eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.
42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.
43 Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwytta.