AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y CORINTHIAID.
PENNOD I.
3 Y mae yr apostol yn eu cysuro hwy yn erhyn trallod, trwy y diddanwch a'r ymwared a roisai Duw iddo ef, megis yn ei holl gyfyngderau, 8 felly yn enwedig yn ei berygl diweddar yn Asia: 12 a chan gymmeryd tystiolaeth ei gydwyhod ei hun, a'r eiddynt hwythau, am ei ddidwyll ddull yn pregethu anghyfnewidiol wirionedd yr efengyl, 15 y mae yn ei esgusodi ei hun nas daethai attynt; gan iddo wneuthur hynny nid o ysgafnder meddwl, eithr o'i dynerwch tu ag attynt hwy.
1:1 PAUL, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timothëus, at eglwjs Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyd â'r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia:
1:2 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:3 Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch;
1:4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu y rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch â'r hwn y'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.
1:5 Oblegid fel y mae dïoddefiadau Crist yn amlhâu ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhâu.
1:6 A pha un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dïoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dïoddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny.
1:7 Ac y mae ein gobaith yn sicr am danoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o'r dïoddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.
1:8 Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwch ben ein gallu, hyd onid oeddym yn ammeu cael byw hefyd.
1:9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw:
1:10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw:
1:11 A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder dïolch gan lawer drosom.
1:12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tu ag attoch chwi.
1:13 Canys nid ydym yn ysgrifenu amgen bethau attoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd;
1:14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.
1:15 Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail ras;
1:16 A myned heb eich llaw chwi i Macedonia, a dyfod drachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennych i Judea.
1:17 Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyd â mi, ïe, ïe, a nag ê, nag ê?
1:18 Eithr ffyddlawn yw Duw, a'n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ïe, a nag ê.
1:19 Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimothëus, nid ydoedd ïe, a nag ê, eithr ynddo ef ïe ydoedd.
1:20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ïe, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.
1:21 A'r hwn sydd yn ein cadarnhâu ni gyd â chwi yng Nghrist, ac a'n henneiniodd ni, yw Duw:
1:22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes ernes yr Yspryd yn ein calonnau.
1:23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi na ddeuthum etto i Corinth.
1:24 Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i'ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
PENNOD II.
1 Wedi iddo ddangos yr achos na ddaethai efe attynt, 6 y mae yn erchi iddynt faddeu i'r dyn a ysgymmunasid, a'i gysuro: 10 megis y maddeuasai yntau iddo, ar ei icir edifeirwch: 12 gan ddangos hefyd yr achos paham yr aethai efe o Troas i Macedonia; 14 a'r llwyddiant a'r ffynniant a roisai Duw i'w bregeth ef ym mhob lle.
2:1 EITHR mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch attoch.
2:2 Oblegid os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw yr hwn a'm llawenhâ i, ond yr hwn a dristâwyd gennyf fi?
2:3 Ac mi a ysgrifenais hyn yma attoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhâu; gan hyderu am danoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
2:4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifenais attoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristâid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tu ag attoch chwi.
2:5 Ac os gwnaeth neb dristâu, ni wnaeth efe i mi dristâu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
2:6 Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.
2:7 Yn gymmaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddeu iddo, a'i ddiddanu; rhag llyngcu y cyfryw gan ormod tristwch.
2:8 Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi gadarnhâu eich cariad tu ag atto ef.
2:9 Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifenais, fel y gwybyddwn brawf o honoch, a ydych ufudd ym mhob peth.
2:10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, y'ngolwg Crist;
2:11 Fel na'n siommer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
2:12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Troas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,
2:13 Ni chefais lonydd yn fy yspryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthum ymaith i Macedonia.
2:14 Ond i Dduw y byddo y dïolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhâu arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle.
2:15 Canys pêr-arogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
2:16 I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?
2:17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, y'ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.
PENNOD III.
1 Rhag i'w gau-athrawon hwy roi gwag-orfoledd yn ei erbyn ef, y mae yn dangos fod ffydd a doniau y Corinthiaid yn canmol ei weinidogaeth ef yn ddigon helaeth: 6 ac ar hyn, trwy gyffelybrwydd rhwng gweinidogion y ddeddf a'r efengyl, 12 y mae yn profi fod ei weinidogaeth ef yn rhagori, o gymmaint ag y mae efengyl y bywyd a rhyddid yn fwy gogoneddus na chyfraith damnedigaeth.
