EPISTOL SANT PAUL AT PHILEMON

4 Y mae yn wych ganddo glywed am ffydd a chariad Philemon; 9 ac yn dymuno arno faddeu i'w was Onesimus, 12 a'i gymmeryd ef adref yn garedig drachefn.

1:1 Paul, carcharor Crist Iesu, a'r brawd Timothëus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cyd-weithiwr,
1:2 Ac at Apphia ein hanwylyd, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:
1:3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
1:4 Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa am danat yn wastadol yn fy ngweddïau,
1:5 Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tu ag at yr Arglwydd Iesu, a thu ag at yr holl saint;
1:6 Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.
1:7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.
1:8 O herwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:
1:9 Etto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn attolwg, er fy mod yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.
1:10 Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:
1:11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awrhon yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;
1:12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:
1:13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyd â mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.
1:14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.
1:15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynit ef yn dragywydd;
1:16 Nid fel gwas bellach, eithr uwch law gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
1:17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymmeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel myfi.
1:18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi;
1:19 Myfi Paul a'i hysgrifenais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ym hellach am danat dy hun hefyd.
1:20 Ië, frawd, gâd i mi dy fwynhâu di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.
1:21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifenais attat, gan wybod y gwnei, ïe, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
1:22 Heb law hyn hefyd, parottoa i mi letty: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi.
1:23 Y mae yn dy annerch, Epaphras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;
1:24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.
1:25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â'ch ysbryd chwi. Amen.

¶ At Philemon yr ysgrifenwyd Rufain, gyd â'r gwas Onesimus.