EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT TITUS
PENNOD I.
5 I ba beth y gadawyd Titus yn Creta. 6 Pa gynheddfau a ddylai fod mewn esgob. 11 Rhaid yw cau safnau y rhai a ddysgant y pethau ni ddylent: 12 a pha fath wŷr ydynt.
1:1 PAUL, gwas Duw, ac apostol Iesu Grist, yn ol ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ol duwioldeb;
1:2 I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r byd;
1:3 Eithr mewn amseroedd prïodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr;
1:4 At Titus, fy mab naturiol yn ol y ffydd gyffredinol: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni.
1:5 Er mwyn hyn y'th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ol, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti:
1:6 Os yw neb yn ddïargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant ffyddlawn, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd:
1:7 Canys rhaid i esgob fod yn ddïargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllawn, nid yn wingar, nid yn darawydd, nid yn budr-elwa;
1:8 Eithr yn lletŷgar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus;
1:9 Yn dal yn lew y gair ffyddlawn yn ol yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi y rhai sydd yn gwrth-ddywedyd.
1:10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer-siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o'r enwaediad:
1:11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu y pethau ni ddylid, er mwyn budr-elw.
1:12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o'u prophwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog.
1:13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
1:14 Heb ddal ar chwedlau Iuddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.
1:15 Pur yn ddïau yw pob peth i'r rhai pur: eithr i'r rhai halogedig a'r di-ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn nod eu meddwl a'u cydwybod hwy.
1:16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.
PENNOD II.
1 Y mae yn hyfforddi Titus yn ei athrawiaeth, ac yn ei fuchedd. 9 Rhan gweision, a phob math ar Gristionogion.
2:1 EITHR llefara di'r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:
2:2 Bod o'r hynafgwŷr yn sobr, yn onest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, y'nghariad, mewn amynedd:
2:3 Bod o'r hynaf-wragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymrôi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:
2:4 Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,
2:5 Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i'w gwŷr prïod, fel na chabler gair Duw.
2:6 Y gwŷr ieuaingc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:
2:7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn ensampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb,
2:8 Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i'w ddywedyd am danoch chwi.
2:9 Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrth-ddywedyd;
2:10 Nid yn darn-guddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.
2:11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;
2:12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awrhon;
2:13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwỳnfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist;
2:14 Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl brïodol, awyddus i weithredoedd da.
2:15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyd â phob awdurdod. Na ddïystyred neb di.
PENNOD III.
1 Y mae Paul yn hyffordi Titus pa bethau a ddysg, a pha bethau ni ddysg efe iddynt. 10 Am ochelyd heretic cyndyn. 12 Y mae yn dangos iddo i ba fan, pha bryd, y deuai atto ef: ac felly y mae yn dibennu.
3:1 Dwg ar gôf iddynt fod yn ddarostyngedig i'r tywysogaethau a'r awdurdodau, fod yn ufudd, fod yn barod i bob gweithred dda,
3:2 Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tu ag at bob dyn.
3:3 Canys yr oeddym ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casâu ein gilydd.
3:4 Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tu ag at ddyn,
3:5 Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;
3:6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr :
3:7 Fel, gwedi ein cyfiawnhâu trwy ei ras ef, y'n gwneid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragwyddol.
3:8 Gwir yw y gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.
3:9 Eithr gochel gwestiynau ffol, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer.
3:10 Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd:
3:11 Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunan.
3:12 Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais auafu.
3:13 Hebrwng Zenas y cyfreithiwr, ac Apòlos yn ddiwyd; fel na byddo arnynt eisieu dim.
3:14 A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth.
3:15 Y mae'r holl rai sydd gyd â mi yn dy annerch. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyd â chwi oll. Amen.
¶ At Titus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys y Cretiaid, yr ysgrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.