3:1 A I dechreu yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?
3:2 Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeallir ac a ddarllenir gan bob dyn:
3:3 Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg ingc, ond âg Yspryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.
3:4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:
3:5 Nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i feddwl dim megis o honom ein hunain eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;
3:6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymmwys y testament newydd; nid i'r llythyren, ond i'r yspryd: canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr yspryd sydd yn bywhâu.
3:7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythyrenau wedi eu hargraphu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynebpryd, yr hwn ogoniant a ddilëwyd;
3:8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
3:9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.
3:10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra rhagorol.
3:11 Oblegid os bu yr hyn a ddilëid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus.
3:12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:
3:13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddilëid.
3:14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddilëir.
3:15 Eithr hyd y dydd heddyw, pan ddarllenir Moses, y mae y gorchudd ar eu calon hwynt.
3:16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
3:17 Eithr yr Arglwydd yw yr Yspryd: a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.
3:18 Eithr nyni oll âg wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.
PENNOD IV.
1 Y mae yn dangos arferu o hono ef bob math ar burdeb a diwydrwydd ffyddlawn wrth bregethu yr efengyl; 7 a bod y blinderau a'r erlid yr oedd efe beunydd yn eu dïoddef o achos yr efengyl, er moliant i alla Duw, 12 a llesâd i'r eglwys, 16 a gogoniant tragywyddul iddo yntau.
4:1 AM hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu:
4:2 Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwysdra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhâd y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion y'ngolwg Duw.
4:3 Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:
4:4 Yn y rhai y dallodd duw y byd hwn feddyliau y rhai digred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.
4:5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.
4:6 Canys Duw, yr hwn a orchymynodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.
4:7 Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.
4:8 Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gynghor, ond nid yn ddïobaith;
4:9 Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;
4:10 Gan gylch-arwain yn y corph bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni.
4:11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
4:12 Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.
4:13 A chan fod gennym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifenwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;
4:14 Gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod ger bron gyd â chwi.
4:15 Canys pob peth sydd er eich hodd yn dda iddo mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhâu, trwy ddïolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.
4:16 O herwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
4:17 Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni;
4:18 Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragywyddol.
PENNOD V.
1 Ei fod ef mewn sicr obaith o'r gogoniant tragywyddol, 9 a disgwyl am dano, ac am y farn gyffredinol, yn ymegnïo i gadw cydwybod dda; 12 nid er mwyn ymffrostio yn hynny, 14 eithr megis un wedi derbyn bywyd oddi wrth Grist, yn ceisio byw fel creadur newydd i Grist yn unig, 18 a chymmodi eraill â Duw yng Nghrist, trwy weinidogaeth y cymmod.
5:1 CANYS ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd.
5:2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n tŷ sydd o'r nef:
5:3 Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y'n ceir.
5:4 Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein dïosg, ond ein harwisgo, fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5:5 A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Yspryd.
5:6 Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra yr ydym yn gartrefol yn y corph, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd:
5:7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
5:8 Ond yr ydym yn hŷf, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o'r corph, a chartrefu gyd â'r Arglwydd.
5:9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymmeradwy ganddo ef.
5:10 Canys rhaid i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.
5:11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion; eithr i Dduw y'n gwnaed yn hysbys: ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.
5:12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o'n plegid ni, fel y caffoch beth i atteb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.
5:13 Canys pa un bynnag ai ammhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym.
5:14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymmell ni, gan farnu o honom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb:
5:15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
5:16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ol y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ol y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.
5:17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.
5:18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod;
5:19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymmod.
5:20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw.
5:21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
PENNOD VI.
1 Ddarfod ido ei ddangos ei hun yn weinidog ffydlawn i Grist, trwy ei gynghorion, 3 a diniweidrwydd ei fuchedd, 4 a'i ddïoddefgarwch mewn pob math ar gystudd ac ammharch er mwyn yr efengyl: 11 am yr hon y mae efe yn hyfach yn llefaru yn eu plith, am fod ei galon ef yn agored iddynt: 13 ac y mae efe yn disgwyl am y cyfrys ewyllysgarwch drachefn oddi wrthynt hwy; 14 gan eu hannog i ochelyd cymdeithas ac aflendid eilun-addolwyr, a hwythau yn demlau y Duw byw.
6:1 A NINNAU, gan gyd-weithio, ydym yn attolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer.
6:2 (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais: wele yn awr yr amser cymeradwy; wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.)
6:3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth:
6:4 Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,
6:5 Mewn gwïalennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,
6:6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir-ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith,
6:7 Y'ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy,
6:8 Trwy barch ac ammharch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir;
6:9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;
6:10 Megis wedi ein tristâu, ond yn wastad yn llawen; megis yn diodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond etto yn meddiannu pob peth.
6:11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd.
6:12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain.
6:13 Ond am yr un tâal, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd.
6:14 Na iauer chwi yn anghymharus gyd â'r rhai digred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder acanghyfiawnder? a pha gymmundeb rhwng goleuni a thywyllwch?
6:15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadyn gyd âg anghredadyn?
6:16 A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
6:17 O herwydd paham deuwch allan o'u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a'ch derbyniaf chwi,
6:l8 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
PENNOD VII.
1 Y mae efe ym mhellach yn eu hannog i burdeb buchedd; 2 ac i ddwyn y cyfryw ewyllys da tu ag atto ef, ag yr oedd yntau yn ei ddwyn tu ag attynt hwy: 3 a rhag iddynt hwy feddwl ei fod ef yn ammeu hynny, y mae yn dangos pa gysur a gymmerodd efe yn ei flinderau, pan fynegodd Titus y tristwch duwiol a weithiasai ei epistol cyntaf ef ynddynt, 13 a'u caredigrwydd hwynt, a'u hufudd-dod tu ag at Titus, megis y bostiasai efe o'r blaen am danynt hwy.
7:1 AM hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhâwn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
7:2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb.
7:3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyd â chwi.
7:4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o'ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra-chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder.
7:5 Canys wedi ein dyfod ni i Macedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.
7:6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus.
7:7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â'r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich zêl tu ag attaf fi; fel y llawenheais i yn fwy.
7:8 Canys er i mi eich tristâu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser.
7:9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristâu chwi, ond am eich tristâu i edifeirwch: canys tristâu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.
7:10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch o honi: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.
7:11 Canys wele hyn yma, eich tristâu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ïe, pa amddiffyn, ïe, pa soriant, ïe, pa ofn, ïe, pa awydd-fryd, ïe, pa zêl, ïe, pa ddïal! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.
7:12 O herwydd paham, er ysgrifenu o honof attoch, ni ysgrifenais o'i blegid ef a wnaethai y cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch ger bron Duw.
7:13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwythâu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.
7:14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef am danoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus.
7:15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tu ag attoch, wrth gofio o hono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
7:16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
PENNOD VIII.
1 Y mae yn eu hannog hwynt i gyfrannu yn helaeth i'r saint tlodion yn Jerusalem, trwy siampl y Macedoniaid, 7 trwy ganmol eu parodrwydd hwy o'r blaen, 9 trwy siampl Crist, 14 a thrwy y llesâd ysprydol a ddaw iddynt hwy o hynny: 16 gan ddangos iddynt burdeb ac ewyllysgarwch Titus, ac eraill o'r hrodyr, y rhai, ar ei ddeisyfiad, a'i annog, a'i orchymyn ef, a ddaethent attynt hwy yn bwrpasol ynghylch y peth hwn.
8:1 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
8:2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.
8:3 Oblegid yn ol eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwch law eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar o honynt eu hunain;
8:4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.
8:5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddym ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:
8:6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
8:7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni; edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
8:8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
8:9 Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
8:10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a rag-ddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
8:11 Ac yn awr gorphenwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhâu hefyd o'r hyn sydd gennych.
8:12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o'r blaen, yn ol yr hyn sydd gan un, y mae yn gymmeradwy, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo.
8:13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;
8:14 Eithr o gymhwysdra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwysdra:
8:15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.
8:16 Eithr i Dduw y byddo y dïolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch y'nghalon Titus.
8:17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth attoch o'i wirfodd ei hun.
8:18 Ni a anfonasom hefyd gyd âg ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy y holl eglwysi;
8:19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gyd-ymdaith â ni â'r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:
8:20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym:
8:21 Y rhai ydym yn rhag-ddarpar pethau onest, nid yn unig y'ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd y'ngolwg dynion.
8:22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch.
8:23 Os gofynir am Titus, fy nghyd-ymmaith yw, a chyd-weithydd tu ag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau y eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
8:24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o'ch cariad, ac o'n bost ninnau am danoch chwi, y'ngolwg yr eglwysi.
PENNOD IX.
1 Y mae yn dangos yr achos paham y danfonasai efe Titus a'i frodyr o'r blaen, er ei fod yn gwybod eu parodrwydd hwy: 6 ac y mae yn eu cynhyrfu i roddi elusen yn helaeth; gan fod hyn megis math ar hauad had, 10 yr hwn a ddwg iddynt gynnyrch, 13 ac a bair aberth mawr o foliant i Dduw.
9:1 CANYS tu ag at am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu attoch:
9:2 O herwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid am danoch chwi, fod Achaia wedi ymbarottôi er y llynedd; a'r zêl a ddaeth oddi wrthych chwi a annogodd lawer iawn.
9:3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni am danoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbarottôi:
9:4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a'ch cael chwi yn ammharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.
9:5 Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol attolygu i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen attoch, a rhag-ddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd: fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.
9:6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fêd hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.
9:7 Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymmell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
9:8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tu ag attoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:
9:9 (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i'r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.
9:10 A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r hauwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhâed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)
9:11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddïolch i Dduw.
9:12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi dïolch i Dduw;
9:13 Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw o herwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac o herwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;
9:14 A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.
9:15 Ac i Dduw y byddo y dïolch am ei ddawn anhraethol.
PENNOD 10
1 Yn erbyn y gau-apostolion, y rhai a ddïystyrent wendid ei bresennoldeb corphorol ef, y mae yn gosod allan y nerth a'r awdurdod ysprydol y gwisgid ef â hwynt yn erbyn pob gwrthwyneb allu; 7 gan eu sicrhâu hwy, y ceir ef, ar ei ddyfodiad, mor nerthol mewn gair, ag ydyw efe yr awrhon yn absennol yn ei ysgrifen ; 12 a chan feio ar y gau-athrawon, am ymgyrhaeddyd y tu hwnt i'w mesur, ac ymffrostio yn llafur gwŷr eraill.
10:1 A MYFI Paul wyf fy hun yn attolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷf arnoch.
10:2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hŷf â'r hyder yr wyf yn meddwl bod tu ag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ol y cnawd.
10:3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd:
10:4 (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr;)
10:5 Gan fwrw dychymmygion i lawr, a phob uchder a'r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;
10:6 Ac yn barod gennym ddïal ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.
10:7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ol y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn o hono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.
10:8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinystr chwi, ni'm cywilyddid:
10:9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.
10:10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presennoldeb y corph sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.
10:11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.
10:12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.
10:13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o'n mesur, ond yn ol mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd.
10:14 Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd attoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur; canys hyd attoch chwi hefyd y daethom âg efengyl Crist:
10:15 Nid gan fostio hyd at bethau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ol ein rheol yn ehelaeth,
10:16 I bregethu yr efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes.
10:17 Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
10:18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymmeradwy; ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
PENNOD XI.
1 O'i eiddigedd dros y Corinthiaid, y rhai oedd yn dangos eu hod yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r gau-apostolion nag o hono ef, y mae yn gorfod, yn erbyn ei ewyllys, ei ganmol ei hun, 5 trwy ei gystadlu ei hun â'r apostolion pennaf, 7 a'i fod yn pregethu yr efengyl yn rhad ac yn ddigost iddynt hwy : 13 gan ddangos nad oedd efe ddim gwaeth na'r gweithredwyr twyllodrus hynny mewn un rhagorfraint o'r ddeddf, 23 a'i fod yn rhagori arnynt yng ngwasanaeth Crist, ac ym mhob math ar ddïoddefiadau o achos ei weinidogaeth.
11:1 NA chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi.
11:2 Canys eiddigus wyf trosoch âg eiddigedd duwiol: canys mi a'ch dyweddïais chwi i un gŵr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist.
11:3 Ond y mae amaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwysdra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.
11:4 Canys yn wir os ydyw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech âg ef.
11:5 Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ol i'r apostolion pennaf.
11:6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhâwyd yn hollol ym mhob dim.
11:7 A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad?
11:8 Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy, i'ch gwasanaethu.
11:9 A phan oeddwn yn bresennol gyd â chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia: ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.
11:10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn y'ngwledydd Achaia.
11:11 Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.
11:12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.
11:13 Canys y cyfryw gau-apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.
11:14 Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.
11:15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd.
11:16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol: os amgen, etto derbyniwch fi fel ffol, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.
11:17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.
11:18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.
11:19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol.
11:20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i'ch caethiwo, os bydd un i'ch llwyr-fwytta, os bydd un yn cymmeryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb.
11:21 Am ammharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hŷf wyf finnau hefyd.
11:22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau.
11:23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? {yr ydwyf yn dywedyd yn ffol,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwïalenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.
11:24 Gan yr Iuddewon bùmwaith y derbyniais ddeugain gwïalennod ond un.
11:25 Tair gwaith y'm curwyd â gwïail; unwaith y'm llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor;
11:26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llif-ddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym hlith brodyr gau:
11:27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.
11:28 Heblaw y pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.
11:29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi?
11:30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i'm gwendid.
11:31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
11:32 Yn Damascus, y llywydd dan Aretus y brenhin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i:
11:33 A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dïengais o'i ddwylo ef.
PENNOD XII.
1 Er gallu o hono ef orfoleddu yn ei ddatguddiadau rhyfeddol, er mwyn gosod allan ei apostoliaeth, 9 etto mae yn well ganddo orfoleddu yn ei wendid: 11 gan fwrw bai arnynt hwy am ei yrru ef i wag-fostio fel hyn. 14 Mae yn addaw dyfod attynt hwy drachefn er hynny trwy dadol garedigrwydd, 20 er ei fod yn ofni y caiff yno lawer o ddrwg-weithredwyr, ac annhrefn cyffredinol.
12:1 YMFFROSTIO yn ddïau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau yr Arglwydd.
12:2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corph, ni wn; ai allan o'r corph, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef,
12:3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corph, ai allan o'r corph ni wn i: Duw a ŵyr;)
12:4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau annhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlawn i ddyn eu hadrodd.
12:5 Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr am danaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.
12:6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffol; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif o honof fi uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.
12:7 Ac fel na'm tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i'm cernodio, fel na'm tra-dyrchefid.
12:8 Am y peth hwn mi a attolygais i'r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi.
12:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi.
12:10 Am hynny yr wyf yn foddlawn mewn gwendid, mewn ammharch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
12:11 Mi a euthum yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a'm gyrrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ol i'r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim.
12:12 Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol.
12:13 Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, mwy na'r eglwysi eraill, oddi eithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam.
12:14 Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod attoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai y plant gasglu trysor i'r rhïeni, ond y rhïeni i'r plant.
12:15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.
12:16 Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi trwy ddichell.
12:17 A wneuthum i elw o honoch chwi trwy neb o'r rhai a ddanfonais attoch?
12:18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chyd âg ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?
12:19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.
12:20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a'm cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:
12:21 Rhag, pan ddelwyf drachefn, fod i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.
PENNOD XIII.
1 Y mae yn ygwth pechaduriaid dïedifeiriol â thoster a gallu ei apostoliaeth. 5 A chan eu cynghori hwynt i brofi eu ffydd, 7 ac i ddiwygio eu beiau cyn ei ddyfod ef, 11 y mae yn diweddu ei epistol, trwy eu hannog hwy yn gyffredinol, a gweddïo.
13:1 Y DRYDEDD waith hon yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.
13:2 Rhag-ddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhag-ddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awrhon yr ydwyf yn ysgrifenu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf:
13:3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi.
13:4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, etto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd âg ef trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.
13:5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddi eithr i chwi fod yn anghymmeradwy?
13:6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.
13:7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr yrnddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymmeradwy.
13:8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd.
13:9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi.
13:10 Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifenu y pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ol yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinystr.
13:11 Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyd â chwi.
13:12 Anherchwch eich gilydd & chusan sanctaidd. Y mae y holl saint yn eich annerch chwi.
13:13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyd â chwi oll. Amen.
¶ Yr ail Corinthiaid a ysgrifenwyd o Philippi ym Macedonia, gyd â Thitus a Luc.